Yn yr adran hon, gallwch chi gael gwybod am wahaniaethu ar sail rhyw a sut gallai hyn effeithio arnoch. Gallwch ddarganfod sut mae’r gyfraith yn diffinio gwahaniaethu a dysgu am y nifer fechan o amgylchiadau lle gall gwahaniaethu fod yn gyfreithlon.
Bydd gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw yn digwydd pan fydd rhywun yn cael ei drin yn annheg oherwydd ei ryw. Gall menywod, dynion a phobl drawsrywiol brofi gwahaniaethu ar sail rhyw.
Mae gwahaniaethu ar sail rhyw hefyd yn cynnwys trin rhywun yn llai teg am ei fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil: er enghraifft, trwy beidio â recriwtio menywod priod.
Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am eich hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail rhyw: