Pa sefydliadau sydd wedi'u cynnwys?

Yn gyffredinol, mae cyfreithiau hawliau a chydraddoldeb yn berthnasol i bob sefydliad sydd â gweithwyr cyflogedig. Nid dim ond i’r ffordd y mae cyflogwyr yn trin eu gweithlu cyfredol y maen nhw’n berthnasol: mae’r rheolau’n berthnasol i bopeth o’r ffordd y maen nhw’n recriwtio i’r ffordd y maen nhw’n trin cyn-weithwyr cyflogedig, megis y rhai sy’n cael pensiwn. Mae cyflogwyr yn gyfrifol hefyd am weithredoedd eu staff.

Mae rhai gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r gyfraith yn effeithio ar awdurdodau cyhoeddus:

  • Os ydych yn awdurdod cyhoeddus bydd gennych gyfrifoldebau ychwanegol. Gweler ‘Awdurdodau cyhoeddus’.
  • Os nad ydych chi’n rhan o’r sector cyhoeddus, ond bod gennych gleientiaid sector cyhoeddus, efallai bod ganddyn nhw gyfrifoldebau ychwanegol i wneud yn siŵr eich bod chi’n gweithio mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo cydraddoldeb. Os ydych chi’n cyflawni swyddogaethau o natur gyhoeddus ar eu cyfer, efallai y byddwch chi’n rhannu’r cyfrifoldebau cyfreithiol hyn.

Mae rhestr o’r gwahanol reoliadau ar gydraddoldeb isod ac maen nhw’n berthnasol i bob cyflogwr a gweithiwr cyflogedig. Maen nhw’n gwahardd gwahaniaethu, aflonyddu ac erlid gweithwyr cyflogedig ac eraill ar sail hil, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred ac oed:

  • Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Newid Rhyw) 1999
  • Rheoliadau Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Diwygio) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003
  • Rheoliadau (Diwygio) Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2003
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Gwahaniaethu ar sail Rhyw) 2005
  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Oedran) 2006

Cynhyrchodd y cyn-Gomisiwn Cyfle Cyfartal ar y cod ymarfer ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn cyflogaeth.

Ailedrychodd y cyn-Gomisiwn Cydraddoldeb Hiliol ei god ymarfer ar gydraddoldeb hiliol mewn cyflogaeth  yn 2006.

Hefyd, cynhyrchodd y cyn-Gomisiwn Hawliau i Bobl Anabl y cod ymarfer ar gyflogaeth a galwedigaeth, sy’n rhoi canllawiau i gyflogwyr ac eraill ynglŷn â chyflogi pobl anabl.

Mae’r tri chod uchod yn dal mewn grym ac yn rhoi canllawiau defnyddiol i gyflogwyr. Maen nhw’n ddogfennau statudol, sy’n golygu y bydd tribiwnlysoedd cyflogaeth yn ystyried eu hargymhellion fel tystiolaeth mewn unrhyw achosion cyfreithiol.

Mae gan Acas gyngor defnyddiol i gyflogwyr ar weithredu’r rheoliadau uchod. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Acas.

Atebolrwydd am weithredoedd gweithwyr cyflogedig

Gan amlaf, bydd cyflogwr yn atebol am unrhyw weithredoedd gwahaniaethol gan ei weithwyr cyflogedig.  Er enghraifft:

  • rheolwr sy’n cynnal cyfweliadau mewn modd gwahaniaethol
  • gweithwyr cyflogedig yn aflonyddu ar gydweithiwr anabl.

Nid yw dim ond dangos nad oedd rheolwyr cwmni yn caniatáu camau gweithredu gwahaniaethol yn ddigon.

Efallai y gall cyflogwr sydd wedi cymryd pob cam ymarferol posibl i atal cam gweithredu gwahaniaethol arbennig ddefnyddio hwn fel amddiffyniad. Fel arfer, byddai’n rhaid i gwmni ddangos bod ganddo bolisïau gwrth-wahaniaethu llym ar waith, gyda rhaglenni hyfforddi a gweithdrefnau cwyno cadarn i’w hategu.

Yn gyffredinol, mae cyflogwyr sy’n gweithredu’r mathau hyn o fesurau i fynd i’r afael â’r perygl posibl o wahaniaethu llawer yn llai tebygol o gael eu hunain mewn tribiwnlys cyflogaeth yn y lle cyntaf.

Mwy o wybodaeth am atebolrwydd a chyfrifoldebau cyfreithiol cyflogwyr. Undebau llafur a chymdeithasau eraill

Mae undebau llafur, cymdeithasau cyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a masnach yn gyflogwyr ac yn ddarparwyr gwasanaethau. Maen ganddyn nhw ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu yn y naill swyddogaeth na’r llall.

