Hawliau mewn amgylchiadau gwahanol 

 

crowd on a bridge

Mae’r adran hon yn ymdrin ar wahanol amgylchiadau lle bo rhai pobl yn cael eu gwahaniaethu, fel yn yr ysgol, y gweithle a’r farchnad swyddi, siopau a thrafnidiaeth gyhoeddus, a delio â’r heddlu.

Mae’n egluro’r hawliau penodol sydd gennych yn y sefyllfaoedd hyn.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol 

Mae’r adran hon yn ymwneud â sicrhau triniaeth deg a gydag urddas, mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd.

Tai ac eiddo

Yma, cewch wybodaeth am eich hawliau yn ymwneud â thai ac eiddo, a sefyllfaoedd perthnasol lle gall gwahaniaethu ddigwydd. Mae’r term ‘tai ac eiddo’ yn cynnwys preswylfaoedd fel fflatiau, tai, byngalos a chartrefi symudol, ac adeiladau masnachol.

System Cyfiawnder Troseddol

Mae gan yr heddlu ar llysoedd yr un deddfwriaeth gwrth wahaniaethu a chyrff cyhoeddus eraill, ac ni ddylent wahaniaethu yn anheg wrth gyflawni eu dyletswyddau neu wrth ddarparu eu gwasanaethau.

Addysg a hyfforddiant

Mae’r adran hon yn ymwneud a sicrhau triniaeth deg mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n cynwys addysg feithrin, ysgolion a cholegau, hyfforddiant yn ymwneud a gwaith, ac addysg i oedolion neu dysgu parhaol ac fe’i anelir yn bennaf at fyfyrwyr neu disgyblion a’u rhieni neu gofalwyr, ond hefyd at unrhywun sydd a diddordeb i ddysgu mwy yn y maes yma.

Siopau a gwasanaethau

Mae’r adran hon yn ymwneud a hawliau mewn maes eang o wasanaethau, yn cynnwys gwasanaethau cyllid, siopau, adloniannau, gwasanaethau ffôn ac ar lein. Mae’n ymdrin a’r addasiadau rhesymol y disgwylir i ddarparwyr gwasanaeth i wneud i’w hadeiladau a’u practisiau busnes, ac mae’n olrhain amgylchiadau lle mae’n gyfreithiol i ddarparwr gwasanaeth gyfyngu ar ei ddarpariaeth i grwp penodol o bobl.

Trafnidaieth

Bydd yr adran hon yn rhoi arweiniad i chi ddeall eich hawliau wrth ddefnyddio rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus trwy gydol Lloegr, Cymru a’r Alban. Mae’n ymwneud a’r safonau o hygyrchedd y gallwch ddisgwyl gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus – hygyrched cerbydau a chafaladwyedd gwybodaeth amserlen. Mae hefyd yn olrhain y deddfau sy’n rheoli hygyrchedd trafnidiaeth ar hyn y gallwch wneud os ydych yn teimlo bod gwasanaeth penodol yn eich diarddel neu yn eich trin yn fwy anheg nag aelodau eraill o’r cyhoedd.

Gweithio ac ennill cyflog

Mae gan bawb yr hawl i driniaeth deg yn y gweithle ac i fod yn rhydd o unrhyw wahaniaethu ar sail oedran, hil, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhyw, crefydd neu cred.

Mae’r gyfraith yn eich amddiffyn rhag driniaeth anghyfartal yn y gweithle ar unrhyw un o’r seiliau hyn boed i chi fod yn weithiwr amser llawn neu beidio, mewn swydd dros dro neu os ydych yn weithiwr ar eich liwt eich hun neu i asiant.