Yn 2009, cynhaliodd y Comisiwn waith ymchwil ar fywyd diogel mewn diogelwch i bobl anabl. Mae’r ymchwil llawn i’w weld ar ein gwefan yn: Safety and security of disabled people
Dyma rai o gasgliadau’r gwaith ymchwil:
Daeth y Comisiwn i’r casgliad y dylai deddfwriaeth a pholisïau cyfredol ganolbwyntio ar gyfiawnder ac unioni cam yn hytrach na helpu ac amddiffyn. Pan gyhoeddodd y Comisiwn yr ymchwil hon ym mis Ebrill 2009, fe wnaethom ymrwymo i weld pa gamau yr oedd awdurdodau cyhoeddus yn eu cymryd i ddileu aflonyddu ar sail anabledd a’i achosion. Dyma’r ymrwymiad a’n harweiniodd i gyhoeddi ein bwriad i gynnal ymchwiliad ffurfiol.
gweler hefyd Dyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl