Diogelu rhag arteithio a chamdriniaeth

Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn eich diogelu rhag:

• artaith (meddyliol, corfforol, neu’r ddau);
• triniaeth annynol neu ddiraddiol, neu gosbedigaeth; a
• alltudiaeth neu estraddodiad (cael eich anfon i wlad arall i wynebu cyhuddiadau troseddol) os bydd perygl go iawn y byddwch yn wynebu artaith neu driniaeth annynol neu ddiraddiol neu gosbedigaeth

Rhaid i awdurdodau cyhoeddus beidio â rhoi triniaeth fel hyn i chi, a rhaid iddynt hefyd eich amddiffyn rhag y driniaeth hon pan fydd rhywun arall yn ei achosi. Er enghraifft, os byddant yn gwybod eich bod yn dioddef triniaeth annynol neu ddiraddiol, rhaid iddynt ymyrryd i’w hatal.


Ar y Dudalen yma
 

Beth yw arteithio?

Bydd artaith yn digwydd pan fydd rhywun sy’n gweithredu yn rhinwedd ei swydd (er enghraifft, heddwas neu filwr) yn mynd ati’n fwriadol i achosi poen neu ddioddef difrifol (corfforol neu feddyliol) i unigolyn arall. Efallai y gwneir hyn i gosbi rhywun, neu i’w ddychryn neu gael gwybodaeth oddi wrtho.


Beth yw triniaeth annynol?

Mae triniaeth annynol neu gosbedigaeth yn cynnwys:
• ymosodiadau corfforol difrifol;
• holi seicolegol;
• amodau neu gyfyngiadau carcharu annynol;
• methu â rhoi triniaeth feddygol neu ei chymryd oddi ar rywun a chanddo salwch difrifol; a

• bygwth arteithio rhywun, os bydd y bygythiad yn un go iawn ac uniongyrchol.

Enghraifft

Rhoddwyd dyn ifanc a chanddo broblemau iechyd meddwl mewn gofal preswyl. Yn ystod ymweliad, sylwodd ei rieni ar gleisiau diesboniad ar ei gorff. Codasant y mater â rheolwyr y cartref, ond gwrthodwyd eu pryderon. Rhoddwyd gwybod iddynt hefyd nad oedd ganddynt ganiatâd mwyach i ymweld â’u mab. Aeth y rhieni at y cartref a chrybwyll hawl eu mab i beidio â chael ei drin mewn ffordd annynol a diraddiol, a’u hawl hwy i gael parch am fywyd teuluol. O ganlyniad, diddymwyd y gwaharddiad ar eu hymweliadau a chynhaliwyd ymchwiliad o ran y cleisiau ar gorff eu mab.
(Enghraifft a gymerwyd o The Human Rights Act: Changing Lives, Sefydliad Hawliau Dynol Prydain, 2006.)

Cyfyngiadau

Mae eich hawl i beidio â chael eich arteithio neu’ch trin mewn ffordd annynol neu ddiraddiol yn ddiamod. Mae hyn yn golygu na ddylid byth ei gyfyngu na’i gaethiwo mewn unrhyw ffordd.
Er enghraifft, ni all awdurdod lleol byth defnyddio diffyg adnoddau fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad ei fod wedi trin rhywun mewn ffordd annynol neu ddiraddiol.

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 3: Gwahardd arteithio

Ni chaiff unrhyw un ei amlygu i artaith na thriniaeth annynol neu ddiraddiol na chosbedigaeth.


