Pobl drawsrywiol: eich hawliau o ran preifatrwydd

Gwybodaeth a ddiogelir am bobl drawsrywiol

Mae Adran 22 o’r Ddeddf Cydnabod Rhyw yn dweud ei bod yn drosedd i berson ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir a gafwyd mewn cyd-destun swyddogol i unrhyw berson arall.

Mae ‘gwybodaeth a ddiogelir’ yn golygu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherson sydd wedi gwneud cais o dan y Ddeddf Cydnabod Rhyw.  Mae hyn yn cwmpasu ffaith y cais ei hun ac, os oedd y cais yn llwyddiannus, y ffaith fod yr unigolyn yn arfer perthyn i’r rhyw arall, nid yr un y maent yn cael eu cydnabod yn gyfreithlon yn awr.

Mae person yn cael gwybodaeth mewn ‘cyd-destun swyddogol’ os yw’n gweithredu:

  • mewn cysylltiad â’i swyddogaethau fel aelod o’r gwasanaeth sifil, cwnstabl neu ddeiliad unrhyw swydd gyhoeddus arall neu mewn cysylltiad â swyddogaethau awdurdod lleol neu gyhoeddus neu sefydliad gwirfoddol,
  • fel cyflogwr, neu ddarpar gyflogwr, y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef/hi neu fel person a gyflogir gan gyflogwr neu ddarpar gyflogwr o’r fath, neu
  • wrth gynnal neu mewn cysylltiad â chynnal busnes neu gyflenwi gwasanaethau proffesiynol.

Nid yw’n drosedd datgelu gwybodaeth a gafwyd o dan yr amgylchiadau hyn os:

  • na ellir adnabod y person trwy’r wybodaeth, neu
  • bod y person hwnnw wedi cytuno i ddatgelu’r wybodaeth, neu
  • nad yw’r person sy’n datgelu’r wybodaeth yn gwybod neu’n credu o ddifrif bod tystysgrif cydnabod rhyw lawn wedi’i rhoi, neu
  • bod y wybodaeth yn cael ei datgelu yn unol â gorchymyn llys neu dribiwnlys, neu
  • bod y wybodaeth yn cael ei datgelu er mwyn dechrau achos llys neu dribiwnlys, neu
  • bod y wybodaeth yn cael ei datgelu er mwyn atal neu ymchwilio i drosedd, neu
  • bod y wybodaeth yn cael ei datgelu i Gofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr, Cofrestrydd Cyffredinol yr Alban neu Gofrestrydd Cyffredinol Gogledd Iwerddon, neu
  • bod y wybodaeth yn cael ei datgelu ar gyfer y system nawdd cymdeithasol neu gynllun pensiwn, neu
  • bod y wybodaeth yn cael ei datgelu yn unol â’r darpariaethau a wnaed drwy reoliadau y mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol hawl eu gwneud o dan y Ddeddf.

Nid yw’r gyfraith yn berthnasol i wybodaeth am gais cydnabod rhyw person neu hanes ailbennu rhywedd pan fo’r wybodaeth yn deillio o du allan i leoliad swyddogol – er enghraifft, drwy gysylltiad cymdeithasol.

Beth mae’r gyfraith yn ei olygu

Mae hyn yn golygu bod angen i chi fod yn benodol iawn wrth ymdrin â rheolwyr sy’n eich cyflogi, a swyddogion sy’n darparu gwasanaethau, ynglŷn â’r hyn rydych yn caniatáu iddynt ei wneud.

Efallai nad yw pobl mewn awdurdod wedi’u hyfforddi i ddeall yr agwedd hon ar y gyfraith.  Fodd bynnag, nid yw anwybodaeth yn amddiffyniad yn y materion hyn.  Gelwir hyn yn drosedd ‘atebolrwydd llym’, ac mae rhesymau lliniarol dros hyn ar wahân i’r disgwyliadau a restrir.

