Rhyddid mynegiant

Mae gennych yr hawl i feddu ar farnau ac i’w mynegi’n rhydd heb ymyrraeth gan y llywodraeth.

Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi’ch barnau yn glywadwy neu mewn:

  • Taflenni, llyfrau neu erthyglau a gyhoeddwyd
  • Celfyddydwaith
  • Drwy ddarlledu ar y radio neu deledu
  • cyfathrebu ar y rhyngrwyd.

 Enghraifft

Mae’r hawl i ryddid mynegiant yn arbennig o bwysig i newyddiadurwyr a phobl eraill yn gweithio yn y cyfryngau. Mae rhaid iddyn nhw gael y rhyddid i feirniadu’r wladwriaeth heb ofni erledigaeth  – mae hyn yn nodwedd bwysig o gymdeithas ddemocrataidd. Fodd bynnag, mae rhaid i’r cyfryngau gadw hawliau dynol eraill mewn cof, megis yr hawl i barch tuag at fywyd preifat.

Hefyd, mae’r gyfraith yn diogelu’ch rhyddid i dderbyn gwybodaeth gan bobl eraill, er enghraifft, drwy fod yn rhan o gynulleidfa neu drwy ddarllen cylchgrawn.

Ar y dudalen hon

Cyfyngiadau

Er bod rhyddid gennych i fynegi’ch barn a’ch credoau, mae’n ddyletswydd arnoch i ymddwyn yn gyfrifol ac i barchu hawliau pobl eraill.

Efallai gall awdurdodau cyhoeddus gyfyngu ar eich hawl i ryddid mynegiad os allan nhw ddangos fod sylfaen briodol i’w gweithredoedd yn ôl y gyfraith, a bod y rheini'n angenrheidiol a ‘chymesur’ er mwyn:

  • gwarchod diogelwch gwlad, uniondeb tiriogaeth neu ddiogelwch y cyhoedd
  • atal anrhefn neu drosedd
  • diogelu iechyd neu foesau
  • diogelu hawliau ac enw da pobl eraill
  • atal datgelu gwybodaeth a dderbyniwyd yn gyfrinachol
  • cynnal awdurdod ac amhleidioldeb y farnwriaeth.

Hwyrach y byddai’n ganiataol i gyfyngu ar eich rhyddid mynegiant, os ydych, er enghraifft, yn mynegi barnau sy’n annog casineb crefyddol neu hiliol.

Fodd bynnag, mae rhaid i’r awdurdod cyhoeddus perthnasol ddangos bod y cyfyngiad yn ‘gymesur’, hynny yw, nid yw’n fwy na’r hyn sy’n angenrheidiol a phriodol yn yr amgylchiadau, a heb fod yn ormodol.

Gweler hefyd, wybodaeth ar gasineb crefyddol neu hiliol yn adran Cydraddoldeb y safle hwn.

Beth a ddywed y gyfraith

Erthygl 10: Rhyddid mynegiant

1. Mae gan bawb yr hawl i ryddid mynegiant. Mae’r hawl hwn yn cynnwys y rhyddid i feddu ar farnau ac i dderbyn a rhoi gwybodaeth a syniadau heb ymyrraeth gan awdurdod cyhoeddus,  waeth beth fo’r ffiniau. Ni all yr Erthygl hon atal y wlad rhag gofyn am drwydded i ganiatáu darlledu, mentrau sinema neu deledu.

2. Gan iddynt gario dyletswyddau a chyfrifoldebau, gall arfer y rhyddfreiniau hyn fod yn ddarostyngedig i’r cyfryw ddefodau, amodau, cyfyngiadau neu gosbau a rhagnodwyd gan y gyfraith ac sydd yn angenrheidiol mewn cymdeithas ddemocrataidd o ran buddiant diogelwch gwladol, trosedd neu anrhefn diriogaethol, ac i ddiogelu iechyd a moesau, diogelu enw da neu hawliau pobl eraill, ac i atal datgelu gwybodaeth a chafwyd yn gyfrinachol, neu at gynnal awdurdod ac amhleidioldeb y farnwriaeth.

Achos enghreifftiol

Observer a’r Guardian v Y Deyrnas Unedig (1991)

Roedd rhai darnau o’r llyfr Spycatcher,gan Peter Wrigh a gyhoeddwyd gan y ‘Guardian’ a’r ‘ Observer’  yn cynnwys deunydd yn haeru bod MI5 wedi gweithredu’n anghyfreithlon. Llwyddodd y llywodraeth i gael gwaharddeb i atal cyhoeddi pellach nes bod camau o ran torri cyfrinachedd wedi darfod. O ganlyniad, cafodd y llyfr ei gyhoeddi’n gyntaf mewn gwledydd eraill ac wedyn yn y Deyrnas Unedig. Cwynodd y Guardian fod parhau’r waharddeb yn torri ar yr hawl i ryddid mynegiant yn Erthygl 10.

Dyfarnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop nad oedd rheswm digonol i barhau’r gwaharddiad cyhoeddi, unwaith i’r llyfr gael ei gyhoeddi ond i’r waharddeb fod yn gyfreithlon oblegid buddiant diogelwch gwladol. Dylid fod wedi ei diddymu uniwaith i’r wybodaeth beidio â fod yn gyfrinachol.

 (Crynodeb achos wedi’i gymryd o Human rights, human lives, Department for Constitutional Affairs, 2006.)

 

back to top