Materion trafnidiaeth cyffredinol 

 

English Language Version : General transport issues

 

Mae deddfwriaeth fel y Ddeddf Cydraddoldeb a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw yn ymdrin â mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys trenau, tramiau, llongau a thacsis. Mae fersiwn diwygiedig o’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd hefyd yn gofyn i ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus wneud ‘addasiadau rhesymol’ os nad yw eu gwasanaethau’n gwbl hygyrch i bobl anabl, tra bod Cynllun Trafnidiaeth 10 mlynedd Llywodraeth San Steffan yn nodi bod hygyrchedd yn un o amodau gwariant cyhoeddus.

Gyda’r holl ddeddfau newydd a’r gwelliannau mewn technoleg trafnidiaeth, felly mae pobl yn llawer mwy ymwybodol o faterion hygyrchedd ledled Prydain heddiw. Er hynny, mae amrywiaeth eang o grwpiau yn dal i wynebu problemau difrifol, o’r henoed i rieni â phlant ifanc, pobl sy’n ei chael yn anodd symud o gwmpas i rai sy’n dibynnu ar gynorthwywyr personol, cynhalwyr neu gŵn cymorth.

Er enghraifft, mae bron i hanner pobl anabl Cymru a Lloegr yn dweud eu bod wedi cael problemau wrth deithio.

Nid oes modd dibynnu ar geir bob amser chwaith, gydag un arolwg yn dangos bod dros un o bob pum lle parcio penodol i yrwyr anabl yn cael eu camddefnyddio gan yrwyr nad ydynt yn anabl. Fell, mae’n bwysig gwybod beth yw eich hawliau.

On this page

 

Beth sy’n anghyfreithlon

Mae’n anghyfreithlon i ddarparwr trafnidiaeth wahaniaethu yn erbyn rhywun:

  • trwy wrthod rhoi unrhyw wasanaeth i rywun ar sail ei ryw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, y mae’n ei ddarparu (neu’n barod i’w ddarparu) i aelodau eraill o’r cyhoedd
  • trwy gynnig gwasanaeth o safon is i rywun oherwydd ei ryw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred
  • trwy gynnig gwasanaeth ar delerau gwahanol i rywun oherwydd ei ryw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred.


Back to top^  

Dyletswyddau cyfreithiol darparwyr trafnidiaeth

Mae’r adran hon yn trafod enghreifftiau o’r dyletswyddau statudol sy’n gysylltiedig â thacsis a minicabiau, bysiau a choetsys, trenau a thramiau.

Tacsis a minicabiau

Y gwahaniaeth rhwng tacsis a minicabiau yw bod modd i chi logi tacsi ar ochr y ffordd: er enghraifft tacsis du Llundain.  Ar y llaw arall, rhaid archebu minicab dros y ffôn neu’n bersonol, ac yna mae’r gyrwyr yn cael eu hanfon gan y gweithredwr neu’r clerc archebion.

Mae dyletswydd ar yrrwr tacsi sy’n cael ei logi gan unigolyn anabl â chi tywys neu gi clyw, neu sy’n cael ei logi gan rywun sy’n teithio gyda’r unigolyn anabl, i wneud y canlynol yn y rhan fwyaf o amgylchiadau:

  • cludo ci’r teithiwr a gadael iddo aros gyda’r teithiwr
  • peidio â chodi tâl ychwanegol am wneud hynny.

Gallai gyrrwr sy’n methu â chydymffurfio â’r dyletswyddau hyn gael ei ddirwyo.

Mae gweithredwr minicab neu gerbyd hurio preifat arall yn cyflawni trosedd:

  • os yw’n gwrthod derbyn archeb gan unigolyn anabl (neu gan rywun sy’n dymuno cyd-deithio ag ef neu hi) oherwydd y bydd gan yr unigolyn anabl gi cymorth gydag ef/hi
  • os yw’n codi tâl ychwanegol am gludo ci cymorth.

Mae gyrrwr minicab neu gerbyd hurio preifat arall yn cyflawni trosedd os yw’n gwrthod derbyn archeb gan unigolyn anabl (neu gan rywun sy’n dymuno cyd-deithio ag unigolyn anabl) dim ond oherwydd y bydd gan yr unigolyn anabl gi cymorth.

Bysiau a choetsys

Rhaid i bob bws a choets newydd fodloni gofynion Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Gwasanaethau Cyhoeddus 2000.  Mae’r rheoliadau hyn yn cwmpasu lleoedd hygyrch i gadeiriau olwyn, seddi blaenoriaeth, rheiliau llaw a lloriau gwrthlithro.  Os nad oes gan fws neu goets newydd dystysgrif berthnasol i ddangos eu bod wedi bodloni’r rheoliadau newydd, mae hynny’n drosedd.

Cerbydau’r rheilffyrdd – trenau a thramiau

Mae Rheoliadau Hygyrchedd Cerbydau Rheilffyrdd 1998 yn berthnasol i gerbydau rheilffyrdd fel trenau, tramiau, trenau un gledren a systemau magnetig sydd ar waith ers 1 Ionawr 1999.

Mae Rheoliadau 1998 yn mynnu bod gan drenau a thramiau leoedd i gadeiriau olwyn, botymau neu handlenni hygyrch ar y drysau, toiledau hygyrch a drysau sy’n addas i gadeiriau olwyn. Mae’n drosedd i gerbyd rheilffordd fethu â chydymffurfio â darpariaethau Rheoliadau 1998. 


Back to top^