Achosion enghreifftiol

Z v Y Deyrnas Unedig (2001)

Methodd awdurdod lleol â gwahanu pedwar o blant oddi wrth eu mam er ei fod yn amlwg bod y plant yn dioddef lefel annerbyniol o gam-drin ac esgeulustod tros gyfnod o bedair blynedd. Canfu’r Llys fod gan yr awdurdod rwymedigaeth gadarnhaol i’r plant cyn gynted ag y daethant yn ymwybodol o gam-drin a allai fod yn enghraifft o driniaeth annynol neu ddiraddiol.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)

McGlinchey ac eraill v Y Deyrnas Unedig (2003)

Dedfrydwyd menyw a oedd yn gaeth i heroin ac a oedd yn dioddef asthma i bedwar mis yn y carchar. Tra bu hi yno, dioddefodd symptomau diddyfnu difrifol o ganlyniad i heroin, gan gynnwys chwydu a cholli pwysau. Cynghorodd meddyg, a ymwelodd â hi pan gyrhaeddodd, i’r staff nyrsio fonitro ei symptomau. Gwaethygodd ei chyflwr yn ystod penwythnos, ond ni alwodd y staff nyrsio ar feddyg, ac ni wnaethant ychwaith ei throsglwyddo i ysbyty. Ar fore dydd Llun, ymgwympodd ac aethpwyd â hi i’r ysbyty ar frys, lle bu farw. Mynnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop nad oedd y Gwasanaeth Carchardai wedi diogelu’r fenyw rhag triniaeth annynol, am ei fod wedi methu â chymryd camau priodol i drin cyflwr y carcharor a lleddfu ei dioddefaint, ac wedi methu â gweithredu’n ddigon cyflym i atal ei chyflwr rhag gwaethygu.
(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)


R v Secretary of State for the Home Department, ex parte Limbuela, Tesema & Adam (2005)


Cyrhaeddodd dyn yn y DU o Angola a gwneud cais am loches ar yr un diwrnod. Rhoddwyd llety brys iddo o dan rym yr Ysgrifennydd Gwladol i roi llety i bobl y rhoddir mynediad dros dro i’r DU iddynt. Fodd bynnag, yn fuan wedi hynny penderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad oedd wedi hawlio lloches cyn gynted ag yr oedd yn rhesymol ymarferol, a chymerwyd ei lety oddi wrtho. Gadawyd y dyn yn amddifad, a chysgodd ar y stryd y tu allan i’r orsaf heddlu gan gardota am fwyd oddi wrth bobl a oedd yn pasio. Ar yr un pryd, roedd ganddo broblemau iechyd yr oedd yn cael triniaeth ar eu cyfer. Barnodd Tŷ’r Arglwyddi lle bo’r gyfraith yn gwahardd ceiswyr lloches rhag gweithio, ac nad oes gan elusennau ddigon o adnoddau i’w helpu, mae’n torri ar yr hawl i beidio â chael triniaeth annynol neu ddiraddiol gwrthod cymorth sy’n creu dioddefaint posibl trwy wrthod llety, bwyd neu anghenion sylfaenol.


Chahal v Y Deyrnas Unedig (1996)

Honnodd Sikh Indiaidd a oedd yn byw yn y DU y cawsai ei arteithio petai’n cael ei orfodi i ddychwelyd i India am ei fod yn gefnogwr uchel ei broffil i ymwahaniaeth Sikhiaid. Fodd bynnag, ceisiodd y DU ei alltudio ar sail y ffaith y drwgdybiwyd ei fod yn derfysgwr. Mewn achos pwysig iawn, mynnodd Llys Hawliau Dynol Ewrop fod Erthygl 3 yn gwahardd ei ddychwelyd am ei fod yn wynebu perygl go iawn o gael ei arteithio neu ddioddef triniaeth annynol neu ddiraddiol yn India. Pwysleisiodd y Llys fod y ffaith y drwgdybiwyd ei fod yn gysylltiedig â gweithgareddau terfysgol yn amherthnasol at y dibenion hyn - mae’r diogelwch a roddir gan ddiogelwch rhag arteithio yn ddiamod, ac mae’n estyn i bob aelod o’r bod dynol, ni waith beth fo’u hymddygiad.

Beth yw triniaeth ddiraddiol?

Dim ond os bydd yn cynnwys lefel sylfaenol o ddifrifoldeb y bydd rhyw beth yn cyfrif fel bod yn ddiraddiol. Mae’r lefel hon yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel parhad y driniaeth, ei heffeithiau corfforol neu feddyliol, a rhyw, oedran, diamddiffynnedd ac iechyd y dioddefwr. Seilir y cysyniad hwn ar egwyddor urddas.


