Pryd mae’n gyfreithlon i wahaniaethu
English Language Version : When discrimination is lawful
Dan rai amgylchiadau, mae’n gyfreithlon cyfyngu gwasanaethau i aelodau o grŵp neu grwpiau penodol yn unig. Darllenwch fwy am y manylion llawn a’r hyn sydd wedi’i eithrio o’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb. Mae’r rhai pwysicaf wedi’u nodi isod:
On this page
Gwahaniaethu ar sail anabledd
Mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau drin pobl anabl yn llai ffafriol nag eraill am reswm sy’n ymwneud â’u hanabledd, oni bai bod modd cyfiawnhau hynny. Efallai bod modd i ddarparwr gwasanaethau gyfiawnhau trin pobl anabl yn llai ffafriol, neu beidio â gwneud addasiadau rhesymol i roi nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau iddynt, os yw’n rhesymol i’r darparwr gredu’r canlynol:
-
mae’r driniaeth yn angenrheidiol i warchod iechyd neu ddiogelwch rhywun, boed anabl neu beidio
-
mae’r driniaeth yn rhesymol oherwydd bod y person anabl yn analluog i wneud cytundeb gorfodadwy neu roi cydsyniad gwybodus
-
mae’r driniaeth yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i’r darparwr ddarparu’r nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i’r person anabl neu aelodau eraill o’r cyhoedd
-
mae’r gwahaniaeth o ran y telerau ar gyfer darparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau yn adlewyrchu’r ffaith ei bod hi’n costio mwy i’w darparu i bobl anabl. Er hynny, ni all darparwyr gwasanaethau ystyried costau gwneud addasiadau rhesymol i bolisïau neu nodweddion ffisegol, neu roi cymorth neu wasanaeth atodol.
Gall hefyd fod yn gyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau drin pobl anabl yn wahanol yn y sefyllfaoedd canlynol:
-
Gwarantau: os yw darparwr gwasanaethau yn cynnig gwarant ar wasanaeth neu gynnyrch, efallai bod ganddo gyfiawnhad dros wrthod newid neu drwsio’r gwasanaeth neu gynnyrch, neu wrthod rhoi ad-daliad, os achoswyd y difrod am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y cwsmer.
- Blaendaliadau: os yw darparwr gwasanaethau yn gofyn am flaendal gan gwsmer, ac yn ei ad-dalu os yw’r nwyddau neu’r gwasanaeth mewn un darn, efallai bod ganddo gyfiawnhad dros wrthod ad-dalu’r blaendal i gyd neu ran ohono os achoswyd difrod am reswm sy’n ymwneud ag anabledd y cwsmer.
Back to top^
Elusennau
Mae rhai mathau o wahaniaethu ar sail rhyw, hil, crefydd neu gred a chyfeiriadedd rhywiol yn gyfreithlon dan rai amgylchiadau lle mae elusennau’n gweithio er lles pobl sy’n perthyn i grŵp neu grwpiau penodol.
Enghraifft
Mae elusen trais domestig yn cael ei sefydlu i fynd i’r afael ag achosion o drais a cham-drin yn erbyn lesbiaid, dynion hoyw, ddeurywiol a phobl a thrawsrywiol. Mae hyn yn debygol o fod yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.
Back to top^
Chwaraeon a chystadlaethau
Mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn gyfreithlon dan rai amgylchiadau, wrth ddewis pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a digwyddiadau cystadleuol eraill lle mae’r gweithgareddau wedi’u cyfyngu i gystadleuwyr o un rhyw. Mae hefyd yn gyfreithlon i wahaniaethu ar sail cenedligrwydd, man geni neu hyd preswylio mewn man penodol dan rai amgylchiadau, wrth ddewis pobl i gynrychioli lle neu wlad mewn cystadleuaeth.
Back to top^
Gweithredu cadarnhaol
Os nad oes cynrychiolaeth ddigonol o’r nail ryw neu’r llall, neu o grŵp hiliol penodol, mae eithriadau cyfyngedig sy’n caniatáu i sefydliadau wahaniaethu mewn hyfforddiant, neu annog pobl i ymgeisio am fath arbennig o waith. Cyfeirir at yr eithriadau cyfreithlon hyn fel gweithredu cadarnhaol weithiau.
