Cyfaddefodd y ddau ddyn i’r llofruddiaeth. Dedfrydwyd y ddau i garchar am oes, a bydd rhaid i Swindon aros yno am o leiaf 20 o flynyddoedd a Peart am 15. Yn ddiweddarach apeliodd y Twrnai Cyffredinol, yr Arglwydd Goldsmith, yn erbyn y dedfrydau hyn gan iddo gredu eu bod yn ‘amhriodol o drugarog’. Cynyddodd y Llys Apêl hwy i 28 o flynyddoedd i’r naill a 22 i’r llall.
Ni erlynwyd y llofruddiaeth fel trosedd casineb ar sail anabledd. Eglurodd Sean Price, Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland, hyn: ‘O ganlyniad i’r archwiliad roedd yn eglur iawn nad trosedd casineb mo hon. Ni fyddem yn ei diffinio fel trosedd casineb.’
Nid oedd anabledd yn rhan o Bolisi Trosedd Casineb Heddlu Cleveland tan 2006 er i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno dair blynedd yn gynharach a roddai’r cyfrifoldeb ar ysgwyddau’r heddlu i ymchwilio a yw trosedd wedi’i gysylltu â gelyniaeth ar sail anabledd neu beidio, ac os yw, casglu’r dystiolaeth i gefnogi dedfryd hwy.
Awgryma’r ffigurau a gyflwynwyd i’r ymchwiliad gan heddlu Cleveland bod 34 o helyntion/troseddau casineb ar sail anabledd wedi ei gofnodi ganddynt yn 2009. [2] Cofnodwyd naw o’r rhain fel troseddau ac ymchwiliwyd iddynt. Hefyd cyflwynodd heddlu Cleveland fanylion i’r ymchwiliad ynglŷn â nifer o helyntion aflonyddu ar sail anabledd a gofnodwyd yn 2010. Bellach maen nhw’n ymgymryd â nifer o fentrau i wella eu gallu i weld aflonyddu ar sail anabledd ac i adrodd amdano.
Roedd Keith wedi cysylltu â’r heddlu dair gwaith yn y cyfnod rhwng Ebrill a Hydref 2003 cyn iddo gael ei fygwth gan deulu Swindon ym mis Gorffennaf 2004:
- Ar 12 Ebrill 2003 roedd llanciau anadnabyddus wedi cnocio ei ddrws a gweiddi’n ddifrïol arno
- Ar 30 Awst 2003 cysylltodd â’r heddlu ynglŷn â difrod troseddol i ffenest ond ni welodd pwy a’i hachosodd
- Ar 5 Hydref 2003 dywedodd wrth yr heddlu ei fod wedi dioddef anaf bach i’w lygad o ganlyniad i ddyn, o’r enw Geoff, ymosod arno.
Ni chofnodwyd un o’r helyntion a soniodd Keith amdanynt yn 2003 nag un o’r bygythiadau a wnaed yn ei erbyn yn 2004 chwaith fel rhai a oedd wedi eu sbarduno gan elyniaeth at anabledd. Ni erlynwyd neb.
Yng ngwrandawiad yr ymchwiliad archwiliom resymau’r heddlu am beidio ag ystyried llofruddiaeth Keith fel un a oedd wedi ei sbarduno, yn rhannol o leiaf, gan elyniaeth at anabledd. Er mwyn i drosedd yn erbyn unigolyn anabl fod yn gymwys i ddedfryd fwy o dan adran 146 mae rhaid i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ddangos tystiolaeth o drosedd sydd wedi ei sbarduno gan elyniaeth yn hytrach na chasineb. Yn ôl cyngor canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, pan nad oes diffiniad cyfreithiol manwl gywir o elyniaeth ar gael, dylid ystyried diffiniadau geiriadur cyffredin sy’n cynnwys drwgewyllus, drwgdeimlad, malais, dirmyg, rhagfarn, anghyfeillgarwch, gelyniaeth, dicter ac anhoffter’.[3] Nid yw gelyniaeth bob amser yn eglur. Efallai nad hi yw’r unig gymhelliant bob amser ond ei bod yn bresennol ochr yn ochr â ffactorau eraill.
