Ym mhob achos, bron, ni chaiff unigolion neu sefydliadau sy’n cynnal canolfannau adloniant fel sinemâu, theatrau, bwytai, bariau, tafarndai a chaffis wahaniaethu’n anghyfreithlon yn y modd maen nhw’n darparu gwasanaethau, boed hynny trwy wrthod rhoi gwasanaeth, rhoi gwasanaeth salach, neu gynnig gwasanaeth ar delerau gwahanol i bobl eraill.
Mewn rhai achosion, gall clybiau preifat nodi mai dim ond pobl sy’n perthyn i grŵp neu grwpiau penodol sy’n cael ymaelodi â nhw a defnyddio’u gwasanaethau.
Fel pob darparwr gwasanaethau, mae perchnogion canolfannau adloniant yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol er mwyn i gwsmeriaid anabl allu defnyddio eu gwasanaethau.
Enghraifft
Mae perchennog bwyty yn gofyn i gwpl hoyw sy’n gafael dwylo ar draws y bwrdd adael y lle, ond yn gadael i gwpl heterorywiol sy’n gwneud yr un peth aros. Gall hyn fod yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol.
Enghraifft
Mae rheolwraig sinema yn gwrthod gwerthu tocyn i ddyn mewn cadair olwyn. Mae’n dadlau y gallai’r dyn roi bywydau pobl eraill mewn perygl petai tân yn yr adeilad, oherwydd y gallai rwystro’r allanfa. Gall hyn fod yn enghraifft o wahaniaethu ar sail anabledd.