Beth yw gwahaniaethu ar sail crefydd?
English Language Version : What is religious discrimination
Gall achosion o wahaniaethu ar sail crefydd ddigwydd am nad ydych chi’n rhannu’r un credoau crefyddol neu athronyddol â rhywun arall, neu oherwydd nad oes gennych chi unrhyw gred o gwbl, a bod rhywun yn eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall sy’n rhannu’r un grefydd neu gred â nhw.
Gall ddigwydd hefyd oherwydd credoau crefyddol neu athronyddol rhywun sy’n gysylltiedig â chi, neu os yw rhywun yn credu bod gennych gredoau penodol ac nad yw hynny’n wir.
Mae yna bedwar math o wahaniaethu ar sail crefydd neu gred. Mae trosedd casineb crefyddol yn fater troseddol y dylid ei gyfeirio at yr heddlu.
Er bod disgrifiadau cyrion i’w cael yma, gallwch gael fwy o wybodaeth hefyd ynglŷn â’r diffiniadau cyfreithiol o’r mathau gwahanol o wahaniaethu.<Link to discrimination description in legal glossary>
On this page
Gwahaniaethu uniongyrchol
Ystyr gwahaniaethu uniongyrchol ar sail crefydd yw eich bod chi’n cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd:
-
nid yw rhywun yn hoffi’ch credoau crefyddol neu athronyddol chi
-
nad ydych chi’n rhannu’r un credoau cyfreithiol neu athronyddol â nhw, neu nad oes gennych rai
-
bod rhywun yn eich cysylltu chi â rhywun arall sydd â chredoau crefyddol neu athronyddol nad ydynt yn eu hoffi.
Back to top^
Gwahaniaethu anuniongyrchol
Os oes gan sefydliad bolisïau, meini prawf neu brosesau sy’n golygu eich bod dan anfantais oherwydd eich credoau crefyddol neu athronyddol, neu oherwydd nad oes gennych chi gredo o gwbl, gall hyn fod yn wahaniaethu anuniongyrchol.
Back to top^
Aflonyddu
Ystyr aflonyddu ar sail crefydd neu gred yw ymddygiad sy’n eich dychryn, eich brawychu neu sy’n peri gofid i chi mewn unrhyw fodd. Gall pobl ddioddef hefyd am eu bod nhw’n anffyddwyr.
Mae aflonyddu ar sail crefydd neu gred yr unigolyn, neu oherwydd diffyg crefydd neu gred yn anghyfreithlon yn y gweithle ac mae’n destun Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Crefydd neu Gred) 2003.<link to legal centre> Mae’r gyfraith yn diffinio’r math hwn o aflonyddu fel unrhyw ymddygiad annymunol sy’n tarfu ar urddas rhywun neu ymddygiad sy’n creu awyrgylch bygythiol, gelyniaethus, sarhaus neu ymosodol.
Mwy o wybodaeth am aflonyddu yn y gwaith.
Gall aflonyddu ar sail crefydd neu gred fod yn achos amlwg o fwlio neu’n anfwriadol neu guddiedig. Gall dargedu :
-
eich credoau neu’ch arferion crefyddol chi
-
y grefydd neu’r gred athronyddol ei hun
-
y grefydd neu’r gred mae rhywun yn gysylltiedig â hi.
Does dim rhaid i hyn effeithio ar unigolion yn unig. Gall aflonyddu olygu dweud jôcs cyffredinol am grefydd arbennig, er enghraifft.
Efallai y bydd sefydliadau’n cael eu dal yn gyfrifol os bydd eu staff yn aflonyddu yn y gweithle, neu mewn digwyddiad neu ganolfan sy’n gysylltiedig â’r gwaith.
Back to top^
Erledigaeth
Ystyr erledigaeth yw trin rhywun yn wael oherwydd ei fod wedi cwyno am achos o wahaniaethu, neu wedi tystiolaeth mewn achos o’r fath.
Gallai hyn gynnwys:
-
cyhuddo’r sawl dan sylw o greu helynt
-
gwrthod unrhyw gyfleoedd neu wasanaethau y byddant yn eu cael fel arall (fel cael dyrchafiad yn y gwaith)
-
anwybyddu’r sawl dan sylw.
Gellir gorfodi rhywun sy’n erlid rhywun arall i dalu iawndal i’r sawl sy’n dioddef. Mae hyn hefyd yn berthnasol i sefydliadau sydd ddim yn rhwystro’u gweithwyr rhag erlid rhywun arall.
Back to top^
Troseddau casineb
Os yw rhywun yn eich bygwth, cam-drin neu’n ymosod arnoch chi oherwydd eich crefydd neu’ch cred (neu ddiffyg crefydd neu gred), gall hyn olygu ‘trosedd casineb’. Mae troseddau casineb yn droseddau go iawn, a dylech roi gwybod i’r heddlu.
Gall troseddau casineb gynnwys:
-
ymosodiadau corfforol a difrodi’ch eiddo chi
-
llythyrau, negeseuon ffôn neu e-bost sarhaus
-
criw o bobl yn eich dychryn
-
taflenni neu bosteri tramgwyddus
-
gadael sbwriel y tu allan i’ch cartref neu drwy’ch bocs llythyrau
-
bwlio yn yr ysgol neu’r gwaith.
Os oes gennych chi ormod o ofn siarad â’r heddlu, fe allwch chi roi gwybod i’r canlynol am achos o drosedd casineb – yn anhysbys:
Back to top^