Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (DGSA) yn dweud ei bod hi’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn os ydych chi’n anabl:
- o ran telerau’r gyflogaeth sy’n cael ei chynnig;
- o ran y cyfleoedd i gael dyrchafiad, trosglwyddo, hyfforddiant neu dderbyn unrhyw fantais arall;
- trwy wrthod cynnig, neu beidio â chynnig yn fwriadol, unrhyw gyfle o’r fath i chi; neu
- trwy eich diswyddo, neu eich trin mewn unrhyw ffordd negyddol arall.
Am wybodaeth i gyflogwyr am wneud addasiadau ar gyfer gweithwyr cyflogedig anabl gweler Busnesau a sefydliadau: Cyflogwyr.
I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith, gweler Hawliau ar waith: gweithio ac ennill cyflog.