Enghraifft
Mae cwmni peirianneg eisiau helpu i gynyddu nifer y menywod sy’n cael eu cyflogi yno fel peirianwyr. Mae’r rheolwr Adnoddau Dynol yn datblygu rhaglen i weithio gydag ysgolion a cholegau er mwyn denu mwy o ddiddordeb ymhlith marched, a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt ym maes peirianneg. Mae’r cwmni hefyd yn cynnig bwrsariaeth i helpu dwy fyfyrwraig peirianneg gyda’u costau prifysgol blynyddol. Mae hyn yn debygol o fod yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon ar sail rhyw.
Enghraifft
Mae awdurdod lleol wedi paratoi rhaglen gweithredu cadarnhaol i gefnogi ac annog gweithwyr Bangladeshaidd a Phacistanaidd i geisio cael dyrchafiad. Roedd tystiolaeth yn dangos nad oedd y grŵp hwn yn ymgeisio am swyddi uwch, er bod ganddynt gymwysterau a’u bod wedi cael gwerthusiadau perfformiad da.
Wrth drafod gyda nhw, fe welodd yr awdurdod mai’r rhwystr mwyaf i’r grŵp hwn gael dyrchafiad oedd diffyg cyfleoedd i gael profiad goruchwylio. Roedd profiad o’r fath yn hanfodol i’r rhan fwyaf o swyddi uwch.
Aeth yr awdurdod ati i ddatblygu pecyn gweithredu cadarnhaol er mwyn rhoi cyfle i’r grŵp gael profiad o oruchwylio. Mewn byr amser, roedd yr aelodau wedi cael digon o brofiad i wneud cais am ddyrchafiad ar yr un raddfa â grwpiau eraill o staff yr awdurdod. Mae hyn yn debygol o fod yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.
Back to top^
Maethu a gofal yn y cartref
Wrth wneud trefniadau maethu plant, neu roi gwasanaethau gofal personol i bobl, efallai ei bod yn gyfreithlon gwahaniaethu ar sail eu hil, crefydd neu gred neu gyfeiriadedd rhywiol.
Enghraifft
Mae plentyn Indiaidd sydd angen rhieni maeth wedi’i fagu fel Hindw. Mae’r awdurdod lleol yn mynd ati i chwilio am rieni maeth sy’n Indiaid a Hindwaidd, gan y byddant yn deall anghenion crefyddol a diwylliannol y plentyn yn well na neb. O gofio faint o ofal personol sydd ei angen, mae hyn yn debygol o fod yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.
Enghraifft
Mae cartref gofal sy’n gofalu am Iddewon Uniongred hŷn yn hysbysebu am staff gofal Iddewig. Mae’r rheolwraig yn gwybod mai dim ond staff gofal Iddewig fydd yn deall digon am anghenion diwylliannol a chrefyddol y trigolion, o gymharu â phobl nad ydynt yn Iddewon. O gofio faint o ofal personol fydd ei angen, mae hyn yn debygol o fod yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.
Ar yr un pryd, mae’r rheolwraig yn hysbysebu am staff glanhau, heb ofyn am ymgeiswyr Iddewig. Mae’n gwybod bod modd dysgu glanhawyr i ddeall rheolau crefyddol penodol sy’n berthnasol wrth weithio mewn rhai sefyllfaoedd. Ni fydd y glanhawyr yn rhoi gofal personol i’r trigolion, ac nid yw yn debygol o fod yn gyfreithlon i gyfyngu’r swyddi hyn i bobl Iddewig.
Back to top^
Pleidiau gwleidyddol
Mae’n gyfreithlon i ddarpariaethau yng nghyfansoddiad, gwaith trefnu neu weinyddiaeth plaid wleidyddol, fod yn berthnasol i bobl o’r un rhyw yn unig.
Back to top^
Sefydliadau gwirfoddol
Mae gan sefydliadau, nad ydynt yn ceisio gwneud elw nac wedi’u sefydlu gan y senedd, yr hawl i ddenu aelodau o un rhyw yn unig, a gallant roi buddion, cyfleusterau neu wasanaethau i’r aelodau hynny. Ni does rhaid iddynt fod yn ‘gwbl preifat’ : gallant wneud hyn, hyd yn oed pe bai eu aelodaeth yn agored i’r cyhoedd neu i ran o’r cyhoedd. Hefyd, os mae cyflwyno buddion i bobl o un rhyw yn unig yw prif nod y sefydliad gwirfoddol, gall gyflwyno’r buddion hynny hyd yn oed i’r rheiny nad ydynt yn aelodau a nid oes rheidrwydd arnynt i gyfyngu eu haelodaeth i un rhyw yn unig cyn medru gwneud hynny.
