Cwestiynau Cyffredin Asesiad

Cwestiynau cyffredin ar Asesiad Adran 31 Trysorlys EM y Comisiwn

Canfyddwch atebion i gwestiynau cyffredin yn ymwneud â'r Asesiad. Os nad atebwyd eich cwestiwn yn yr adran hon, anfonwch ef atom mewn e-bost at: HMTreasuryS31@equalityhumanrights.com. A wnewch chi sicrhau y bydd y gair Cwestiwn yn ymddangos y tu mewn i'r Teitl Pwnc.

Pam fod y Comisiwn yn cynnal yr Asesiad hwn?

A: Mae gan y Comisiwn ddyletswydd i sicrhau fod awdurdodau cyhoeddus wedi cydymffurfio â’u hoblygiadau dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac mae wedi penderfynu asesu p’un a yw Trysorlys EM wedi gwneud hyn neu beidio. Ni ddylid cymryd fod cychwyn yr Asesiad hwn yn awgrym nad yw Trysorlys EM wedi cydymffurfio. Mae’r Asesiad yn gyfle i’r Comisiwn barhau gyda gwaith adeiladol â Thrysorlys EM i werthuso pa gamau mae wedi cymryd i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ac i nodi unrhyw gyfleoedd posibl ar gyfer gwelliant. Bydd y broses hon yn ein galluogi i ddysgu gwersi ledled y Llywodraeth i wella deilliannau ar gyfer grwpiau gwarchodedig trwy osod tegwch a thryloywder yn ganolog i benderfyniadau anodd.

Beth yw Asesiad Adran 31?

A: Mae Asesiad Adran 31 yn rym unigryw a roddwyd i’r Comisiwn fel rheolydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006. Mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r Comisiwn angen tystiolaeth o drosedd cyn cychwyn ar Asesiad o’r fath. Gall y broses hon fod yn gyfle ymarferol i Drysorlys EM adolygu ei waith parhaus gyda’r Comisiwn i sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llawn â Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac i osod safon briodol i’r Llywodraeth wrth wneud penderfyniadau anodd.

Unwaith y bydd yr Asesiad wedi ei gwblhau, bydd y Comisiwn yn adrodd ei gasgliadau ac fe all hefyd wneud argymhellion. Os yw’r Asesiad yn dod o hyd i drosedd (dan ddyletswyddau penodol neu gyffredinol presennol, h.y. y rhai cyn Ebrill 2011 yn unig), gall y Comisiwn gyflwyno hysbysiad cydymffurfiad, neu ddod i gytundeb rhwymol â Thrysorlys EM er mwyn iddo gymryd camau i osgoi mynd yn groes i’r ddyletswydd. Os yw’r awdurdod cyhoeddus yn methu cydymffurfio ag hysbysiad cydymffurfiad o’r fath neu’r cytundeb rhwymol, gall y Comisiwn wneud cais i lys am orchymyn i’w orfodi i gydymffurfio.

Beth yw Cylch Gorchwyl a pham fod Asesiad ei angen?

A: Mae'r Cylch Gorchwyl yn bwysig am eu bod yn diffinio cwmpas a pharamedrau’r Asesiad. Maent yn rhan ffurfiol o’r broses y mae’n rhaid i ni ei dilyn wrth sefydlu Asesiad Adran 31 dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006.

Beth mae ‘nodwedd warchodedig’ yn golygu?

A: Yn ein cyhoeddiadau a gwybodaeth, mae’r Comisiwn yn aml yn cyfeirio at ‘nodweddion gwarchodedig’ neu ‘grwpiau gwarchodedig’. Isod ceir rhestr o ba grwpiau sydd wedi eu cynnwys a diffiniad o bob un.

Hil, Anabledd a Rhyw yw’r unig rai y mae’r asesiad hwn yn delio â nhw. (gweler y cwestiwn nesaf)

Diffiniadau nodweddion gwarchodedig:

Hil

Yn cyfeirio at nodwedd warchodedig Hil. Mae’n cyfeirio at grŵp o bobl a ddiffinnir yn ôl eu hil, lliw, a chenedligrwydd (yn cynnwys dinasyddiaeth), tarddiadau ethnig neu genedlaethol.

Anabledd

Mae rhywun yn anabl os oes ganddo ef neu hi nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu’r unigolyn hwnnw i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd.

