Creu Prydain Decach
Mae adroddiad carreg filltir a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn cydweithrediad Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn bwrw golwg ar y ffeithiau ynghylch anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru mewn ffordd heriol a newydd.
Daw Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru (Saesneg yn unig) [1] thystiolaeth at ei gilydd am y tro cyntaf erioed sy'n darlunio llun grymus o wlad sydd ag anghydraddoldebau sydd wedi hen ymwreiddio'n ddwfn.
O'i ystyried trwy lens nodweddion pobl megis rhywedd, ethnigrwydd, oed ac anabledd, dengys yr adroddiad effaith cefndir teuluol ar gyfleoedd mewn bywyd. Ac i rai pobl, mae'r anfantais yn dechrau ar enedigaeth ac yn parhau trwy'r cyfnod addysg a gwaith ac i mewn i'r cyfnod ymddeol- yn aml yn cael ei barhau yn y genhedlaeth nesaf.
Y darlun a ddaw i'r golwg yw Cymru lle mae'r bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yn gulach nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ond mae anghydraddoldebau parhaus a difrifol, rhwng y rhai sydd 'r cyfle i lwyddo a'r rheini nad oes ganddynt y cyfle.
Lansir yr adroddiad sydd yn edrych ar ganlyniadau ym myd addysg, cyflogaeth, enillion, incwm, tlodi a chyfoeth yn ddiweddarach y prynhawn hwn ym Mhrifysgol Caerdydd (Mai 12).
Rhydd yr adroddiad Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru dystiolaeth bod:
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i Gymru:
"Mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn hanfodol bwysig - yn meddwl eich bod yn adnabod Cymru, go brin. Heriaf, na fydd neb wrth fwrw golwg ar yr adroddiad hwn yn methu dod ar draws o leiaf un ffaith annisgwyl am fywyd yn y Gymru sydd ohoni heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain.
Rydym am i chi ddarllen yr adroddiad a rhoi eich hun yn esgidiau'r bobl sydd yn dioddef yr anghydraddoldebau, parhaus, ysol sy mor amlwg ym myd addysg, cyflogaeth ac enillion.
Nid ydym yn haeru bod yr atebion gan yr adroddiad hwn ond bydd y dystiolaeth ynddo'n ddefnyddiol wrth bennu'r ffordd orau i ddefnyddio adnoddau er budd a lles pobl.
Gwyddom ni oll fod teimladau o gael ein gwerthfawrogi, ein parchu a'n hymddiried ynddo yn is mewn cymdeithasau lle bo bwlch mawr rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Bydd anhapusrwydd, trosedd a thrais yn aml yn uwch. Gellir niweidio'n ddifrifol y berthynas dda sydd rhwng pobl yn y gymdeithas.
Os ydym i wireddu Cymru sydd yn gryf ac yn hyderus yn y dyfodol, rhaid i ni beidio throsglwyddo tlodi ac anfantais i'r genhedlaeth nesaf."
Dywedodd yr Athro Teresa Rees CBE AcSS, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd:
"Dylai'r adroddiad hwn sy'n ysgogi meddwl, chwarae rhan bwysig o ran polis¯au yng Nghymru sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac a luniwyd i fynd i'r afael ffurfiau parhaus o anghydraddoldeb yn ogystal ffurfiau newydd eu darganfod fel ei gilydd. Yn hanfodol, ni ddylai tlodi fod yn rhywbeth i'w drosglwyddo gan rieni i'w plant."
Diwedd
Cysylltwch Saska Shepherd ar 02920 447787, symudol 07875765953 am wybodaeth bellach neu gais am slot cyfweliad.
Os hoffech ddelweddau neu ddarluniau strategol ar gyfer eich gwefan, cyhoeddiad neu lwyfan darlledu, yna cysylltwch mewn e-bost neu ffoniwch y rhifau ff´n uchod.
[1] Cewch ddolen i adroddiad darluniadol Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru ar wefan y Comisiwn.