Enghraifft

Syrthiodd dyn a chanddo anawsterau dysgu yn y bath yn ei gartref gofal a’i anafu ei hun. I’w gysuro wedi hynny, byddai gweithwyr gofal (a oedd fel arfer yn fenywaidd) yn eistedd gydag ef wrth iddo gael bath. Teimlai un gweithiwr gofal bod y ffaith bod menywod yn ei weld yn noeth yn ddiraddiol i’r dyn, a defnyddiodd ei gwybodaeth o’r hawl dynol hwn i drefnu gosod sgrin rhwng y dyn a’i weithiwr gofal wrth iddo ymolchi.
(Enghraifft a gymerwyd o The Human Rights Act: Changing Lives, Sefydliad Hawliau Dynol Prydain, 2006.)

Enghraifft

Mae amryw o sefyllfaoedd posibl lle gall berson trawsrywiol fod yn destun i driniaeth annynol neu ddiraddiol tu mewn sefydliadau.  O ganlyniad, mae’r Prif Swyddog Nyrsio, er enghraifft, wedi cyhoeddi canllawiau penodol o ran llety priodol mewn ysbytai. Hefyd, dylai rheolwyr cartrefi gofal preswyl neu wasanaethau cartref fod yn ymwybodol o’r angen i sicrhau bod yr hunaniaeth rhyw a fynegwyd gan berson trawsrywiol yn cael ei barchu’n llwyr. Yn arbennig o ran llety penodol ar sail rhywedd, ffurfiau priodol o gyfarch a diogelu preifatrwydd ac urddas yn ystod darparu gofal personol.

Mae ystyriaethau tebyg yn codi o ran llety mewn carchardai. Mae’r Swyddfa Gartref wedi bod yn paratoi (heb ei gyhoeddi eto) gweithdrefn gweithredu (PSO) a fwriedir i gynnwys yr amgylchiadau ynglŷn â neilltuo pobl drawsrywiol i garchardai menywod neu ddynion. Hefyd, sut y dylid trefnu neu barhau ag asesiadau a thriniaeth feddygol.

Mae menywod trawsrywiol yn arbennig, yn gallu dioddef ymosodiadau rhywiol pan fyddant wedi’u rhoi mewn llety amhriodol. Gall peidio â lliniaru’r perygl hysbys hwnnw drwy gymryd camau priodol fod yn gyfystyr ag esgeulustod troseddol a chosbedigaeth ddiraddiol ac annynol.

Byddai mynd i’r afael â risgiau o’r fath drwy leoli carcharorion trawsrywiol mewn caethiwed ar eu pennau eu hunain neu adran ysbyty i’w diogelu, hefyd yn amhriodol. Byddai hyn yn golygu eu bod wedi eu carcharu ar delerau mwy cosbol na charcharor nad yw’n drawsrywiol ac euog farnwyd i’r un hyd o gaethiwed. Cyfrifoldeb ystâd y carchar yw trefnu darpariaethau priodol ar gyfer y nifer bach o bobl drawsrywiol a ddedfrydir i gaethiwed, ac i beidio â’u cosbi’n fwy am eu bod yn anoddach i’w lleoli mewn llety. Adroddwyd am achos enghreifftiol ym mis Medi 2009 yn y Daily Telegraph lle enillodd menyw drawsrywiol yr hawl i gael ei hail-leoli i garchar ar gyfer menywod ar ôl iddi gael ei rhoi’n wreiddiol mewn carchar i ddynion.

Mewn achos arall yn ymwneud â menyw drawsrywiol, enillodd yr hawl i’w chael ei lleoli mewn carchar i fenywod yn y pendraw ar y sail y byddai cael ei rhoi mewn carchar i ddynion yn torri ei hawl i fywyd preifat a theuluol- gweler AB, R (ar gais) v Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder & Anor [2009]

 

 

back to top