Rhyw (yn cynnwys dynion a menywod trawsrywiol)

Dyn neu fenyw.

Rhyw

Y rolau a pherthnasau cymdeithasol ehangach sy’n strwythuro bywydau dynion a menywod. Mae’r rhain yn newid gydag amser a rhwng diwylliannau.

O Ebrill 2011, bydd y rhestr isod yn cael eu cynnwys dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ond byddant yn parhau i fod tu allan i gwmpas yr asesiad hwn.

Oed

Ble cyfeirir at hyn, mae’n sôn am unigolyn o oed penodol (e.e. pobl 32 mlwydd oed) neu ystod o oedrannau (e.e. 18 – 30 oed).

Crefydd a chred

Mae gan grefydd yr ystyr arferol a roddir iddo, ond mae cred yn cynnwys credoau crefyddol ac athronyddol, yn cynnwys diffyg credo (e.e. Anffyddiaeth). Yn gyffredinol, dylai cred effeithio ar eich dewisiadau mewn bywyd neu’r modd yr ydych yn byw er mwyn ei gynnwys yn y diffiniad.

Cyfeiriadedd rhywiol

P’un a yw tueddfryd rhywiol rhywun tuag at eu rhyw eu hunain, y rhyw arall neu’r ddau ryw.

Beichiogrwydd a mamolaeth

Beichiogrwydd yw’r cyflwr o fod yn feichiog neu’n disgwyl babi. Mae mamolaeth yn cyfeirio at y cyfnod wedi’r enedigaeth, ac wedi cysylltu at absenoldeb mamolaeth yng nghyd-destun cyflogaeth. Yng nghyd-destun y sawl nad ydynt yn gweithio, mae amddiffyniad yn erbyn gwahaniaethu mamolaeth ar gyfer y 26 wythnos wedi genedigaeth, ac mae’n cynnwys trin menyw yn anffafriol am ei bod yn bwydo o’r fron.

Priodas a phartneriaeth sifil

Mae awdurdodau cyhoeddus hefyd angen talu sylw dyledus i’r angen i ddiddymu gwahaniaethu anghyfreithiol yn erbyn rhywun oherwydd eu statws priodasol neu bartneriaeth sifil. Golyga hyn fod cainc gyntaf y ddyletswydd hon yn cyfeirio at y nodwedd hon ac nad yw’r ceinciau eraill (hybu cydraddoldeb a meithrin cysylltiadau da) yn berthnasol.

Diffinnir priodas fel ‘uniad rhwng dyn a menyw’. Gall cyplau o’r un rhyw gael cydnabyddiaeth gyfreithiol i’w perthynas a gydnabyddir fel ‘partneriaethau sifil’. Rhaid trin partneriaid sifil yn yr un modd â chyplau priod wrth ddelio ag ystod eang o faterion cyfreithiol.

Pa nodweddion gwarchodedig fydd yr Asesiad yn delio â nhw?

A fydd yr Asesiad hwn yn delio â’r ffrydiau cydraddoldeb Dyletswydd Sector Cyhoeddus o Hil, Anabledd a Rhyw yn unig, neu a fydd hefyd yn edrych ar oblygiadau Trysorlys EM dan Oed, Cyfeiriadedd Rhywiol a Chrefydd neu Gred?

A: Dim ond ar p’un a yw Trysorlys EM wedi bodloni ei oblygiadau dan y dyletswyddau presennol fydd yr Asesiad hwn yn edrych, oherwydd pan gyhoeddwyd yr Adolygiad o Wariant dim ond hil, anabledd a rhyw (yn cynnwys ailbennu rhywedd) oedd yr oblygiadau cyfreithiol yn delio â nhw.

Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd yr Asesiad hwn yn darparu cyfleoedd dysgu positif ac mai un o’r canlyniadau fydd y byddwn yn gallu porthi’r dysgu hwn i ddatblygiad canllaw yn y dyfodol ar gyfer Trysorlys EM ac adrannau eraill y Llywodraeth ar weithrediad dyletswyddau newydd.

Beth sydd wedi ysgogi’r Comisiwn i weithredu ar hyn o bryd?

A: Mae’r Comisiwn wedi bod yn cynnal trafodaethau â Thrysorlys EM ar i ba raddau maent wedi talu ‘sylw dyledus’ i’r dyletswyddau cydraddoldeb presennol (rhyw, hil ac anabledd) yn eu prosesau gwneud penderfyniadau a datblygu polisïau.

Mae’r Asesiad yn darparu llwybr ffurfiol i’r Comisiwn barhau â’r dialog a chael mynediad at yr holl wybodaeth mae angen i wneud Asesiad terfynol.

Mae’r grym i gynnal Asesiad A.31 yn un o rymoedd unigryw'r Comisiwn fel rheolydd ac yn ein galluogi i gael mynediad at yr wybodaeth a dogfennaeth sy’n angenrheidiol i wneud Asesiad llawn o gydymffurfiad â dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus.

Hyd yn hyn, nid ydym wedi canfod tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfiad parthed yr Adolygiad o Wariant. Nid oes rhaid i’r Comisiwn ddod o hyd i dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfiad i gychwyn Asesiad A.31. Gall y broses hon fod yn gyfle ymarferol i Drysorlys EM adolygu ei waith parhaus gyda’r Comisiwn i sicrhau ei fod yn cydymffurfio’n llawn â dyletswyddau cydraddoldeb ac i osod safon briodol i’r Llywodraeth wrth wneud penderfyniadau anodd.

Beth yw’r amserlen ar gyfer Asesiad?

A: Rydym yn gobeithio cyhoeddi’n hadroddiad terfynol o’r Asesiad hwn yn yr haf ac yn gobeithio gallu cyhoeddi diweddariad statws dros dro tua’r Pasg.

Pam ei bod mor bwysig fod Trysorlys EM yn talu sylw i gydraddoldeb?

Mae’r toriadau arfaethedig yn debygol o effeithio ar bawb, felly pam ei bod yn bwysig fod Trysorlys EM yn talu sylw i gydraddoldeb?

A: Yn debyg i awdurdodau cyhoeddus eraill, mae yna oblygiad cyfreithiol ar adrannau Llywodraeth i sicrhau eu bod yn ystyried effaith bosibl eu penderfyniadau polisi ar ddynion a menywod (yn cynnwys dynion a menywod trawsrywiol), ar bobl anabl ac ar bobl o wahanol grwpiau hiliol. Ble nodir effaith negyddol ar unrhyw un o’r grwpiau gwarchodedig hyn, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ystyried p’un a ellir cyfiawnhau parhau gyda’r polisi. Yn gyntaf, byddai angen iddynt ystyried os oedd gan y mesur dan sylw nod gyfreithlon; yn ail p’un a yw’r mesur yn gallu cyflawni’r nod; ac yn drydydd, p’un ai, wedi ystyried y posibiliad o gyflawni’r nod yn defnyddio dulliau eraill, yw’r mesur yn gymesur. Byddai’n rhaid cydbwyso effeithiau gwahaniaethol unrhyw bolisi yn erbyn anghenion rhesymol Trysorlys EM.

Golyga hyn fod yn rhaid ystyried oblygiadau penderfyniadau, yn cynnwys rhai anfwriadol, yn gywir, a ble nodir effaith negyddol, dylid mynd ymlaen i ystyried sut y gellir lliniaru hyn.

Dylai’r broses o nodi ac ystyried yr oblygiadau alluogi sefydliadau i ddatblygu proses gwneud penderfyniadau mwy deallus. Dylai ystyried yr oblygiadau anfwriadol arwain at benderfyniadau gwell a chyflawniad gwell o’r deilliannau arofun.

A yw’r Comisiwn yn ceisio atal y Llywodraeth rhag gwneud y penderfyniadau ariannol hyn?

A: Nid yw’r gyfraith yn atal swyddogion y Llywodraeth rhag gwneud penderfyniadau anodd. Nac ychwaith yw’n eu hatal rhag gwneud penderfyniadau allai effeithio un grŵp yn fwy nag un arall, mae hyn yn cynnwys y rhai gyda nodweddion gwarchodedig. Mae’r gyfraith yn gofyn y dylid gwneud penderfyniadau o’r fath mewn modd teg, tryloyw ac atebol, gan ystyried anghenion a hawliau gwahanol aelodau o’r gymuned. Bydd yr asesiad hwn yn ystyried p’un a yw Trysorlys EM wedi talu sylw dyledus i’r dyletswyddau cydraddoldeb presennol yn ei broses o wneud penderfyniadau.

Beth mae’r Comisiwn yn gobeithio ei gyflawni trwy wneud hyn

A: Bydd yr Asesiad yn sefydlu p’un a yw Trysorlys EM wedi cyflawni ei oblygiadau i dalu sylw dyledus i’r Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector cyhoeddus presennol yn ei broses o wneud penderfyniadau. Mae’r Comisiwn yn dymuno gwerthuso nid yn unig pa gamau mae Trysorlys EM wedi cymryd, ond hefyd i weithio gyda nhw i nodi unrhyw gyfleoedd posibl ar gyfer gwelliant. Rydym yn gobeithio y bydd y broses hon yn galluogi dysgu gwersi ar draws Llywodraeth a fydd yn gwella’r deilliannau ar gyfer grwpiau gwarchodedig trwy sicrhau y telir sylw dyledus i ddyletswyddau cydraddoldeb yn y broses o wneud penderfyniadau.

Mae hyn yn rhan allweddol o ymgyrch y Llywodraeth i sicrhau mwy o dryloywder a’i amcanion datganedig ei hun i osod tegwch yn ganolog i benderfyniadau anodd.

A yw’r Comisiwn wedi cwblhau unrhyw Asesiadau Adran 31 blaenorol?

A:Asesiad Adran 31 ffurfiol cyntaf y Comisiwn oedd o asiantaeth Canolfan Byd Gwaith yr Adran Waith a Phensiynau. Fe’i cwblhawyd yng Ngorffennaf 2009 gan ganfod nad oedd y Ganolfan Byd Gwaith yn bodloni holl ddisgwyliadau ei Ddyletswyddau Sector Cyhoeddus ar gydraddoldeb a bod yna ddyblygu gwaith diangen rhwng gwaith yr Adran a’i asiantaeth ar bolisïau cydraddoldeb.

Fe nododd y Comisiwn hefyd nifer o enghreifftiau o arfer da yn y broses Asesu.

Asesiad y Ganolfan Byd Gwaith

A oes unrhyw Asesiadau eraill ar y gweill gydag adrannau eraill Llywodraeth?

A: Yng Ngorffennaf 2009 fe gyhoeddodd y Comisiwn ei fod yn cyflawni Asesiad i ba raddau y mae Llywodraeth yr Alban yn bodloni ei Ddyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus wrth ddatblygu a gweithredu ei bolisïau ac arferon gyda ffocws arbennig ar Asesiadau Effaith Cydraddoldeb.

Mae’r Asesiad yn cael ei gyflawni gyda chydweithrediad llawn Llywodraeth yr Alban. Mae’n edrych ar dri maes polisi penodol fel enghreifftiau o’r modd y mae Llywodraeth yr Alban yn prif ffrydio materion cydraddoldeb i’w waith. Mae’r Asesiad yn canolbwyntio ar:

  • Ganllaw ar Strategaethau Tai Lleol
  • Y Strategaeth Gyffuriau Genedlaethol: The Road to Recovery
  • Datblygiad y Rhaglen Gwelliannau “Better Together"

Disgwylir i adroddiad terfynol nodi enghreifftiau o arfer da, yn ogystal â gwneud argymhellion i wella perfformiad y Llywodraeth ble fo’n briodol. Bwriedir hefyd y bydd cyrff cyhoeddus eraill yn defnyddio’r adroddiad hwn fel canllaw arfer gorau i gyflawni eu dyletswyddau sector cyhoeddus yn effeithiol.

Beth yw Sylwadau?

A: Mae sylwadau yn gyfle i fuddgyfranogwyr gyflwyno gwybodaeth i’r Comisiwn sy’n ymwneud â’r Asesiad Adran 31.

Mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â beth fydd yn ystyried fel rhan o’r broses hon gan nad oes rhaid iddo ystyried gwybodaeth nad yw’n ymwneud â’r Asesiad fel y’i diffiniwyd yn y Cylch Gorchwyl.

Gweler: Sut i gyflwyno sylwadau

A fydd y Comisiwn yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth y byddant ei angen?

A: Yn rhan o’r broses Asesu, mae gan y Comisiwn y grym gyflwyno hysbysiad yn gofyn i rywun ddarparu gwybodaeth neu gynhyrchu dogfennau sydd yn ei feddiant neu ei meddiant, neu i gyflwyno tystiolaeth lafar. Gall y Comisiwn wneud cais i lys am orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i unigolyn gydymffurfio â’r hysbysiad. Mae’n drosedd i unrhyw un fethu cydymffurfio â hysbysiad, i wneud hynny heb reswm rhesymol neu i ffugio tystiolaeth neu wneud datganiad gau.

Beth sy’n digwydd os bydd Asesiad yn canfod trosedd yn erbyn dyletswydd?

A: Os yw canlyniadau’r Asesiad yn canfod y troseddwyd yn erbyn dyletswydd cydraddoldeb, gall y Comisiwn gyhoeddi hysbysiad cydymffurfiad. Neu, os yw’r awdurdod cyhoeddus yn ymgymryd i beidio troseddu yn erbyn y ddyletswydd ac i weithredu i osgoi troseddu yn erbyn y ddyletswydd, gall y Comisiwn ddod i gytundeb rhwymol gydag awdurdod cyhoeddus yn hytrach na chyhoeddi hysbysiad (adran 23).

Yna bydd y Comisiwn yn parhau i fonitro gweithredoedd yr awdurdod cyhoeddus. Os byddwn yn canfod eu bod yn methu cydymffurfio â naill ai hysbysiad cydymffurfiad neu gytundeb rhwymol, gall y Comisiwn wneud cais i lys am orchymyn i’w gorfodi i gydymffurfio.

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar oblygiadau awdurdod cyhoeddus dan y Dyletswyddau Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus?

A: Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael ar adran dyletswyddau sector cyhoeddus gwefan y Comisiwn. Mae’r gyfraith ar beth sydd wedi ei gynnwys ar hyn o bryd a beth fydd wedi ei gynnwys gan y dyletswyddau yn newid eleni ac fe roddir manylion cryno isod er gwybodaeth.

Beth sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd

Dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, mae yna ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i dalu ‘sylw priodol’ i’r angen i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb parthed hil, anabledd a rhyw, yn cynnwys ailbennu rhywedd, yn ogystal ag i hyrwyddo cysylltiadau hiliol da.

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i arddangos y ddyletswydd hon i dalu ‘sylw priodol’ yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae asesu effaith cydraddoldeb posibl newidiadau arfaethedig i bolisïau, gweithdrefnau ac arferion yn un o’r dulliau allweddol sydd ar gael i awdurdodau cyhoeddus arddangos 'sylw priodol'.

Mae hefyd yn bwysig nodi fod awdurdodau cyhoeddus sy’n amodol i'r dyletswyddau cydraddoldeb hefyd yn debygol o fod yn amodol i'r amodau dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Felly byddem yn argymell y dylai awdurdodau cyhoeddus ystyried effaith posibl eu penderfyniadau ar hawliau dynol.

Beth fydd yn ofynnol dan y gyfraith o Ebrill 2011

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyflwyno Dyletswydd Sector Cyhoeddus newydd sy’n ymestyn y cwmpas hwn i oed, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, a chrefydd neu gredo.

Wrth baratoi ar gyfer dod â’r dyletswyddau newydd hyn i rym, byddem yn argymell y dylai awdurdodau cyhoedd gychwyn asesu effaith posibl eu penderfyniadau ariannol ar y grwpiau newydd a ddiogelir ble fo’n berthnasol a chymesur.

Mae’r Comisiwn yn ymroddedig i sicrhau fod awdurdodau cyhoeddus yn asesu effaith eu penderfyniadau terfynol ar gydraddoldeb yn gywir. Yn hyn o beth, rydym wedi cyhoeddi nifer o adnoddau ddylai fod yn ddefnyddiol i awdurdodau cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill megis grwpiau Sector Gwirfoddol a Chymunedol ac Undebau Llafur. Maent yn cynnwys canllawiau, Cwestiynau Cyffredin, Cyfraith Achosion Perthnasol ac enghreifftiau o Arfer Gorau (byddant ar gael gam wrth gam).

Rwy’n gweithio i awdurdod cyhoeddus, ble allaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar beth sy’n rhaid i ni wneud?

A: Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl a chanllaw yn adran dyletswyddau sector cyhoeddus gwefan y Comisiwn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymestyn dyletswydd y sector cyhoeddus i oed, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, a chrefydd neu gredo.

Mae canllaw newydd yn cael ei baratoi gan y Comisiwn a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan o flaen llaw i’r newidiadau sydd i ddod yn Ebrill 2011. Gallwch weld rhagolwg o'r canllaw yma..

back to top