O dan ba amgylchiadau mae’r gyfraith yn caniatáu gwahaniaethu ar sail crefydd? 

 

English Language Version :When does the law allow religious discrimination?

 

Mae’n anghyfreithlon gwahaniaethu yn eich erbyn ar sail eich crefydd neu’ch cred yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, ond gall hynny fod yn gyfreithlon mewn amgylchiadau cyfyngedig.

On this page

 

Gofynion galwedigaethol dilys

Gall cyflogwr hawlio bod crefydd neu gred arbennig yn hollbwysig ar gyfer y swydd, mewn rhai amgylchiadau. Mewn geiriau eraill, mae crefydd neu gred yn cael ei ystyried yn ofyniad galwedigaethol dilys. Mae eithriadau tebyg yn berthnasol i achosion o wahaniaethu ar sail hil a rhyw hefyd.

Enghraifft 1: Cigydd Halal

Os yw cigydd yn gorfod paratoi cig halal (cig wedi’i baratoi mewn ffordd arbennig sy’n cyd-fynd â’r ffydd Fwslimaidd), yna efallai bod cyfiawnhad dros fynnu cael cigydd Mwslimaidd i wneud hyn.

Enghraifft 2: Sefydliadau crefyddol

Efallai y gall sefydliad sy’n gweithio ar sail crefydd neu gred benodol ddefnyddio’r rheol hon. Efallai bod cartref gofal Catholig yn gallu dangos bod angen i’r gofalwr fod yn Gatholig gan fod angen iddo/iddi ddiwallu anghenion ysbrydol y cleient fel rhan o’r gwaith. Ond ni allent hawlio’r un peth ar gyfer staff y dderbynfa, gan nad oes angen iddyn nhw roi arweiniad neu gymorth ysbrydol i’w cleientiaid. 

Efallai nad yw’r ymgeiswyr yn meddwl bod rheol hon yn briodol neu’n deg ar gyfer swydd benodol. Os felly, gallant hawlio bod y cyflogwr wedi gwahaniaethu’n eu herbyn yn annheg. Bydd angen i’r cyflogwr esbonio a chyfiawnhau’r rheol hon.


Back to top^  

Gweithredu cadarnhaol

Mae’r term ‘gweithredu cadarnhaol’ yn cyfeirio at y mesurau cyfreithiol sydd â’r nod o wrthweithio effeithiau gwahaniaethu blaenorol a helpu i chwalu ystrydebau. Mae modd gweithredu’n gadarnhaol i annog pobl o grefydd neu gred arbennig i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddiant neu gynlluniau profiad gwaith, neu eu hannog i wneud cais am swyddi penodol. Gellir ond gwneud hyn os nad oes cynrychiolaeth ddigonol o grŵp penodol mewn maes cyflogaeth arbennig.

Gall gweithredu cadarnhaol gynnwys pethau fel cyflwyno gweithdrefnau dewis teg, rhaglenni hyfforddi neu hysbysebion swyddi sy’n targedu grŵp penodol.

Nid yw gweithredu cadarnhaol yr un peth â gwahaniaethu cadarnhaol, ac nid yw’n golygu trin grwpiau penodol yn fwy ffafriol wrth recriwtio. Rhaid i gyflogwyr ofalu eu bod yn penodi neu’n dyrchafu gweithwyr cyflogedig ar sail haeddiant yn unig. Ni ddylid ystyried materion crefydd neu gred wrth ddewis ymgeisydd ar gyfer swydd.

Enghraifft

Mae awdurdod lleol yn poeni mai ychydig iawn o Fwslimiaid sy’n ymgeisio am eu swyddi er bod yna ganran uchel o Fwslimiaid yn yr ardal. Wrth hysbysebu am staff, mae’r awdurdod yn nodi ei fod yn annog ceisiadau gan bobl â chredoau crefyddol gan nad digon o gynrychiolaeth ohonynt yn y sefydliad. Ar yr un pryd, mae’r awdurdod yn nodi’n glir ei fod yn trin pob cais ar sail haeddiant. Mae’r awdurdod hefyd yn cysylltu â chynrychiolwyr a sefydliadau’r gymuned Fwslimaidd leol, yn gofyn iddynt annog pobl â’r cymwysterau addas i wneud cais am swyddi.


Back to top^  

Cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol

Efallai bod modd cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd neu gred dan rai amgylchiadau – dim ond os yw hyn yn cael ei ystyried yn ffordd gymesur o gyflawni nod cyfreithlon.

I gyfiawnhau achos o wahaniaethu anuniongyrchol, byddai angen i rywun ddangos bod yna angen busnes dilys am bolisi sy’n rhoi pobl o grefydd neu gred benodol dan anfantais arbennig, ac nad oes unrhyw ddewis arall i hynny.

Mae’r mathau hyn o gyfiawnhad sy’n gyfreithiol dderbyniol ond yn berthnasol i achosion o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail crefydd, ac nid gwahaniaethu uniongyrchol ar sail crefydd.

Enghraifft

Mae cwmni’n gofyn i’w weithwyr weithio’n hwyr ar brynhawniau Gwener er mwyn dadansoddi prisiau’r farchnad stoc yn America. Yn sgil amrywiaethau amser y byd, mae’r prisiau’n cyrraedd yn hwyr yn y dydd. Yn ystod misoedd y gaeaf, mae rhai aelodau o’r staff eisiau gadael yn gynnar er mwyn cwblhau defodau crefyddol penodol cyn iddi nosi. Mae’r gweithwyr yn cynnig gwneud iawn am hyn ar noson arall o’r wythnos. Ond ni all y cwmni gytuno i hyn, gan fod prisiau America yn hanfodol i’r busnes. Felly, nid yw’r gofyniad i weithio ar brynhawn Gwener yn erbyn y gyfraith.


Back to top^