Creu Prydain Decach
Bydd y Ddeddf Cydraddoldeb yn dechrau dod i rym y mis Hydref hwn. Er mwyn helpu pobl i baratoi am y ddeddf newydd hon rydym wedi cyhoeddi arweiniad ac arfer da ar beth y golyga i gyflogwyr, gweithwyr, darparwyr gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth.
Adnodd rhyngweithiol yw Stryd Urddas a gynhyrchwyd gan y Comisiwn yng Nghymru ar gyfer archwilio hawliau dynol, Cwrddwch â’r trigolion a chanfod sut mae hawliau dynol yn effeithio ar eu bywydau beunyddiol.
Y rhan gyntaf o’r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a ddaw i rym ym mis Hydref, a bydd rhannau eraill i ddilyn.
Gosodwyd Y Codau Ymarfer ar gyfer Cyflog Cyfartal gerbron y Senedd ac mae Codau eraill ar y gweill.
Byddwn yn dechrau ymgynghori yn yr Hydref ar ganllaw drafft i Ddyletswydd Cydraddoldeb newydd y Sector Cyhoeddus.
Cadwch i fyny â’r newyddion diweddaraf ar y Ddeddf Cydraddoldeb yn y rhan hon o’r safle.
29 July 2010
19 July 2010
15 July 2010
Rydym wedi cynhyrchu canllaw i’r cyfryngau i helpu hyrwyddo sylw teg a chytbwys ar Deithwyr Sipsi.
Canfyddwch becynnau cymorth a chanllaw i fynd i’r afael â rhagfarn tuag at bobl â chyflyrau iechyd meddwl ac am gamdriniaeth ddomestig.
Mae’n Hymchwiliad i aflonyddu ar sail anabledd yn casglu tystiolaeth - y dyddiad cau yw 10 Medi. Rydym am glywed oddi ar bobl anabl, eu ffrindiau, teuluoedd a’u cymdeithion; ac oddi ar sefydliadau sy’n gweithio dros/gyda phobl anabl, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol ac awdurdodau cyhoeddus. Gallwch roi tystiolaeth drwy ddulliau amrywiol gan gynnwys ein porth ar lein ddiogel.
Mae’r Comisiwn yn yr Alban wedi lansio Ymchwiliad ar Fasnachu mewn pobl yn yr Alban, i archwilio natur, maint, achosion, polisi a’r arferion ynglŷn â masnachu mewn pobl. Cyn bo hir, bydd yr Ymchwiliad yn casglu tystiolaeth gan gyrff cyhoeddus.
Gobeithio, y bydd hi’n haws i chi ganfod gwybodaeth o ganlyniad newidiadau i’n gwefan. Rhowch eich barn i ni drwy gwblhau’n harolwg bodlonrwydd.