Yn gynnar iawn yn ein gwrandawiad ymchwilio dywedodd yr heddlu iddynt ystyried mai pryderon Sean Swindon am natur y berthynas rhwng ei chwaer a Keith oedd yr ysgogiad i’r ymosodiad. Dywedodd yr heddlu wrthym eu bod hwythau a’r CPS wedi ystyried a ddylai’r achos gael ei chyflwyno fel un lle byddai dedfryd fwy, efallai, yn gymwys. Fodd bynnag cydnabu Sean Price, Prif Gwnstabl Heddlu Cleveland Police, yn ddiweddarach yn y gwrandawiad: eu bod, hwyrach, wedi coleddu amryw o deimladau …ond yr hyn nad oedd gennym oedd tystiolaeth a oedd yn awgrymu bod anabledd yn ffactor’.
Yn ôl Price roedd yr heddlu hefyd yn ymwybodol bod 'rhai pobl yn yr ardal yn meddwl bod efallai ciwed o bedoffilyddion a oedd yn cynnwys nifer fach iawn o aelodau yn gysylltiedig. Does dim affliw o dystiolaeth o hynny o gwbl ond gall sïon o’r fath ganu clychau yn y gymuned.’ Er na godwyd unrhyw bryderon ynglŷn â natur perthynas Gemma â Keith nes iddi dyfu’n oedolyn defnyddiwyd y label ‘pedoffilydd’ ar Keith i’w ddiddynoli.
Yn ôl Price: ‘mae rhoi’r label ‘pedoffilyddion’ ar rai adrannau o’r gymuned yn golygu o’r bron y cewch wneud fel y mynnoch’. Mae yna dystiolaeth bod dioddefwyr o leiaf dwy lofruddiaeth arall y’u hystyriwyd gan yr ymchwiliad hwn, (Steven Hoskin a Michael Gilbert), wedi eu labeli yn ‘bedoffilyddion’ gan y sawl a gyflawnodd y troseddau. Yn y ddwy achos roedd y trais yn eithafol a chafodd y dioddefwyr eu trin yn ddiraddiol. Defnyddiwyd y term ‘Paedo’ yn ddilornus yn erbyn David Askew ar o leiaf un achlysur.
Er mai oedolion sy’n adnabyddus iddynt sydd yn gyfrifol gan mwyaf am y cam-drin rhywiol ar blant, a’r rheiny’n aml yn aelodau’r teulu neu’n rhan o’u rhwydwaith cyfeillgarwch, mae’r stereoteip poblogaidd o ‘bedoffilydd’ yn awgrymu eu bo’n nhw’n wahanol iawn i aelodau eraill cymdeithas. O ganlyniad i bobl anabl a ‘phedoffilyddion’ fel ei gilydd gael eu canfod yn ‘wahanol’, efallai bod hynny’n arwain i bobl anabl gael eu labeli ar gam yn droseddwyr rhyw.
Hefyd ymddengys bod rhai pobl yn y gymuned efallai yn cyhuddo unigolion anabl yn faleisus o fod yn ‘bedoffilyddion’ er mwyn esgusodi eu gelyniaeth tuag atynt ac i gyfiawnhau’r trais. Mae angen ymchwilio’n bellach i dramgwyddwyr aflonyddu ar sail anabledd, yr hyn sy’n eu hysgogi a’u patrymau tramgwyddo. Gallai archwilio i’r mater hwn yng nghyd -destun hwnnw fod o gymorth.
Er nad ef yw'r unig gymhelliant posibl, mae’r lefel eithafol o drais sy’n gysylltiedig â llofruddiaeth Keith hefyd o bosib yn awgrymu bod gelyniaeth ar sail anabledd yn rhan o’r ysgogiad. Fel y dywedodd Sir Ken MacDonald, cyn Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, ‘Dengys rhai achosion eithriadol o ddifrifol bobl anabl yn cael eu trin fel anifeiliaid… O edrych ar bob achos ar ei ben ei hun ymddangosa’r trais yn ddibwrpas ac yn ddireswm... Ymddengys i mi fod rhaid i ni wrth archwilio’r achosion hyn ofyn cwestiwn syml ac amlwg: Pe na bai’r dioddefwr yn anabl, a fyddai wedi bod yn destun i’r math hwn o driniaeth? ’ [4]
2 Gweler gwefan Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu
3 Gwasanaeth Erlyn y Goron, 2010, Troseddau Casineb Anabledd – Canllawiau ar y gwahaniaeth rhwng bregusrwydd a gelyniaeth yng nghyd-destun troseddau yn erbyn pobl anabl. Ar gael o wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron
4 Araith i Gyngor y Bar a’r Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 06/10/08.