Nid yw hyn yn berthnasol i sefydliadau, nad ydynt yn ceisio gwneud elw ac sy wedi’u sefydlu gan y senedd. Nid allant hwy gyfyngu eu haelodaeth na’u darpariaeth o wasanaethau heblaw eu bod dau eithriad arall.
Back to top^
Yswiriant
Ni ellir herio’r modd y cafodd rhywun ei drin ar fater blwydd-dal, polisi yswiriant bywyd, polisi yswiriant damwain, neu fater tebyg sy’n ymwneud ag asesu risg, fel enghraifft o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd – lle cyfeiriwyd at ddata perthnasol a dibynadwy i esbonio’r driniaeth a bod hynny’n rhesymol dan yr amgylchiadau. Fel arfer, mae hyn yn golygu tystiolaeth actiwari neu ystadegau yswiriant, neu adroddiad meddygol yn achos anabledd.
Enghraifft
Gall cwmni yswiriant ceir godi premiwm uwch ar ddynion, os oes ystadegau dibynadwy yn dangos bod dynion yn fwy tebygol o gael damwain.
Back to top^
Llety cymunedol
Mewn rhai amgylchiadau, mae’n gyfreithlon neilltuo llety cymunedol i bobl o’r un rhyw yn unig.
Enghraifft
Dim ond menywod mae hostel ieuenctid yn ei dderbyn, gan mai dim ond un ystafell gysgu sydd yno ac nid oes modd ei rhannu i greu lle ar wahân i ddynion.
Mwy o wybodaeth am eich hawliau yn gwasanaethau tai.
Back to top^
Cyfleusterau neu wasanaethau ar gyfer rhyw penodol
Mae’n gyfreithlon cyfyngu gwasanaethau neu gyfleusterau i ddynion yn unig yn yr amgylchiadau canlynol:
-
mae’r lle dan sylw naill ai’n ysbyty neu’n rhan o ysbyty, uned adsefydlu, neu sefydliad arall ar gyfer pobl sydd angen gofal, goruchwyliaeth neu sylw arbennig.
-
mae’r lle’n cael ei ddefnyddio at ddibenion crefyddol penodol, ac mae’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau wedi’u cyfyngu i ddynion yn unig er mwyn cydymffurfio ag athrawiaeth y grefydd honno neu er mwyn osgoi tramgwyddo yn erbyn tueddiadau crefyddol cyfran sylweddol o’i dilynwyr
-
mae mwy nag un person yn debygol o ddefnyddio’r cyfleusterau ar y tro, ac mae’r dynion sy’n eu defnyddio yn debygol o deimlo embaras difrifol ym mhresenoldeb menyw, neu mae’r defnyddiwr yn debygol o ddadwisgo ac fe allai wrthwynebu cael menyw o gwmpas y lle (er enghraifft, cyfleusterau sawna i ddynion yn benodol).
-
gwasanaethau neu gyfleusterau lle mae cysylltiad corfforol yn bosibl rhwng y defnyddwyr, a lle gall dynion wrthwynebu dod i gysylltiad â menywod (er enghraifft dosbarthiadau crefft ymladd, sy’n cynnwys cysylltiad corfforol agos rhwng myfyrwyr). Er hynny, mae sesiynau chwaraeon un rhyw yn anghyfreithlon ar y cyfan, oni bai bod darparwyr yn gallu profi y byddai grwpiau cymysg yn creu gormod o embaras i’r defnyddwyr.
Pobl drawsrywiol
Mae ‘trawsrywiol’ yn derm cynhwysol sy’n cwmpasu pobl drawsrywiol a thrawswisgwyr.
Nid yw pobl drawsrywiol yn gyfforddus gyda’u rhyw genedigol, gan deimlo eu bod wedi’u geni yn y corff anghywir. Cyflwr meddygol o’r enw anesmwythder rhyw (gender dysphoria) yw hyn. Mae rhai pobl drawsrywiol yn mynd ati i gael llawdriniaeth a thriniaeth arall i newid eu rhyw. Nid yw trawswisgwyr fel arfer am newid eu rhyw.
Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol ym maes cyflogaeth a hyfforddiant galwedigaethol oherwydd iddynt newid eu rhyw. Gweler Rheoliadau Gwahaniaethu ar sail Rhyw (Newid Rhyw) 1999.