Gan fod cael swyddogion i ddeall pwysigrwydd y darpariaethau hyn o fudd i berson trawsrywiol, yn aml mae’n syniad da bod yn barod i’w helpu drwy egluro’u cyfrifoldebau.

Nid yw’r gyfraith yn gymwys i ddatgelu ar lafar yn unig.  Mae gwaith papur a chofnodion cyfrifiadurol yn bwysig hefyd.  Felly, mae’n rhaid i swyddogion fod yn ofalus ynglŷn â’r hyn y maent yn ei gofnodi a’i ffeilio amdanoch chi (neu’r hyn a gafodd ei gofnodi a’i ffeilio yn y gorffennol)  er mwyn atal eraill rhag gweld gwybodaeth sy’n cael ei diogelu yn sgil cais ailbennu rhywedd a chydnabyddiaeth gyfreithiol.

Diben y gyfraith

Diben y gyfraith oedd cydnabod bod yna amseroedd cyfiawn pan fo pobl angen gwybod am ailbennu rhywedd person trawsrywiol er mwyn gwneud y peth gorau ac iawn.  Nid gorfodi cyfrinachedd llwyr yw diben y gyfraith ond atgoffa swyddogion bod ganddynt gyfrifoldeb pwysig am ganlyniadau negyddol posibl defnyddio gwybodaeth yn anghyfrifol.

Mewn geiriau eraill, diben y gyfraith yw sicrhau pobl drawsrywiol na fydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â dieithriaid nad oes angen iddynt wybod pan fyddant yn rhannu’r wybodaeth.

Pryd y gallai fod yn fanteisiol rhannu gwybodaeth

Yn ymarferol efallai y bydd amgylchiadau lle bydd angen i swyddogion egluro y gallai’r methiant i rannu gwybodaeth a ddiogelir â chydweithiwr effeithio ar y gwasanaeth y byddant yn ei dderbyn.  Mewn achosion o’r fath, dylai swyddog cyfrifol egluro canlyniadau tebygol peidio â datgelu gwybodaeth er mwyn i’r unigolyn allu gwneud penderfyniad gwybodus i roi caniatâd i rannu gwybodaeth yn gyfyngedig.  Ond penderfyniad cwbl wirfoddol yw hwn.

Mae’n syniad cofio bod y defnydd o wybodaeth bersonol yn cael ei reoli’n llym gan Ddeddf Diogelu Data 1998 a chan gyrff cofrestru proffesiynol.

Er enghraifft, wrth ymgymryd â swydd newydd efallai y byddai o fudd i chi pe bai arbenigwr iechyd galwedigaethol neu archwilydd meddygol ar gyfer cynlluniau pensiwn ac yswiriant y cyflogwr yn ymwybodol o’r wybodaeth am ailbennu rhywedd yn eich hanes meddygol.  Nid yw hyn yn awgrymu fod y driniaeth ailbennu rhywedd yn cyflwyno risgiau, ond gallai fod yn ddefnyddiol er mwyn i’r gweithwyr proffesiynol hyn allu deall gweddill eich hanes meddygol yn iawn.

Wrth gyflenwi’r wybodaeth, gallwch nodi ei bod yn cael ei rhoi dan amddiffyniad Adran 22 o’r Ddeddf Cydnabod Rhyw, a beth mae hynny’n ei olygu.

Mae archwilwyr proffesiynol o’r fath wedi hen arfer ymdrin ag hanesion meddygol personol a phreifat ac yn adrodd eu casgliadau am risgiau sydd wedi’u hyswirio’n unig.  Nid yw’r manylion yn eu cofnodion ar gael i’r sefydliadau sy’n defnyddio eu gwasanaethau.  Felly, byddant yn cael eu defnyddio i ddangos sut mae tynnu casgliadau ffeithiol o’r wybodaeth y maent wedi’i derbyn heb ddatgelu manylion a allai godi cywilydd.
 

back to top