Clybiau a chymdeithasau 

 

Rhaid i glybiau a chymdeithasau sy’n agored i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd drin pawb sy’n defnyddio eu gwasanaethau neu gyfleusterau yn gyfartal. Ni chânt wrthod rhoi gwasanaeth, neu gynnig gwasanaethau ar delerau gwahanol, i bobl ar sail eu hanabledd, hil, rhyw, cred neu gyfeiriadedd rhywiol. Mewn rhai amgylchiadau, gallant wahaniaethu ar sail oed. Er enghraifft, cyflwyno gwaharddiadau oedran os ydynt yn gwerthu alcohol.

Fel darparwyr gwasanaethau, mae’n rhaid i glybiau a chymdeithasau wneud addasiadau rhesymol er mwyn i aelodau neu westeion anabl allu defnyddio eu gwasanaethau a’u cyfleusterau. Gall hyn olygu newid arferion, polisïau a gweithdrefnau yn ogystal â chyflwyno newidiadau ffisegol. Mwy o wybodaeth am addasiadau rhesymol.

Mae’r gyfraith yn wahanol i glybiau preifat, sydd â hawliau penodol i ddewis aelodau a gwesteion, a chyfyngu ar aelodaeth.

On this page

 

Clybiau preifat

Mae gennych hawliau cyfreithiol penodol i’ch amddiffyn rhag gwahaniaethu annheg mewn clybiau preifat sy’n bodloni’r gofynion canlynol:

  • mae ganddynt 25 neu fwy o aelodau
  • mae cyfansoddiad y clwb yn rheoleiddio pwy sy’n cael caniatâd i fod yn aelod (gall fod yn ysgrifenedig neu ddim)
  • nid undeb llafur na chymdeithas cyflogwyr mo’r clwb 
  • nid yw aelodau’r clwb yn cyfateb i garfan o’r cyhoedd.

Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r clwb gael polisi aelodaeth wedi’i seilio ar feini prawf personol gwirioneddol. Fel arfer, bydd yr ymgeisydd yn gorfod gwneud cais personol, cael ei noddi neu enwebu gan aelodau eraill, a mynd trwy ryw fath o broses ddethol, fel pleidlais. Ar y cyfan, mae gan y clybiau hyn hawl i ddarparu gwasanaethau a chyfleusterau i bobl o grŵp/grwpiau penodol, cyn belled â’u bod wedi’u sefydlu er lles y grŵp neu’r grwpiau hynny.


Back to top^  

Gwahaniaethu anghyfreithlon

Gall fod yn anghyfreithlon i glwb preifat wrthod rhoi aelodaeth i chi, neu gynnig aelodaeth ar delerau llai ffafriol ar sail eich hil, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd.

Enghraifft

Mae clwb preifat yn gwrthod darpar aelodau nad ydynt yn cydymffurfio â’i ‘ddelwedd’, ac yn gwrthod menyw â’i hwyneb wedi’i anffurfio. Er bod y clwb yn gwrthod pobl nad ydynt yn anabl yn rheolaidd, mae’r fenyw hon wedi’i thrin yn llai teg oherwydd ei hanabledd. Mae hyn yn wahaniaethu uniongyrchol.

Os ydych chi’n aelod neu’n aelod cysylltiol o glwb preifat, efallai ei bod yn anghyfreithlon i’r clwb eich trin yn llai ffafriol ar sail eich hil, cyfeiriadedd rhywiol neu anabledd trwy wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • gwrthod gadael i chi elwa ar unrhyw fuddion, cyfleusterau neu wasanaethau a ddarperir gan y clwb (fel defnyddio bariau a bwytai’r clwb, neu ddefnyddio’r cyfleusterau tu allan).
  • ei gwneud hi’n anoddach i chi elwa ar unrhyw fuddion, cyfleusterau neu wasanaethau.
  • eich amddifadu o’ch aelodaeth neu amrywio telerau’ch aelodaeth
  • eich amddifadu o’ch hawliau fel aelod cysylltiol, neu amrywio’r hawliau hyn.
  • rhoi unrhyw driniaeth arall llai ffafriol i chi.

Mae clybiau preifat hefyd yn gorfod cydymffurfio â’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i’w gwasanaethau, arferion, buddion neu gyfleusterau fel eu bod yn agored i bawb, gan gynnwys aelodau, darpar aelodau a gwesteion. Mwy o wybodaeth am beth sydd angen i ddarparwyr gwasanaethau, gan gynnwys clybiau preifat, ei wneud o ran addasiadau rhesymol.

Enghraifft

Mae gan glwb cinio preifat aelod anabl sy’n cael trafferth defnyddio cyllyll a ffyrc yn y clwb. Mae’r clwb yn darparu cyllyll a ffyrc arbennig sy’n ei gwneud hi’n haws i’r aelod eu defnyddio. Mae hyn yn debygol o gael ei ystyried yn gam rhesymol.

Enghraifft

Mae clwb yn gofyn i rai sy’n dymuno adnewyddu eu haelodaeth, ddod i’r clwb yn bersonol ar y diwrnod pan ddaw’r aelodaeth i ben. Er bod aelod anabl eisiau ailymaelodi, mae ganddi apwyntiad ysbyty pan fo gofyn iddi fynychu’r clwb. Mae’r clwb yn gwrthod newid y rheol fel y gall ddod i’r clwb ar ddiwrnod arall. Mae hyn yn debygol o fod yn gwahaniaethu ar sail anabledd am fethu â gwneud addasiadau rhesymol.


Back to top^  

Eithriadau i glybiau preifat

Mae clybiau preifat yn cael gwahaniaethu ar sail hil (ond nid ar sail lliw) os mai’r prif nod yw cynnig manteision aelodaeth i bobl o grŵp hiliol penodol – a hwnnw’n grŵp a ddiffinnir mewn modd ar wahân i liw’r croen.

Enghraifft

Mae’n gyfreithlon i glwb a sefydlwyd yn unswydd ar gyfer Ffrancwyr gyfyngu’r aelodaeth i bobl o dras Ffrengig yn unig.

Mae hefyd yn gyfreithlon i wahaniaethu fel hyn ar sail cyfeiriadedd rhywiol, os mai prif nod y clwb yw cynnig manteision aelodaeth i bobl o gyfeiriadedd rhywiol penodol. 

Enghraifft

Mae gan glwb cymdeithasol i lesbiaid reol sy’n nodi mai lesbiaid yn unig a gaiff ymaelodi. Nid yw’n caniatáu i ddynion hoyw, deurywiol na thrawsrywiol fod yn aelodau, er y gallant ddod i’r clwb fel gwesteion yr aelodau. Mae’r rheol aelodaeth yn debygol o fod yn wahaniaethu cyfreithlon.

Does dim i wahardd clybiau preifat rhag gwahaniaethu ar sail rhyw, crefydd neu gred rhywun ar hyn o bryd.

Enghraifft

Mae gan glwb cymdeithasol reol sy’n dweud mai dim ond pobl sydd wedi’u bedyddio’n Gatholigion sy’n cael dod yn aelodau. Mae croeso i aelodau o grefyddau a chredoau eraill ddod i’r clwb fel gwesteion. Mae’r rheol aelodaeth yn debygol o fod yn enghraifft o wahaniaethu cyfreithlon.

Efallai bod modd cyfiawnhau triniaeth lai ffafriol ar sail anabledd dan rhai amgylchiadau. Mwy o wybodaeth ar pryd mae achos o wahaniaethu yn gyfreithlon.


Back to top^