Mae darparwyr addysg yng Nghymru a Lloegr yn gyfrifol am fynd i’r afael â phob math o fwlio o dan Ddeddf Addysg 2002. Rhaid i ysgolion unigol sefydlu polisi gwrth-fwlio sy’n pennu sut y byddant yn:
Mewn rhai achosion, gall bwlio gynnwys aflonyddu, gwahaniaethu neu erlid ar sail oed, crefydd neu gred, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd. Mae’r rhain i gyd yn anghyfreithlon. Gallant hefyd fod yn droseddau.
Yn yr Alban, argymhellir i bob ysgol weithredu polisi gwrth-fwlio, ond nid yw’n ofynnol i’r ysgol wneud hynny o dan y gyfraith. Ceir rhagor o wybodaeth am ymdrin â bwlio yn ysgolion yr Alban ar y wefan respect me.
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yn gwahardd gwahaniaethu yn erbyn unrhyw ddisgybl ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol. Golyga hyn fod rhaid i ysgolion ymdrin â bwlio ar sail cyfeiriadedd rhywiol gwirioneddol (neu dybiedig) yr un mor llym â bwlio ar sail hil, rhyw, anabledd, crefydd neu gred, ac oed.
Ceir rhagor o wybodaeth am Reoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 drwy lawrlwytho canllawiau o’r
Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Mae’r rheoliadau cydraddoldeb amrywiol sy’n gysylltiedig â chyflogaeth yn amddiffyn gweithwyr ysgolion rhag aflonyddwch yn y gweithle ar sail cyfeiriadedd rhywiol, oed, crefydd neu gred, rhyw, hil, neu anabledd. Ceir rhagor o wybodaeth am eich hawliau yn y gwaith ac wrth ennill cyflog yma.
Sut ddylwn i ymdrin â bwlio fel rhiant?
Mae yna lawer o gymorth a gwybodaeth ar gael i rieni ar sut i ymdrin â bwlio. Mae’r camau canlynol yn rhoi braslun syml iawn o’r hyn y gallai rhieni ei wneud.
Mae gwefan canllawiau cyngor y Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn cynnwys gwybodaeth am sefydliadau a allai helpu.
Bwlio a allai gael ei ystyried yn drosedd casineb
Mae’r Swyddfa Gartref yn diffinio trosedd casineb fel unrhyw ddigwyddiad, sy’n drosedd, y mae’r dioddefwr neu unigolyn arall yn ystyried iddo gael ei achosi gan ragfarn neu gasineb. Mae hyn yn mynd y tu hwnt i achosi tramgwydd neu elyniaeth yn unig, a gallai fod yn gysylltiedig â hil, crefydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd rhywun. Ceir rhagor o wybodaeth am droseddau casineb ar wefan y Swyddfa Gartref.
Yn Neddf Trosedd ac Anhrefn 1998 crëwyd troseddau newydd amrywiol ar sail hil neu grefydd, fel a ganlyn:
Mae Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006 yn ei gwneud hi’n drosedd i ddefnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol gyda’r bwriad o annog casineb yn erbyn unrhyw grŵp o bobl a ddiffinnir yn ôl eu credoau crefyddol neu ddiffyg credoau crefyddol.
Cyflwynodd Deddf Cyfiawnder Troseddol 2003 ddedfrydau mwy llym ar gyfer troseddau ar sail casineb at gyfeiriadedd rhywiol y dioddefwr (rhaid i’r llys sy’n dedfrydu ystyried hyn fel ffactor gwaethygol, yn ogystal â throseddau ar sail casineb at hil neu grefydd). Cewch ragor o wybodaeth drwy edrych ar gyfarwyddyd y Cyngor Canllawiau Dedfrydu ar gasineb fel ffactor gwaethygol.
Yr heddlu (nid darparwyr addysg) sy’n gyfrifol am ymchwilio ac ymdrin ag achosion lle y gallai troseddau casineb fod wedi digwydd. Dylid hysbysu’r heddlu o unrhyw achosion o’r fath cyn gynted â phosibl.
Os nad ydych am wneud hyn eich hunan, gallwch ofyn i’ch darparwr addysg wneud hyn ar eich rhan.
Cewch gyngor ar sut i ymdrin â bwlio homoffobig mewn ysgolion ar wefan Wired for Health.