Beth ddywed y gyfraith? 

 

English Language Version : What does the law say? 

 

 

Yn y blynyddoedd diweddar, mae llywodraeth Prydain wedi pasio deddfau i amddiffyn rhyddid crefyddol. Mae’r deddfau’n cynnwys:

  • Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth  (Crefydd neu Gred) 2003
  • Deddf Casineb Hiliol a Chrefyddol 2006
  • Deddf Cydraddoldeb 2006
  • Deddf Hawliau Dynol 1998.

Mwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth gwrth-wahaniaethu a hawliau dynol ym Mhrydain. (in English)

Mae rhan 2 y Ddeddf Cydraddoldeb, a ddaeth i rym ar 30 Ebrill 2007, yn ymdrin â gwahardd gwahaniaethu ar sail crefydd neu gred wrth ddarparu nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau, addysg, defnyddio neu gael gwared ar adeiladau a chyflawni swyddogaethau cyhoeddus. Mae’r llywodraeth wedi paratoi canllawiau ar y ddeddfwriaeth hon.