Mae casgliadau’n hymchwiliad ffurfiol yn dangos bod aflonyddu yn brofiad cyffredinol i bobl anabl sy’n byw yng Nghymru. Y llynedd roedd tua 100,000 o oedolion anabl yng Nghymru wedi dioddef gan drosedd ond gwyddom mai dim ond nifer fach o’r achosion yw’r rhain.
O'r golwg yng ngolwg pawb-
Gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael ag aflonyddu ar sail anabledd
Dydd Iau 6 Hydref 2011 - Abertawe
Dydd Iau 13 Hydref 2011 - Wrecsam
Ymunwch â ni i drafod casgliadau adroddiad Cymru a’r ffordd ymlaen.
‘Uffern ar y ddaear’: tystiolaeth yn dangos bod aflonyddu yn brofiad cyffredin i lawer o bobl anabl
12 Medi 2011
Mae casgliadau’n hymchwil ffurfiol a lansiwyd heddiw yn dangos bod aflonyddu ar sail anabledd yn brofiad cyffredin i lawer o bobl anabl sy’n byw yng Nghymru. Mae’n helaeth iawn ac mae diwylliant o anghrediniaeth wedi atal awdurdodau cyhoeddus rhag ymdrin ag ef yn effeithiol.
Cadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Pen-y-bont yw Simon. Yn y film fer hon mae Simon yn siarad yn agored am ei fywyd, ei gariad at rygbi a’r cam-drin a’r aflonyddu y mae wedi dioddef oherwydd ei fod yn defnyddio cadair olwyn.
Mae’n hymchwiliad Prydain gyfan yn dangos bod aflonyddu ar sail anabledd yn brofiad dyddiol i lawer o bobl anabl. Mae’r crynodeb hwn o’r prif adroddiad yn ymwneud â phwyntiau sy’n arbennig o berthnasol i Gymru.
Mae canfyddiadau ac argymhellion sy’n benodol i Gymru ac amlinellir y rhain yma:
• Ein canfyddiadau yng Nghymru
• Ein hargymhellion yng Nghymru
Mae’r adroddiad llawn, crynodeb gweithredol a chrynodeb yr Alban ar dudalennau Ymchwiliad y Comisiwn i aflonyddu ar sail anabledd. Yno hefyd, mae argymhellion Prydain gyfan ac amrywiaeth o ddeunyddiau mewn fformatau hygyrch.
Cewch ddarllen am sut a pham wnaeth y Comisiwn ymgymryd â’r ymchwiliad.
Adroddiad Cynhadledd y Comisiwn yng Nghymru ynghylch y gymdeithas newidiol yn oes Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.
Gall y profiad o gael eich bwlio neu’ch aflonyddu fod yn un anodd i ymdrin ag ef wrth eich hunan. Mae nifer o sefydliadau ar lefel gwladol, rhanbarthol neu leol a all gynnig cymorth. Isod, ceir rhestr o rai pwyntiau cyswllt allweddol ar lefel cenedlaethol. Yn ei dro, gall efallai gyfeirio pobl at ffynonellau cymorth lleol os yw’n well ganddynt.