Achos naw: Michael Gilbert

Ar 10 Mai 2009, darganfuwyd corff Michael Gilbert a oedd wedi ei ddatgymalu a heb ei ben, yn y Blue Lagoon yn Arlesey, ger Luton. Roedd yn 26 oed  ac mae tystiolaeth bod ganddo anhwylder iechyd meddwl na wnaed diagnosis ohono.

Beth a ddigwyddodd

Prin i flwyddyn yn ddiweddarach, ym mis Ebrill 2010, dedfrydwyd chwech o bobl i garchar am eu rhan yn ei lofruddiaeth – tri o lofruddiaeth a thri o ddynladdiad teuluol. Arweinydd y giwed oedd James Watt, a oedd wedi cwrdd â Michael pan oedd y ddau ohonynt yn eu harddegau ac mewn gofal.

Bu Michael yn byw gyda’r teulu Watt am y rhan helaethaf o’r saith blynedd  cyn ei lofruddiaeth. Cafodd ei drin fel caethwas domestig a’i boenydio trwy gydol y cyfnod  hwnnw. Ymosodwyd arno ar nifer o weithiau, ei ddyrnu a’i stampio, ei drywanu â chyllell a’i saethu â gwn haels, a gollyngwyd peli snwcer ar ei geilliau. Yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth, cafodd darn o bren ei osod yng ngheg Michael ac ar hwnnw aeth James Watt ati i ymarfer ei wrthwasgiadau. Neidiwyd dro ar ôl tro ar stumog Michael hefyd.

Ceisiodd Michael ddianc o grafangau’r teulu ar amryw o adegau, gan geisio noddfa yn Luton ac ymhellach i ffwrdd yn Norfolk, Caergrawnt a Chaerhirfryn. A phob tro, dilynodd y teulu ei drywydd a’i ddwyn yn ôl i’w cartref ac ymosod arno. Cafodd amryw o’r cipiadau eu cofnodi wrth yr heddlu ond ni esgorodd yr un ohonynt gamau effeithiol i ddiogelu Michael.
 

Yr ymateb

Mae rhan o’r wybodaeth yn perthyn i’r  adolygiad achos difrifol a’r rhannau eraill i ffynonellau cyfrinachol.

Ac yntau’n 14 oed, cyfarfu Michael â James Watt pan oedd y ddau ohonynt yn byw yn yr un cartref i blant dan ofal. Roedd ansefydlogrwydd yn nodweddiadol o flynyddoedd cynnar Michael. Cafodd ei roi dan ofal ar ôl iddo gael ei ddrwgdybio o gam-drin bachgen ifanc yn rhywiol. Ar ôl iddo gwrdd â James Watt, dechreuodd ymhel â mân droseddau a phan adawodd y cartref i blant dan ofal, daeth ei fywyd yn un ansefydlog a bu’n ddigartref ar gyfnodau gwahanol.

Ar ôl cyfnod o gysgu allan, aeth Michael i fyw gyda’r teulu Watt am y tro cyntaf yn 2001. Cyn pen rhai misoedd, roeddent wedi ymosod arno’n dreisgar. Mor gynnar â mis Hydref 2001, mwy na saith mlynedd cyn iddo gael ei lofruddio, ac yn dilyn anghydfod rhyngddo ef a James Watt a mam James, ymbiliodd Michael ar wasanaethau cymdeithasol Luton i’w ddiogelu. Dyma un o amryw o gyfleoedd a fethwyd, lle y gellid fod wedi ei helpu a’i ddiogelu rhag y Wattiaid.

Ym mis Ionawr 2002, dywedodd teulu Michael wrth Heddlu Bedfordshire fod y Wattiaid wedi ei gipio ac ymosod arno’n ddifrifol. Bu cryn dipyn o oedi cyn cynnal ymchwiliad i’r honiadau. Ni cheisiwyd am unrhyw wybodaeth sylfaenol ynglŷn â’r helynt a fyddai wedi ategu honiad Michael. Yn wir, ystyrid mai dweud celwydd yr oedd Michael i bery cryn dipyn o anhwylustod i eraill. O gymharu maint a thaldra Michael â’i herwgipwyr honedig, roedd y syniad bod yr hyn a ddisgrifiwyd ganddo wedi digwydd yn go iawn yn un wirion bost.

