Achos wyth: Laura Milne

Ar 12 Rhagfyr 2007, roedd Laura Milne, menyw ifanc a chanddi anableddau dysgu, mewn fflat yn Aberdeen gyda thri o bobl, Stuart Jack, Debbie Buchan a Leigh Mackinnon. Roedd Laura wedi cael ei bwlio gan Buchan o’r blaen pan roedden nhw yn yr ysgol gyda’i gilydd. Hefyd, roedd Buchan yn bresennol ar achlysur arall yn 2006 pan ymosodwyd ar Laura â ffon golff.

Beth a ddigwyddodd

Y noson honno, roedd y pedwar ohonynt wedi bod yn yfed alcohol pan ddechreuon nhw gweryla. Dyrnwyd Laura, ei chicio a’i stampio a gorfodwyd hi i yfed gwydraid o biso. Y sôn yw bod Mackinnon a Buchan wedi mynnu i Jack ‘ei difetha’n llwyr’. Slaesiodd Jack wddf Laura dro ar ôl tro â chyllell cegin. Dywedodd yn ddiweddarach ei fod wedi mwynhau slaesu ei gwddf a’i fod wedi ei lladd gan iddi fod yn ‘ddiwerth’. 

Ar 16 Rhagfyr, aeth Jack a Buchan yn ôl i’r fflat a cheisio, yn aflwyddiannus, datgymalu corff Laura drwy hacio at ei gwddf a’i choesau. Yna, cuddion nhw ei chorff mewn cwpwrdd o dan y sinc yn y gegin. Y diwrnod wedyn, cafodd Laura ei chofnodi fel unigolyn ar goll gan Heddlu Grampian ar ôl i staff prosiect ‘Stopover’, lle y trigai, gysylltu â nhw. Darganfyddwyd ei chorff yn y fflat, dau ddiwrnod yn ddiweddarach. 
 
 

Yr ymateb

Roedd Laura yn byw bywyd cythryblus, yn yfed yn drwm ac yn byw mewn llety a drefnwyd gan amryw o brosiectau llety noddedig. Nid oedd ganddi ond ambell i ffrind hir dymor.

Roedd gan Laura hanes hir o gyswllt â’r heddlu a’r gyfundrefn cyfiawnder droseddol, cryn dipyn ohono yn ymwneud â’i hyfed trwm a cham-ddefnyddio’r rhif 999. Cyhuddwyd Laura gan yr heddlu o gam-ddefnyddio’r rhif 999. Hefyd, llenwon nhw ffurflen ‘oedolyn yn wynebu risg’(OPS 12/1), yn dilyn ei galwadau 999 distaw, a’i hanfon at y gwasanaethau cymdeithasol. Ni allai Cyngor Dinas Aberdeen gadarnhau a oedd y ffurflen honno wedi ei derbyn neu a oedd gweithredu wedi digwydd o’i hachos.

Ar adeg ei llofruddiaeth, roedd Laura yn destun i orchymyn prawf teirblwydd. Roedd ganddi weithiwr cymdeithasol cyfiawnder troseddol  ag ymdrechai i gadw mewn cysylltiad â hi yn wythnosol o ganlyniad i angen lefel uchel Laura, ond ansicr oedd ei phresenoldeb. Roedd gweithiwr cymdeithasol gan Laura hefyd, ond daeth gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Aberdeen â’r achos i ben, ym mis Tachwedd 2007, o ganlyniad i ‘ddiffyg ymgysylltu’.

Hefyd, roedd gan ddau o’r tri throseddwr gysylltiad â’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd Buchan yn destun i orchymyn prawf ar adeg llofruddiaeth Laura. Roedd gweithiwr cymdeithasol ganddi a oedd yn pryderu fod Buchan yn wynebu risg o gael ei niweidio. Roedd MacKinnon hefyd yn destun i orchmynion llys ac argymhellwyd iddi gael therapi teuluol.

 

Erlyniad

Collfarnwyd y tri ohonynt a oedd yn gysylltiedig â llofruddiaeth Laura. Cyfaddefodd Jack i lofruddio a dedfrydwyd ef i garchar am 18 o flynyddoedd. Cyfaddefodd Buchan a Mackinnon i ymdrechu i lofruddio a dedfrydwyd hwy i naw blynedd i’r naill a naw blynedd a phedwar mis i’r llall. 

Ni chyflwynwyd y Ddeddf Troseddau (Gwaethygu drwy Ragfarn) (Yr Alban) (2009) tan gryn dipyn o amser ar ôl yr achos hwn, ac felly nid oedd yn bosibl i erlyn y troseddau fel rhai casineb. Yn y gwrandawiad, gwnaethom drafod a fyddai llofruddiaeth Laura yn cael ei hystyried, yn awr, yn drosedd casineb ar sail anabledd. Dywedodd Fred McBride, cyfarwyddwr gofal cymdeithasol a lles yng Nghyngor Dinas Aberdeen: ‘Gellir dadlau a oedd Stuart Jack, a ddifrïodd Laura... a oedd yn ei hystyried hi’n ddiwerth oherwydd bod ryw lefel o anabledd ganddi... dim ond efe a ŵyr, sbo.’ [1]


1 Gwrandawiadau ymchwiliad, 22/02/11.
 

Y broses adolygu

Ni chynhaliwyd adolygiad ffurfiol o farwolaeth Laura gan yr asiantaethau a oedd yn gysylltiedig.

Bu Laura farw prin dros flwyddyn ar ôl i ymosodiad corfforol a rhywiol, difrifol iawn ddigwydd mewn amgylchiadau cyffelyb, yn yr un ardal, ar fenyw ifanc arall a chanddi anawsterau dysgu. Er i’r fenyw ifanc oroesi’r ymosodiad, cafodd ei hanharddu’n barhaol.

Cynhaliwyd adolygiad i’r achos cynharach. Roedd y troseddwyr i gyd yn adnabyddus i’r gwasanaethau cyfiawnder troseddol ac roedden nhw i gyd yn destun i waith cymdeithasol ar adeg y drosedd. Ymgymerwyd â’r adolygiad yn y misoedd cyn marwolaeth Laura a chyhoeddwyd ef ond dau ddiwrnod ar ôl llofruddiaeth Laura, cyn i’w chorff gael ei ddarganfod. Fe wnaeth argymhellion ynglŷn â sut i drin y sawl sydd o fewn y system cyfiawnder troseddol sydd, hefyd, ag anghenion o natur gymdeithasol a meddygol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod yr adolygiad wedi ei chynnal ar sail asiantaeth unigol (gwasanaethau cymdeithasol) yn hytrach nag un aml-asiantaeth. O ganlyniad, ni chysylltwyd ag asiantaethau eraill wrth ystyried sut i ddiogelu menywod ifanc agored i niwed eraill a chanddynt anableddau dysgu. Pan holwyd yr asiantaethau ynglŷn â hyn, dim ond y gwasanaethau cymdeithasol oedd yn gwybod am yr adroddiad neu’r achos.

Awgrymodd yr asiantaethau y byddai eu hymateb i’r risgiau a wynebwyd gan rywun fel Laura yn well yn awr. Mae hyn o ganlyniad i’r Ddeddf Diogelwch a Chymorth i Oedolion (yr Alban) (2007) a basiwyd gan Lywodraeth yr Alban ym mis Chwefror 2007 ond heb ei gweithredu tan fis Hydref 2008. Er enghraifft, mae gan yr heddlu gyfundrefnau gwell ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r cyngor pan ddaw oedolyn yn agored i risg i’w sylw ac mae’r cyngor yn cynnal a chadw data-bas ‘unigolion bregus’. Mae cynlluniau diogelwch a chymorth i oedolion yn eu lle ar gyfer oedolion sy’n agored i niwed.

 

back to top