Mae gan bobl drawsrywiol hawl gyfreithiol i gael eu cydnabod yn ôl eu rhyw newydd, yn sgil Deddf Cydnabod Rhyw 2004. Ceir cydnabyddiaeth gyfreithiol ar ôl cyflwyno tystysgrif cydnabyddiaeth lawn gan y Panel Cydnabod Rhyw. Mae’r dystysgrif yn golygu bod pobl drawsrywiol yn gallu newid eu rhyw cyfreithiol ac ennill hawliau a chyfrifoldebau i gyd-fynd â hynny. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i gael tystysgrif geni newydd, os cofrestrwyd yr enedigaeth yn y DU, a’r hawl i briodi neu fynd i bartneriaeth sifil yn y rhyw newydd.
O fis Rhagfyr 2007, fe fydd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn pobl drawsrywiol wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau.
Back to top^
Anghenion addysg, hyfforddiant a lles
Mae’n gyfreithlon rhoi cyfle i bobl sy’n perthyn i grŵp hiliol arbennig, ddefnyddio cyfleusterau neu wasanaethau arbennig i ddiwallu anghenion addysg, hyfforddiant a lles y grŵp penodol hwnnw.
Back to top^
Sefydliadau sy’n ymwneud â chrefydd neu gred
Gall rhai sefydliadau sydd wedi’u sefydlu i arfer, hyrwyddo neu addysgu crefydd neu gred, gyfyngu’r aelodaeth i bobl o’r grefydd neu’r gred honno mewn rhai amgylchiadau. Gallant gyfyngu ar bwy sy’n cael cymryd rhan yn eu gweithgareddau; sut maen nhw’n darparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau fel rhan o’u gweithgareddau; a’r defnydd o’u hadeiladau. Gallant hefyd rwystro pobl rhag ymaelodi a defnyddio’u gwasanaethau ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol i sefydliadau sydd â’r unig neu’r prif bwrpas o wneud elw.
Bydd angen i sefydliadau crefyddol sydd eisiau defnyddio’r eithriad ar sail cyfeiriadedd rhywiol brofi:
-
nad yw u prif neu eu hunig fwriad yn un masnachol
-
nad yw’r gwasanaeth dan sylw yn cael ei ddarparu ar ran, ac o dan gontract gydag awdurdod lleol
-
bod y gwaharddiadau a gyflwynwyd yn angenrheidiol i gydymffurfio ag athrawiaeth y sefydliad, neu er mwyn osgoi gwrthdaro gydag argyhoeddiadau cryf cyfran sylweddol o ddilynwyr y grefydd.
Gweler y darn cyfeiriadedd rhywiol hefyd.
Back to top^
Awdurdodau cyhoeddus
Mae rhai awdurdodau cyhoeddus wedi’u heithrio o’r ddeddfwriaeth gydraddoldeb wrth gyflawni swyddogaethau barnwrol neu ddeddfwriaethol, a rhai swyddogaethau addysg a mewnfudo. Mae ambell i sefydliad cyhoeddus wedi’i heithrio hefyd, gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi, y Gwasanaeth Diogelwch a’r Gwasanaethau Cudd, Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth neu unrhyw ran o’r lluoedd arfog sy’n ei chynorthwyo.
Mwy o wybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb a mynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu.
Back to top^
Asiantaethau mabwysiadu neu faethu
Tan fis Rhagfyr 2008, gall asiantaethau mabwysiadu neu faethu sy’n sefydliadau crefyddol (neu’n gweithredu oddi tanynt) wrthod darparu gwasanaethau neu gyfleusterau i rywun ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol, cyn belled â’u bod yn cyfeirio’r unigolyn dan sylw at sefydliad neu rywun arall sy’n cynnig gwasanaethau neu gyfleusterau tebyg i bobl o’i gyfeiriadedd rhywiol ef/hi.
Back to top^
Rhoi gwaed
Mae’n anghyfreithlon i rywun sy’n rhedeg gwasanaeth rhoi gwaed wahaniaethu yn erbyn rhywun arall ar sail ei gyfeiriadedd rhywiol, a gwrthod gadael iddo ef neu hi roi gwaed - oni bai ei fod yn gwneud hynny ar sail risg i’r cyhoedd yn ôl data meddygol o ffynhonnell ddibynadwy, a’i bod hi’n rhesymol gwrthod dan yr amgylchiadau.
Back to top^