Sexual orientation information in English
Mae’r adran hon o’r wefan yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.
Mae’n ymdrin â chyfeiriadedd rhywiol waeth beth yw eich rhyw neu statws rhywiol. Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am wahaniaethu oherwydd eich statws rhywiol, neu am eich bod yn drawsrywiol, ewch i’r adran ar ryw.
Mae gwahaniaethu anghyfreithlon ar sail cyfeiriadedd rhywiol yn digwydd pan fo rhywun yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei gyfeiriadedd rhywiol, ei gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig, neu gyfeiriadedd rhywiol y bobl mae’n cymdeithasu â nhw.
Edrychwch ar y tudalennau canlynol i ddysgu mwy am eich hawliau cyfreithiol: