Achos un: David Askew

Bu farw David Askew o drawiad ar y galon, yng ngardd gefn ei gartref, ym mis Mawrth 2010. Fe gwympodd, munudau ar ôl i lanciau lleol, yn honedig, daflu bin olwyno o gwmpas ac ymyrryd â sgwter symudedd ei fam.

Beth ddigwyddodd

Dyn 64 oed ag anableddau dysgu ganddo oedd David a oedd yn byw yn Hattersley, Greater Manchester gyda’i frawd hŷn a’u mam. Bu’n destun aflonyddu gan o leiaf 26 o wahanol bobl dros gyfnod o fwy na 12 mlynedd. Roedd nifer o’r rheiny a oedd yn gyfrifol am yr aflonyddu yn hwyrach yn ei oes, yn blant i bobl a gredir iddynt gymryd rhan mewn helyntion aflonyddu yn gynharach yn ei fywyd. Digwyddai’r aflonyddu yn ei gartref ac yn y siopau gerllaw yn Kingston Arcade fel ei gilydd, megis cam-drin geiriol, ei arian a’i sigarennau’n cael eu cymryd oddi arno a cherrig yn cael eu taflu at ei ffenestri. Roedd sawl un o’r digwyddiadau wedi’u crybwyll wrth yr awdurdodau, yr heddlu yn arbennig.

 Yn dilyn marwolaeth David, erlynwyd un dyn, Kial Cottingham, 19 oed, am aflonyddu.
 

Yr ymateb

Roedd yr heddlu’n ymwybodol o helyntion hwnt ac yma o aflonyddu, mor bell yn ôl â 1998. Yn y cyfnod 2004-07, cofnodwyd 10 helynt gan yr heddlu, a oedd yn cynnwys ei deulu. Yn ystod yr helyntion cyntaf o fis Mai tan Awst 2004, siaradodd yr heddlu â’r gwasanaethau cymdeithasol ynglŷn â David a’i fam. Gosodwyd camera CCTV yn eu cartref, yn y cefn.

Yn 2004, cafodd cartref David ei nodi, gan yr heddlu, ar gyfrifiadur eu system rheoli helyntion, fel cyfeiriad lle digwyddai helyntion dro ar ôl tro a lle roedd ‘dioddefwyr yn byw a oedd yn agored i niwed’. Cafodd y cofnod hwnnw ei gadw ar y cyfeiriad trwy gydol y cyfnod hyd at farwolaeth David. Er hynny, roedd hi’n ymddangos nad oedd amryw o’r heddlu a fu’n ymateb i’r adroddiadau yn ymwybodol ohono, ac yn trafod yr helyntion yn unigol yn hytrach na fel patrwm o aflonyddu parhaus. Roedd bwlch yng nghofnodion yr helyntion ar ôl mis Awst 2004 ond ailddechreuwyd ar yr arfer ym mis Ionawr 2006. Mae’r heddlu’n cydnabod nad oeddent yn aml, wrth ymateb i’r adroddiadau yn y cyfnod hyd at Ragfyr 6, wedi cyrraedd lleoliad yr helyntion yn ddiymdroi a’u hanallu hefyd, i weld y peryglon a wynebai’r teulu. Roedd y cyswllt rhwng tîm yr heddlu yn y gymdogaeth a staff heddluoedd eraill yn annigonol.[1]

Fodd bynnag, roedd heddlu’r gymdogaeth wedi trefnu peth cymorth, drwy godi sefyllfa’r teulu ym mhwyllgor yr Heddlu a’r Gymuned Gyda’i Gilydd (PACT), ym mis Rhagfyr 2006. Yn y cyfarfod PACT hwnnw, nodwyd  ‘materion o ran tramgwyddwyr; cymryd wal isel i ffwrdd, ac iechyd meddwl David, ar gyfer gweithredu arnynt. Ni ymatebodd PACT yn ddigon cyflym, parthed y materion hyn. Fodd bynnag, pan ddechreuodd Swyddfa’r Gymdogaeth gadw cofnod ysgrifenedig o’r helyntion aflonyddu,  cafwyd darlun cywirach o faint yr aflonyddu ar David a’i deulu.

Soniwyd am 78 o helyntion wrth yr heddlu rhwng 1Ionawr 2007 a marwolaeth David ar 10 Mawrth 2010, y cyfan bron, wedi eu cyflawni yn neu yng nghyffiniau cyfeiriad ei gartref. Dim ond ar un achlysur ystyriodd yr heddlu am bosibilrwydd trosedd casineb o ran yr achos. 27 Mehefin 2007 oedd hynny, pan ddywedodd rhingyll, a oedd yn adolygu cofnod yr helynt, fod yr achos yn gyffelyb i helynt casineb. Soniodd swyddog a oedd yn bresennol, am ‘broblemau iechyd meddwl’ David, a bod y llanciau wedi ei alw’n ‘paedo'. Aeth ymlaen wedyn, i ddweud nad oedd y llanciau wedi sôn am faterion iechyd meddwl David ac nad oedd yr helynt, o’r herwydd, yn ymwneud â chasineb. Nid oedd un o’r 31 o droseddau a gofnodwyd o’r 78 o helyntion wedi eu cysylltu â throsedd casineb. Byddai nodi’r helyntion fel rhai a oedd yn seiliedig ar droseddau casineb wedi codi proffil y broblem o ran y teulu, a’u rhoi, yn ei dro, dan oruchwyliaeth y gymdogaeth os nad yr uwch dîm rheoli.

Wrth gyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad, dywedodd Heddlu Greater Manchester, ‘Roedd hi’n anodd iawn i gael unrhyw dystiolaeth gredadwy. Cynhyrfodd a gwylltiodd David yn fawr pan ofynnwyd iddo i siarad am yr helynt. Hefyd, meddylion nhw y byddai’r profiad o gyflwyno tystiolaeth yn boenus iddo. O ganlyniad, rhoddwyd y pwyslais ar gasglu tystiolaeth o ffynonellau arall megis CCTV ond delweddau o ansawdd gwael a gafwyd gan y system recordio a osodwyd yno, fel nad oedd yn bosibl i’w defnyddio i ategu’r erlyniadau’.

Hefyd, roedd asiantaethau arall, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol, tîm diogelu cymunedau’r cyngor a landlord y teulu Askew, Peak Valley Housing Association, yn ymwybodol o’r aflonyddu. O tua mis Gorffennaf 2008, cafodd cryn nifer o’r 26 o lanciau, a oedd yn gysylltiedig â’r aflonyddu, eu hatgyfeirio at dîm diogelu’r gymuned. Mabwysiadwyd polisi oedd o dipyn i beth yn cynyddu, gan anfon llythyrau yn gyntaf at rieni’r bobl ifanc a  oedd yn gysylltiedig â’r aflonyddu, a threfnu i’w cyfarfod wedyn. Cafwyd gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ond cawson nhw eu torri yn aml, heb unrhyw gosb.

Weithiau, rhoddodd yr awdurdodau’r byrdwn ar y teulu Askew, gan ofyn iddynt osgoi eu camdrinwyr yn hytrach na thaclo’r tramgwyddwyr eu hunain. Er enghraifft, ceisiodd y gymdeithas tai gael y teulu i symud. Yn yr un modd, ateb y cyngor oedd rhoi cyfleoedd i David i wneud pethau, fel mynd i glwb snwcer neu ymgymryd â gwaith gwirfoddol, er mwyn lleihau ei gysylltiadau â’r aflonyddwyr, yn hytrach na mynd i’r afael â’r tramgwyddwyr yn fwy effeithiol.

Er i amryw o asiantaethau gymryd rhai camau, daeth yr ymchwiliad i’r casgliad nad oedd y gweithredu hynny, naill ai'n gydlynol nag yn effeithiol wrth ddelio â’r aflonyddu: roedd diffyg brys a chynllun cyfannus i ddatrys y materion. Nid oedd neb wedi cadw llygad ar yr aflonyddu a oedd yn digwydd dro ar ôl tro, ac felly, tueddai’r heddlu i drin yr helyntion yn rhai digyswllt, yn hytrach na fel rhan o batrwm. Ni ddioddefodd y tramgwyddwyr yn fawr o achos eu tramgwyddau. O ganlyniad i’r rhagdybiaeth na wnâi David dyst da, yn ogystal ag ansawdd sâl y lluniau o’r CCTV, gwnaed y penderfyniad i beidio â dwyn yr achos gerbron llys. Ni chafodd y fframwaith trosedd casineb ei weithredu. [2]


1 Mae natur y gyfathrebiaeth rhwng heddlu’r gymdogaeth a staff arall yr heddlu ar yr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei godi hefyd gan arolygaeth HMIC Heddlu Greater Manchester. Ar gael o wefan Her Majesty’s Inspectorate of Constabulary.

2 Daeth ymchwiliad Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) i sut wnaeth Heddlu Greater Manchester ymdrin â’r aflonyddu honedig ar David Askew i ganlyniad tebyg, er mai ymateb yr heddlu oedd ei unig gylch gwaith. Daeth yr IPCC i’r casgliad y bod ‘diffyg cyson i weld y ffactorau o ran bregusrwydd a oedd yn effeithio ar y teulu Askew ac ymateb iddynt'; methiant llwyr i ystyried ac ymateb i’r helyntion fel rhai ‘trosedd casineb’; diffyg amlwg o gydgysylltu a gweithredu cydlynol rhwng asiantaethau partneriaeth; a diffyg rheoli cadarn o dramgwyddwyr’. Mae gwefan y IPCC yn cyhoeddi casgliadau ymchwiliad yr IPCC i ymgysylltiad Heddlu Greater Manchester â David Askew, 21/03/11. Ar gael o wefan Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu .
 

Erlyniad

Yn dilyn marwolaeth David, cafodd un dyn, Kial Cottingham, 19, ei erlyn. Ni chafodd yr achos ei drin fel un o drosedd casineb. Plediodd yn euog i’r helynt o aflonyddu ar 20 Medi 2010, a chafodd ei ddedfrydu i 16 wythnos o garchar. Gan iddo fod ar remand, cafodd ei ryddhau. Hefyd, cafodd waharddeb i beidio â mynd ar gyfyl ardal benodol o Hattersley na chysylltu â theulu David.

Ni chafodd yr achos ei ystyried fel trosedd casineb ar sail anabledd.

Proses adolygu

Cynhaliodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu adolygiad o ran yr Heddlu yn yr achos.[3] Cynhaliwyd adolygiad achos difrifol hefyd. [4] Fe ganolbwyntiodd yn bennaf, ar y teulu Askew, er iddo hefyd, roi tipyn o ystyriaeth o ran ceisio atal plant tramgwyddwyr rhag datblygu’n dramgwyddwyr eu hunain.

Mae’r prif argymhellion fel a ganlyn:

  • Gwella hyfforddiant o ran y gallu i weld troseddau casineb ar sail anabledd
  • Gwella casglu data a rhannu gwybodaeth yn hyn o beth
  • Sefydlu pwrpas, buddion ac anfanteision CCTV a datrysiadau o ran ffensio, nodi effeithiolrwydd a chanlyniadau anfwriadol
  • Helpu gwasanaethau iechyd i ateb anghenion oedolion bregus
  • Sicrhau bod canllawiau Mynediad Teg at Wasanaethau Gofal (FACS) yn mynd i’r afael â chyfrifoldebau diogelu
  • Rhoi’r camau i fynd i’r afael â cham-drin parhaus yng ngofal oedolyn proffesiynol arweiniol, pan fo’n ymwneud â chyfrifoldebau amlasiantaethol
  • Sefydlu prosesau rheoli a nodi risg cyffredinol rhwng sefydliadau gwahanol 
  • Rhannu casgliadau’r adolygiad achos difrifol â phreswylwyr a swyddogion proffesiynol i atal problemau yn y dyfodol ac i archwilio’r cyfleoedd cyfiawnder adferol
  • Egluro pwrpas eiriolaeth a chymorth cyfathrebu, ar y dechrau, er mwyn sicrhau cyfiawnder ymhob achos.

Argymhellir hefyd, y dylai ‘casgliadau’r adolygiad achos difrifol gael eu hadrodd wrth adolygiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan nodi’r trafferthion a geir gan staff ymroddedig a phrofiadol wrth ddefnyddio’r cysyniad o drosedd casineb yn eu gwaith bob dydd ac wrth erlyn digwyddiad o aflonyddu yn erbyn unigolyn ag anabledd dysgu ganddo’. [5]
 


3 Gwefan Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC), IPCC yn cyhoeddi casgliadau ymchwiliad i gyswllt Heddlu Greater Manchester â David Askew, 21/03/11/. Ar gael o wefan Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu .

4 Partneriaeth Diogelu Oedolion Tameside, Crynodeb Gweithredol o’r Adolygiad Achos Difrifol o ran Oedolyn A. Ar gael o wefan Cyngor Tameside.

5 Partneriaeth Diogelu Oedolion Tameside, Crynodeb Gweithredol o’r Adolygiad Achos Difrifol o ran Oedolyn A, tud 53. Ar gael o wefan Cyngor Tameside.

 

back to top