O ganlyniad i’r farn honno a bod ‘hanes hir iawn gan Michael o wneud honiadau ffug maleisus yn erbyn ei deulu’, ni chofnododd yr heddlu'r helyntion fel rhai troseddol… ‘mae’n glir fod hwn hefyd yn honiad ffug ac na ddylid felly ei gofnodi fel achos o drosedd’. Roedd yr hanes o honiadau ffug, mewn gwirionedd, yn achos o gam adnabod ac yn gysylltiedig â Michael Gilbert arall, a oedd o oedran, ethnigrwydd ac ardal wahanol. Cafwyd gwybodaeth anghywir hefyd gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd.

Cafodd y patrwm o Michael yn dianc rhag y teulu Watt ac yna’n cael ei erlid ganddynt a’i gipio ôl drachefn, ei ailadrodd dro ar ôl tro dros y chwe blynedd ddilynol. Ar amryw o adegau, cysylltodd y Wattiaid â’r Adran Gwaith a Phensiynau, gan ddyfynnu rhif yswiriant gwladol Michael er mwyn darganfod lle roedd yn arwyddo arno, cyn wedyn ei gipio’n ôl eto. Er i’r heddlu glywed oddi wrth Michael a’i deulu am yr helyntion hyn o drais a dyn ladrad, dewison nhw, naill ai i beidio â’u credu nhw neu i dderbyn yn lle hynny ei fod yn rhydd i wneud ei benderfyniadau ei hun. Ni wnaethon nhw ystyried ei fod efallai, yn gwneud pethau’n groes i’w ewyllys. Fel gyda’r dyn ladrad cyntaf a gofnodwyd, roedd oedi yn digwydd yn aml cyn i nifer o’r achosion cipio ac ymosod a gofnodwyd gan yr heddlu gael eu harchwilio’n o iawn.

Ar ôl iddo gael ei gipio o Gaergrawnt, arestiwyd Michael mewn cysylltiad â throsedd gwahanol mewn canolfan siopa yn Luton pan oedd yng nghwmni James Watt. Cafodd ei gyfweld yng nghwmni oedolyn priodol, diogelwch cyfreithiol sydd yn rhaid ei roi i ‘bobl ifanc dan 17 ac i  oedolion a chanddynt gyflwr meddwl bregus’[1]. Ar ôl i’r heddlu dderbyn na wnelo Michael â’r drosedd yr oeddynt yn archwilio iddi, holon nhw ef ynglŷn â’r dynladrad. Cadarnhaodd ei fod wedi ei gipio yn erbyn ei ewyllys y tu allan i ganolfan swyddi yng Nghaergrawnt, gan James Watt a dwy fenyw (y tri unigolyn a euog farnwyd wedi hynny o’i lofruddio). Cafodd ei gludo mewn cerbyd yn ôl i dŷ yn Luton, lle yr ymosodwyd arno. Gwrthododd wneud cwyn gan ddweud: ‘bydd ond yn gwneud pethau’n waeth i mi yn y pen draw. Rwy ond am ddychwelyd i Gaergrawnt heb ofni y byddan nhw wedyn yn fy erlid yno. Dwi ddim am unrhyw gysylltiad â hwy mwyach. Ar hyn o bryd, wna i ddim cefnogi erlyniad gan yr heddlu na mynd i’r llys.’

Tra oedd Michael yn cael ei gyfweld, roedd James Watt ac eraill yn aros amdano y tu allan i orsaf yr heddlu. Trefnodd yr heddlu warant rheilffordd i gael Michael yn ôl i Gaergrawnt ac aethpwyd ag ef at fynedfa gefn yr orsaf drên er mwyn osgoi’r Wattiaid. Symudodd Michael i Blackburn yn ddiweddarach yn 2007. Ar 28 Ionawr 2008, pan oedd ar ei ffordd i arwyddo arno, cipiwyd ef eto gan y Wattiaid a’i gludo i ffwrdd mewn car. Dyma’r tro olaf iddo ddianc rhagddynt.

Gwaethygodd y trais tua diwedd 2008. Ar 12 Ionawr 2009, gwnaethpwyd galwad 999 â ffôn symudol Richard Watt. Mae’n ymddangos mai Michael a wnaeth yr alwad honno, gan gyflwyno ei hun o dan y ffug enw Aaron a honni bod ei frawd iau yn cael ei fygwth. Aeth yr heddlu i’r tŷ ond nid oes unrhyw gofnod o’r camau a gymeron nhw yn sgil hynny. Bu rhaid iddynt ddychwelyd i’r tŷ yn fuan ar ôl hyn, ynglŷn â mater arall nad oedd yn gysylltiedig â Michael, ond ni welon nhw ef y tro hwn. Roedd yr helynt hwnnw 10 diwrnod cyn ei farwolaeth.

