Mae'r adran hon yn ystyried cydraddoldeb o safbwynt darparwyr gwasanaethau. Mae'n esbonio ystyr 'darparwyr gwasanaethau' ac yn amlinellu eu meysydd cyfrifoldeb. Mae hefyd yn nodi rhai o'r pethau y gall darparwyr gwasanaethau eu gwneud i hyrwyddo cyfle cyfartal a mynd i'r afael â gwahaniaethu.
Mae'r adran hon yn ystyried y pwnc o safbwynt y darparwr. Dilynwch y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am safbwynt y defnyddiwr gwasanaeth Gweithredu'r Hawliau: Siopau a gwasanaethau.
I gael gwybodaeth am eich cyfrifoldebau i ddefnyddwyr gwasanaethau y tu hwnt i gydraddoldeb a hawliau dynol (er enghraifft, hawliau defnyddwyr yn fwy cyffredinol), ewch i wefan Cyswllt Busnes y Llywodraeth.
Mae'n anghyfreithlon gwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau i'r cyhoedd ar sail rhyw, hil, anabledd, rhywedd, tueddfryd rhywiol, a chrefydd neu gred.
Mae gwahaniaethu wrth ddarparu gwasanaethau yn golygu:
• gwrthod darparu gwasanaeth
• darparu gwasanaeth o safon is neu
• gynnig gwasanaeth ar delerau gwahanol nag y byddech i bobl eraill.
Nid oes deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon gwahaniaethu ar sail oedran wrth ddarparu gwasanaethau: er enghraifft, gall tafarn ddewis gwrthod gwerthu alcohol i bobl o dan 21 oed.
Fel darparwr gwasanaeth, bydd cael arferion cydraddoldeb da yn helpu i sicrhau bod eich gwasanaethau ar gael i'r ystod ehangaf posibl o gwsmeriaid. Mae gwelliannau fel goleuadau gwell ac arwyddion clir o fudd i bawb.
Bydd deall y nod hwn a goblygiadau'r cyfreithiau hyn yn helpu i'ch diogelu rhag camau cyfreithiol, a all fod yn gostus ac yn niweidiol i'ch enw da.
Yn yr adran hon
· Beth yw'r diffiniad o ddarparwr gwasanaeth?
· Meysydd cyfrifoldeb
· Y gyfraith
· Sut i fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb