Ar 23 Mehefin 2011 rydym yn lansio’r cam ymgynghori cyntaf o dair i ddatblygu ein cynllun strategol nesaf ar gyfer 2012-2015. Mae Cam un yn bwrw golwg ar ein cynllun strategol cyfredol ac i’r graddau yr ydym wedi gwireddu’n haddewid ynglŷn â’r deg o bethau yr oeddem yn bwriadu eu cyflawni. Rydym wedi cyhoeddi holiadur a gwybodaeth ategol ac rydym am ymgynghori a chynnwys pob un sydd â diddordeb yn ein gwaith.
Darllenwch fwy am yr ymgynghoriad
Mae ein strategaeth yn seiliedig ar ein gweledigaeth o Brydain well ac wedi’i sefydlu ar egwyddorion tegwch a pharch, ein dyletswydd statudol i ddileu gwahaniaethu, ac anghenion y gymdeithas y gweithredwn ynddi.
Gwelwch hefyd:
• Ein Cynllun Busnes 2009/10
• Ein Hadroddiadau Blynyddol