Pedwar diwrnod yn ddiweddarach, dydd Gwener 16 Ionawr 2009, gwelwyd Michael pan oedd yn arwyddo arno yng Nghanolfan Swyddi Luton. Roedd wedi ei anafu’n ddrwg. Sylwodd y clerc nad oedd Michael ‘yn symud yn ddiffwdan a bod rhywbeth o’i le ar ei osgo’ a bod ‘ei wyneb yn frith o gwtau a chleisiau a chrafiadau. Holodd y clerc ef ynglŷn â’i anafiadau a dywedodd Michael wrtho ei fod wedi bod yn ymladd. Gwrthododd gynnig y clerc am gymorth feddygol.

Parhaodd yr ymosodiadau dros yr ychydig ddyddiau nesaf gan gynnwys neidio ar stumog Michael. Yn dilyn hynny ac yntau mewn poen ofnadwy, ni allai Michael reoli ei berfedd  na cherdded o’r bron. Bu farw, rhai dyddiau ar ôl hynny, rhwng 21 a 22 Ionawr 2009.

Roedd James Watt, y prif gamdriniwr, wedi cael ei euogfarnu 14 o weithiau o’r blaen ynglŷn â 22 o droseddau gwahanol. Roedd hefyd, amryw o honiadau na ddaeth gerbron llys, o ymosodiadau rhywiol treisgar ar ferched yn eu harddegau, ac ymosodiadau corfforol ar aelodau ei deulu gan gynnwys: ei ewythr anabl (cofnodwyd yr ymosodiad cyntaf gan yr heddlu ym 1997), ei fam ( honnwyd iddo ei bygwth â chyllell), a’i frodyr.

Ni fanteisiodd yr asiantaethau ar gyfleoedd i ymyrryd a diogelu Michael. Yn ôl y dystiolaeth yn y gwrandawiad ymchwilio, nid oedd yr asiantaethau yn ei ystyried yn unigolyn a oedd yn ateb y diffiniad o ‘unigolyn bregus’ yn unol â thermau’r canllaw No Secrets[2]. Hynny oedd yn rhannol gyfrifol am iddynt beidio ag ymyrryd. Ni chafodd Michael ei ystyried yn anabl, er iddo geisio am gymorth meddygol ynghylch gorbryder, iselder ysbryd a chlywed pethau, a oedd yn awgrymu anhwylder iechyd meddwl. Cafodd ei gyfweld amryw o weithiau gan yr heddlu ym mhresenoldeb oedolyn priodol. O ganlyniad i absenoldeb unrhyw ddiagnosis meddygol ffurfiol ynglŷn â’i afiechyd meddwl, mae’n ymddangos na ystyriodd yr asiantaethau ef yn unigolyn anabl. Felly, ni chafodd ei gyfeirio at ddiogelu oedolion ac ni rannodd yr asiantaethau’r wybodaeth â neb ac o’r herwydd, ni chafodd y darlun ehangach, o’r risg a oedd yn ei wynebu, ei hystyried.

Yn ei dystiolaeth i’r ymchwiliad, dywedodd cadeirydd annibynnol Bwrdd Diogelu Oedolion, Luton, yr Athro Michael Preston-Shoot, fod problemau ynglŷn â’r diffiniad o oedolyn bregus, ac nad oedd yr asiantaethau wedi ymyrryd i ddiogelu Michael gan nad oedd yn glir iddynt ei fod yn ateb y meini prawf: ‘Hyd yn oed yn yr adegau hynny pan oedd hi’n amlwg i unigolion y bod ganddo fymryn o fregusrwydd, nid oedd yn amlwg o gwbl nad oedd yn oedolyn galluog, annibynnol ac yn gallu penderfynu dros ei hunan’. Yn ôl pob tebyg, ni wnaeth neb ystyried yr ofn a oedd gan Michael o’r teulu Watt ac effaith y pwysau hynny arno wrth iddo wneud penderfyniadau.

Yn ein tyb ni, roedd cyfle gan asiantaethau i weithredu, nid yn unig o dan amodau No Secrets ond hefyd o ran eu rhwymedigaethau cadarnhaol fel awdurdodau cyhoeddus o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 i ddiogelu’r hawl i fyw a’r rhyddid rhag dirboeni a thriniaeth neu gosb ddiraddiol ac annynol.


