Ym mhob achos, bron, ni chaiff pobl neu fusnesau sy’n darparu gwasanaeth i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd, eich trin yn llai ffafriol na neb arall ar sail eich rhyw, hil, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw anabledd sydd gennych. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n anghyfreithlon iddynt, neu rywun sy’n gweithio iddynt, wrthod rhoi gwasanaeth i chi, rhoi gwasanaeth salach neu gynnig gwasanaeth ar delerau gwahanol i bobl eraill.
Yn gyffredinol, mae’r gyfraith yn berthnasol i wasanaethau sy’n cael eu darparu gan unigolion a sefydliadau i’r cyhoedd neu unrhyw ran o’r cyhoedd. Gweler restr o enghreifftiau.
Enghraifft
Mae maes chwaraeon yn gwrthod rhoi mynediad i fenyw am iddi roi tystiolaeth i gefnogi honiad ei ffrind bod y maes chwaraeon wedi gwahaniaethu yn ei herbyn ar sail anabledd. Mae hyn yn enghraifft o erledigaeth. Gallai perchnogion neu reolwyr y maes chwaraeon wynebu camau cyfreithiol. Mae’n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaethau eich trin yn llai ffafriol ar sail eich crefydd neu’ch cred, ond efallai ei bod yn gyfreithlon iddynt eich trin yn wahanol am resymau sy’n ymwneud â’u crefydd neu eu cred eu hunain.
Mwy o wybodaeth am wahaniaethu cyfreithlon ac anghyfreithlon
Mae’n anghyfreithlon i ddarparwyr gwasanaethau drin pobl anabl yn llai ffafriol nag eraill am resymau’n ymwneud â’u hanabledd, oni bai bod modd cyfiawnhau triniaeth o’r fath.Mwy o wybodaeth am yr amgylchiadau prin lle gall achos o wahaniaethu ar sail anabledd fod yn gyfreithlon.
O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, mae darparwyr gwasanaethau yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol er mwyn i gwsmeriaid anabl allu defnyddio eu gwasanaethau.