Bydd Mike Smith, Comisiynydd Arweiniol yr Ymchwiliad i Aflonyddu ar sail Anabledd, ynghyd ag aelodau ein Pwyllgor Anabledd, yn siarad mewn nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill, ynghylch y casgliadau a’r argymhellion ar gyfer y sectorau penodol sy’n rhan o’n Hadroddiad Hidden in Plain Sight. Cewch fwy o wybodaeth ynglŷn â’r digwyddiadau hyn drwy ddilyn y dolenni isod:
Rydym yn cynnal digwyddiad ymgynghori pwysig ar 17 Ionawr 2012, gyda sefydliadau pobl anabl, sefydliadau cymorth a chyngor y trydydd sector a sefydliadau sector cyhoeddus.
Ffocws y digwyddiad yw meithrin dulliau ymarferol i helpu awdurdodau cyhoeddus fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd, gyda chyfraniad strategol sefydliadau pobl anabl.
Bydd y digwyddiad, i’w gynnal ym Manceinion, yn cynnig cyfle i sefydliadau pobl anabl i ddylanwadu ar awdurdodau cyhoeddus o ran llunio cynlluniau gweithredol, ac i sôn wrthynt am y blaenoriaethau y dylai fod ganddynt wrth fynd i’r afael ag aflonyddu ar sail anabledd.
Hoffwn yn arbennig glywed oddi ar sefydliadau pobl anabl sy’n cael eu rhedeg gan bobl anabl (ULOs). Hefyd, oddi wrth y rheiny sy’n gweithio yn y trydydd sector ac yn darparu cyngor a chymorth i unigolion sy wedi dioddef aflonyddu ar sail anabledd.
I fynegi’ch diddordeb yn y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at: communications@equalityhumanrights.com