Er enghraifft, nid oes hawl gan undeb llafur wrthod aelodaeth i weithwyr cyflogedig ar sail wahaniaethol na’u trin yn llai ffafriol wrth ddarparu gwasanaethau megis cynrychioli.

Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau clybiau a chymdeithasau.

Contractwyr yn gweithio i awdurdodau cyhoeddus

Mae gwahardd gwahaniaethu yn berthnasol i bob cyflogwr, boed y sefydliad yn un cyhoeddus, preifat neu wirfoddol. Ond pan fo sefydliad yn cyflawni swyddogaethau o natur gyhoeddus mae’r gyfraith ychydig yn wahanol.

Os ydych chi’n rhedeg cwmni preifat sy’n gweithio fel contractwr i awdurdod cyhoeddus, efallai y bydd gan eich cleient ddyletswydd hefyd i wneud yn siŵr eich bod chi’n gweithio mewn ffordd sy’n hyrwyddo cydraddoldeb yn hytrach na dim ond osgoi gwahaniaethu.  Efallai y byddwch chi’n cael eich ystyried yn awdurdod cyhoeddus, os yw’r gwaith rydych chi’n ei gyflawni o natur gyhoeddus. Os felly, byddwch wedi’ch rhwymo gan y dyletswyddau i hyrwyddo cydraddoldeb.

Mwy o wybodaeth am y dyletswyddau sector cyhoeddus hyn ar ffordd y maen nhw’n berthnasol i gyflenwyr a phartneriaid.

Busnesau bach

Does wahaniaeth a ydych chi’n cyflogi dim ond ychydig o bobl, neu eich bod chi’n cyflogi dros gant, bydd angen eto i chi fodloni gofynion deddfwriaeth cydraddoldeb.

Mae busnesau bach eisoes yn wynebu llawer o alwadau ar eu hamser, ac yn aml nid oes ganddyn nhw staff yn canolbwyntio ar amodau cyflogaeth. Felly, hyd yn oed gyda phob bwriad da, nid yw’n syndod nad ydyn nhw’n ystyried materion cydraddoldeb bob amser.

Ond mae yna resymau pam ddylech chi hyrwyddo cydraddoldeb yn eich busnes. Ni all y rhan fwyaf o fusnesau bach fforddio troi cwsmeriaid i ffwrdd ac maen nhw angen y farchnad ehangaf posibl. Mae’n fuddiol hefyd i fusnesau bach ddal eu gafael ar y staff y maen nhw wedi buddsoddi amser ynddyn nhw a’u datblygu ac mae hynny’n golygu gwneud i bobl deimlo eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi a gwneud addasiadau o bosibl.

Ac os ydych hi’n bwriadu cystadlu am gontractau sector cyhoeddus, bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n ystyried cydraddoldeb o ddifrif.

Lluniodd y tri cyn-gomisiwn cydraddoldeb ganllawiau i fusnesau bach:

  • Cydraddoldeb hiliol a’r busnes bach - canllaw ymarferol.
  • Anabledd a busnes bach.
  • Rhyw a busnesau bach.

Gweler yr adran gyhoeddiadau ac adnoddau am y rhain.

Mae adnoddau defnyddiol ar wefan Acas .

Undebau llafur a chymdeithasau eraill

Mae undebau llafur, cymdeithasau cyflogwyr, cymdeithasau proffesiynol a masnach yn gyflogwyr ac yn ddarparwyr gwasanaethau. Maen ganddyn nhw ddyletswydd i beidio â gwahaniaethu yn y naill swyddogaeth na’r llall.

Er enghraifft, nid oes hawl gan undeb llafur wrthod aelodaeth i weithwyr cyflogedig ar sail wahaniaethol na’u trin yn llai ffafriol wrth ddarparu gwasanaethau megis cynrychioli.

Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau clybiau a chymdeithasau.

Asiantaethau cyflogaeth

Nid oes hawl gan asiantaeth cyflogaeth weithredu mewn ffordd wahaniaethol wrth ddarparu ei gwasanaethau, boed hynny i sefydliad y mae’n cyflenwi iddo neu i’r ymgeiswyr y mae’n eu cyflwyno ar gyfer gwaith o bosibl. Fel cyflogwr, mae wedi’i rwymo gan yr un fframwaith cyfreithiol ag unrhyw sefydliad arall.

Mae mwy o wybodaeth i’w chael yn Rhan 5 cod ymarfer statudol y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ar gyflogaeth hiliol ym maes cyflogaeth.

Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau.

 

 

back to top