1 Gwefan Rhwydwaith Oedolyn Priodol Cenedlaethol

2 Fframwaith polisi yw ‘No Secrets’ ar gyfer diogelu oedolion yng Nghymru a Lloegr. Mae’n diffinio oedolyn bregus fel rhywun sy’n hŷn na 18 ‘sydd angen neu o bosib angen gwasanaethau gofal cymunedol am resymau anabledd meddwl neu anableddau eraill, oed neu salwch; sydd heb neu o bosib heb y gallu i edrych ar ôl ei hunan na’r gallu i ddiogelu ei hun rhag niwed sylweddol neu gam-fanteisio’. Adran Iechyd, 2000, No secrets: guidance on developing and implementing multi-agency policies and procedures to protect vulnerable adults from abuse. Ar gael o wefan yr Adran Iechyd.
 
 

Erlyniad

Ni chafodd neb ei gyhuddo na’i erlyn o ganlyniad i’r ymosodiadau a’r dyn ladradau o Michael Gilbert a gofnodwyd wrth yr heddlu cyn ei farwolaeth.

Cafodd chwech o bobl eu carcharu am eu rhan yn ei lofruddiaeth. Cafodd James Watt ei euogfarnu o lofruddiaeth a’i ddedfrydu i garchar am oes ac am o leiaf 36 o flynyddoedd. Cafodd ei gariad, Natasha Oldfield a chariad ei frawd, Nichola Roberts, eu collfarnu o lofruddiaeth hefyd a’u dedfrydu i garchar am o leiaf 18 o flynyddoedd i’r gyntaf a 15 i’r llall. Gwrthodwyd yr apêl yn erbyn eu dedfrydau.

Collfarnwyd mam James Watt, Jennifer Smith Dennis, a’i frawd, Robert, o ddyn laddiad teuluol, trosedd sydd yn gymwys yn unig i farwolaeth plentyn neu ‘oedolyn bregus’. Dedfrydwyd hwy i 10 mlynedd i’r gyntaf ac wyth blynedd i’r llall. Plediodd Richard Watt, brawd James Watt, yn euog i ddyn laddiad teuluol. Cafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar, wedi’i gostwng i bedair blynedd ar apêl.

Er na chafodd yr achos ei erlyn fel trosedd casineb ar sail anabledd, collfarnwyd tri o bobl o ddynladdiad teuluol, trosedd sydd yn gymwys i farwolaeth plentyn yn unig ac oedolyn bregus. [3]
 


3 O dan y Ddeddf Trais Domestig, Troseddau a Dioddefwyr 2004 (nid oes deddf gyfatebol yn yr Alban) daeth dynladdiad teuluol yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. Yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron, ‘i ddiben y drosedd hon, diffinnir oedolyn bregus fel unigolyn 16 oed neu hŷn a chanddynt anabledd neu salwch corfforol neu feddyliol, hen oed neu fel arall sydd yn amharu’n sylweddol ar eu gallu i ddiogelu eu hunain rhag trais, camdriniaeth neu esgeulustod (a. 5(6))’. Ar gael o wefan Gwasanaeth Erlyn y Goron
 

Y broses adolygu

Cynhaliodd Bwrdd Diogelu Oedolion Bregus, Luton adolygiad difrifol i farwolaeth Michael. Yn bennaf, canolbwyntiodd y Cylch Gorchwyl ar Michael ac ar ei gyswllt â theulu James Watt. Rhoed sylw hefyd i grynodeb o gofnodion troseddau James Watt.

Mae’n amlwg bod y teulu Watt wedi ymgysylltu’n helaeth â nifer o awdurdodau cyhoeddus [4], gan gynnwys yr heddlu a'r gwasanaethau prawf a chymdeithasol. Byddai’r adolygiad o bosib wedi elwa o Gylch Gorchwyl ehangach gan fwrw golwg ar ymyriadau gyda’r troseddwyr. Daw’r adroddiad i’r casgliad: na elwodd Oedolyn B [James Watt] na’i deulu ychwaith o’r doethineb cyffredin ar les plentyn a chyfiawnder ieuenctid, sydd yn haeru, bod ymyrryd yn gynnar yn yr achos yn hanfodol i gyflawni deilliannau da (gweler, e.e. y Swyddfa Gartref, 1997; ac Adran Addysg a Sgiliau, 2004)’. Er hynny, nid yw’r argymhellion yn mynd i’r afael â’r materion hyn.[5]

Yng nghyfnod y prawf llofruddiaeth, cafodd Michael Gilbert ei ddisgrifio’n helaeth gan y wasg fel unigolyn anabl. Fodd bynnag, yn y gwrandawiad ymchwilio, soniodd yr Athro Michael Preston-Shoot, cadeirydd Bwrdd Diogelu Oedolion Bregus, Luton, nad oedd Michael yn ateb y diffiniad o unigolyn anabl a geir yn y Ddeddf GIG a Gofal Cymunedol na’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ychwaith. Fodd bynnag, awgrymodd tystiolaeth arall, a anfonwyd i’r ymchwiliad gan asiantaethau a oedd yn rhan o’r adolygiad achos difrifol, fod gan Michael fater iechyd meddwl na chafodd ei adnabod:

  • Cafodd ei gyfweld gan yr heddlu, nifer o weithiau, gydag oedolyn priodol yn bresennol, diogelwch sydd fel arfer yn cael ei gynnig i oedolion a ystyrir yn ‘fregus eu meddwl’
  • Weithiau, gofynnodd Michael ei hun am oedolyn priodol, sy’n awgrymu ei fod yn ystyried ei hun yn anabl
  • Ar adegau eraill, yr heddlu a ofynnodd am bresenoldeb unigolyn priodol, sy’n awgrymu eu bod hwythau yn amau y bod gan Michael, o bosib, fater iechyd meddwl neu anabledd dysgu
  • Ymwelodd Michael â’i feddyg teulu, amryw o weithiau, ynglŷn â gorbryder ac iselder ysbryd a chafodd bresgripsiwn am gyffuriau gwrth-bryderu
  • Cafodd ei gyfeirio at seiciatrydd ynglŷn â’i hanes o glywed lleisiau ond nid aeth ato
  • Mae’r drosedd o ddynladrad teuluol yn gymwys yn unig i farwolaeth plentyn neu oedolyn bregus. Dedfrydwyd tri o bobl yn euog o’r drosedd hon am eu rhan ym marwolaeth Michael. Roedd y llys yn fodlon, o leiaf, bod Michael Gilbert yn ‘oedolyn bregus’, term sydd wedi ei gysylltu ag anabledd o ran y gyfraith yng Nghymru a Lloegr.

Mae adroddiad terfynol yr adolygiad achos difrifol yn cydnabod bod gan Michael, o bosib, ‘broblemau iechyd meddwl na chafodd eu hadnabod’. Hefyd, y byddai diagnosis o iselder ysbryd ‘wedi bod yn briodol efallai’ a’i bod yn amheus a oedd yn rhesymol i rhagdybio bod gan Oedolyn A [Michael] allu’.

Canfu’r adroddiad adolygiad achos difrifol:

  • Mor gynnar â’i gyfnod yn y cartref i blant, roedd Michael wedi gofyn am gymorth i gadw James Watt i ffwrdd rhagddo
  • Braidd dim arwydd o ymdrech i fynd i’r afael â’i dueddiadau rhywiog blysig pan oedd yn ei blentyndod a’i arddegau a oedd yn cynnwys honiadau o gamdriniaeth yn erbyn ei chwaer a phlentyn arall
  • Dim tystiolaeth o gydweithio effeithiol gan yr asiantaethau pan oedd yn ei blentyndod a’i arddegau, fel yr awgryma’r Ddeddf Plant
  • Cymorth annigonol pan oedd dan ofal ac ar ôl iddo adael gofal
  • O ganlyniad i ddiffyg cydweithio rhwng yr asiantaethau, roedd penderfyniadau’n cael eu gwneud ganddynt heb iddynt ymgynghori ag eraill i gael y darlun cyflawn
  • Hyd yn oed pan oedd Michael yn gwneud penderfyniadau nad oedd o’i blaid a’i les, ac er na chafodd ei asesu’n ffurfiol, cymerwyd yn ganiataol y bod ganddo allu meddyliol. Ni chafodd effaith y pwysau arno ei hystyried.
  • Cyhoeddwyd casgliadau Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu ynglŷn â’r achos hwn. [6]

4 Er enghraifft, yn ôl adroddiad yr adolygiad achos difrifol, tud 4-5, ymwelodd yr heddlu â’r teulu Watt 35 o weithiau yn 2001 yn unig.
5 Flynn, M., 2011, The Murder of Adult A (Michael Gilbert): A Serious Case Review, tud14, Bwrdd Diogelu Oedolion Bregus, Luton.
6 Gweler Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu
 

back to top