Mae’r Llywodraeth wedi comisiynu Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb newydd (EASS) i ddisodli Llinell Gymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Daeth Llinell Gymorth y Comisiwn i ben ar 24 Medi ac ni ellir mwyach gysylltu â hi ar y ffôn, drwy lythyr nag mewn e-bost. Bydd EASS yn dechrau ei wasanaeth am 9am, 1 Hydref 2012.
Y rhifau cyswllt i’r gwasanaeth newydd yw:
Ffôn: 0808 800 0082
Ffôn Testun: 0808 800 0084
Oriau agor:
09:00 i 20:00 Dydd Llun i ddydd Gwener
10:00 i 14:00 Dydd Sadwrn
Ar gau ddydd Sul a Gwyliau’r Banc
Drwy’r post: FREEPOST Equality Advisory Support Service FPN4431
Darllenwch ein gwybodaeth ynglŷn â gwneud cais FOI.
Darllenwch ein gwybodaeth ynglŷn â gwneud cais DPA a lawr lwythwch ffurflen i gael mynediad at bwnc.
Darllenwch ein gwybodaeth ynglŷn â gwneud cwyn am y Comisiwn.
3ydd Llawr, 3 Sgwâr Callaghan, Caerdydd , CF10 5BT
Ffôn 02920 447710
Ffôn testun 029 20447713
Ffacs 02920 447712
e bostio wales@equalityhumanrights.com
Ymwelwyr yn cyrraedd ar drên:
Ar ôl disgyn o’r platfform yng Nghaerdydd Canolog drwy’r grisiau neu lifft, cymerwch yr allanfa gefn o’r orsaf drwy ddilyn yr arwyddion am ‘Heb dalu’ a’r Maes Parcio. Swyddfa’r CCHD yw’r adeilad 6 llawr gwyn a llwyd yn union o’ch blaen wrth i chi ddod allan o’r allanfa gefn, gyferbyn a maes parcio cefn yr orsaf, ond nodwch nid oes yno rif nac arwydd i nodi’r adeilad ar hyn o bryd.
Neu, os ydych chi’n gadael yr orsaf drwy’r cynulliad yna ewch yn syth ymlaen tuag at y rheng dacsi ar y llaw dde o’r brif fynedfa. Ym mhen arall y rheng dacsi, gyferbyn a’r gwesty ‘Great Western’ a chyn i chi gyrraedd y brif groesfan ffordd, trowch yn ddi-oed i’r dde ac i lawr yr heol fach wedi’i henwi ar gyfer bysys yn unig ac ewch o dan y bont o’r enw “Fordthorne”. Daw hon a chi i faes parcio’r orsaf gyda’r swyddfa ar eich llaw dde y tu ôl i’r arosfan.
A wnewch nodi os gwelwch yn dda bod rhaid cael tocyn dilys i fynd trwy’r rhwystrau neu i gyrraedd y platform. Mae parcio yn yr orsaf yn costio £7.50 y dydd.
Wrth gyrraedd y swyddfa mae angen i chi arwyddo wrth y ddesg flaen cyn gwneud eich ffordd i’r trydydd llawr.
Ymwelwyr yn cyrraedd mewn awyren:
Lleolir Maes awyr Caerdydd (Y Rhws) tua 15 km i Dde Orllewin canol y ddinas. Wrth gyrraedd y maes awyr gall ymwelwyr deithio i ganol y ddinas mewn tacsi, ar drên neu fws.
O’r maes awyr mewn Tacsi : ‘Checker Cars’ yw’r gweithredwr swyddogol i’r maes awyr. Lleolir y tacsis yn union y tu allan i ‘arrivals’ a gellir eu bwcio o flaen llaw drwy e bostio cardiff@checkercars.com neu ffonio +44 (0)1446 711747. Gadewch o leiaf 30munud + £25 am y daith.
O’r maes awyr ar Drên: Mae bws gwennol yn rhad ac am ddim i orsaf drên y Rhws, a leolir tua milltir o’r maes awyr. Mae trenau i Gaerdydd yn gadael ar 6 & 12 munud wedi’r awr. Mae’r daith tua 30 munud o hyd ac mae tocyn sengl yn costio’n llai na £5. www.arrivatrainswales.co.uk
O’r maes awyr ar Fws: Mae gwasanaeth ‘X91 Express’ yn rhedeg rhwng y maes awyr a Gorsaf Caerdydd Canolog bob awr Llun i Sadwrn (yn y dydd) a phob dwy awr ar y Sul a Gwyliau Banc (yn y dydd yn unig). Mae tocyn sengl yn costio’n llai na £5.
Ymwelwyr yn cyrraedd mewn car:
Y brif ffordd i Gaerdydd yw’r M4.
Maes Parcio:
Mae un lle parcio hygyrch ar gael yn Sgwâr Callaghan ar gyfer ymwelwyr ond mae rhaid bwcio hwn o flaen llaw gyda Jenny Squire ar 02920 447710. I yrwyr heb anabledd, maes parcio’r orsaf yw’r un agosaf i’r swyddfa ac mae’n costio £7.50 y dydd.
Swyddfa Gogledd Cymru, Canolfan Lafan, 2 Glanrafon, Bangor Gwynedd, LL57 1LH
Ffôn 01248 360582
Ffôn testun 01248 360583
Ffacs 01248 360584
Os ydych yn gweithio i’r cyfryngau ac yn dymuno siarad â’n swyddfa’r wasg, galwch 02920 447710 os gwelwch yn dda.
Sylwer - Nid yw’r rhifau uchod ar gyfer llinell gymorth y Comisiwn (Mae honno wedi darfod ). Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb os ydych angen cyngor neu wybodaeth.
I ddweud wrthym am unrhyw broblemau sy’n eich rhwystro rhag defnyddio’r wefan hon neu am roi eich sylwadau am y safle, defnyddiwch ein ffurflen adborth ar-lein.