Maer Comisiwn yng Nghymrun amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol i bawb sydd yn byw neun gweithio yng Nghymru.

Darlith flynyddol hawliau dynol

Sylwer os gwelwch yn dda bod y ddarlith hon yn cael ei hail-drefnu ar gyfer yr hydref. Os ydych eisoes wedi trefnu lle, byddwn yn cysylltu â chi cyn hir i gadarnhau’r dyddiad newydd a’r man cyfarfod.

Mae’n bleser gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol  yng Nghymru estyn croeso ichi i’n darlith hawliau dynol flynyddol, a thraddodir gan y Fonesig Nuala O’Loan, DBE, a bydd Llywydd Cynulliad Cymru, Rosemary Butler AC wrth y llyw.

Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb 2012 - Sbarduno newid: Cyflawni effaith

13 Mehefin 2012 - Llandrindod

Rydym oll yn ymgysylltu i sbarduno newid i hybu cydraddoldeb a hawliau dynol ac i alluogi ein sefydliadau i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl Cymru. Yn fwy nag erioed, mae angen inni gynllunio at y dyfodol i amlhau i’r eithaf ein cyfleoedd i lwyddo a defnyddio’r arfau sydd ar gael i ni ateb yr heriau a ddaw yn sgil adnoddau sy’n gynyddol leihau. Mae agenda’r gynhadledd yn llawn o weithdai rhyngweithiol a siaradwyr cyffrous.

Newyddion a digwyddiadau yng Nghymru

12/03/12

Comisiwn a Llywodraeth Cymru’n llunio canllaw i Awdurdodau Lleol ynglŷn â gwasanaethau un rhyw
Mae Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllaw byr i Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Bydd yn eu cynorthwyo wrth iddynt ateb dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus ac yn helpu egluro’r sefyllfa ynglŷn â gwasanaethau un rhyw.

Digwyddiadau Rhwydwaith y Gyfnewidfa Cydraddoldeb: Mawrth 2012 - Cyflawni’r dyletswyddau penodol yn hyderus

  • Dydd Gwener 24 Chwefror – Llandudno
  • Dydd Mawrth 13 Mawrth – Caerdydd
  • Dydd Mawrth 27 Mawrth – Caerfyrddin

Mae’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau Rhanbarthol y Gyfnewidfa Cydraddoldeb yn adeiladu ar y gweithdai dyletswyddau penodol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr.

Adnoddau'r Comisiwn

Dolenni defnyddiol a gwybodaeth bwysig o'r Comisiwn

 

Prosiectau yng Nghymru

Diweddariad Pwy sy'n rhedeg Cymru? 2012

Mae’r adroddiad hwn, a ddiweddariwyd ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2012, yn rhoi ciplun o bwy sydd yn eistedd wrth yr uwch fyrddau o rym a dylanwad ym mywyd Cymru.

O'r golwg yng ngolwg pawb

 

 

 

Mae casgliadau’n hymchwiliad ffurfiol yn dangos bod aflonyddu yn brofiad cyffredinol i bobl anabl sy’n byw yng Nghymru. Y llynedd roedd tua 100,000 o oedolion anabl yng Nghymru wedi dioddef gan drosedd ond gwyddom mai dim ond nifer fach o’r achosion yw’r rhain.

Pa mor deg yw Cymru?

Mae'r Adolygiad hwn yn dwyn at ei gilydd, am y tro cyntaf, dystiolaeth i ateb y cwestiwn 'Pa mor deg yw Cymru?'. Mae'n cynnig safbwynt newydd ar rhai anghydraddoldebau parhaus ac mae'n nodi rhai heriau newydd.

Eich Busnes Chi - Polisiau yn y gweithle ar gam-drin domestig ac iechyd meddwl

Canfu ein hymchwil Pwy rydych chi'n ei weld? Byw gyda'n gilydd yng Nghymru bod rhagfarnau'n dyfalbarhau tuag at gam-drin domestig a phobl a chyflyrau iechyd meddwl. Dyma ddau faes y dylai gyflogwyr yng Nghymru ymwneud a hwy er mwyn mynd i'r afael ag absenoldeb salwch, a chadw staff medrus a phrofiadol a sicrhau bod staff yn teimlo'n ddiogel yn y gweithle a bod ganddynt gymorth a chefnogaeth yno.

Prosiectau arall...