English Language Version : What is a religion?
Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn cynnwys diffiniadau o grefydd a chred, a gaiff eu dehongli gan y llysoedd gan gyfeirio at gyfraith achosion perthnasol, gan gynnwys achosion sy’n ymwneud â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Er mwyn cael eu hamddiffyn o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006, rhaid i grefydd neu gred gael eu cydnabod fel rhai dilys, difrif, cydlynus a chydnaws ag urddas dynol. Mae’r cysyniad hwn yn cynnwys crefyddau sy’n adnabyddus ym Mhrydain (er nad yn gyfyngedig iddynt yn unig) fel:
-
Ffydd y Baha’i
-
Bwdhaeth
-
Cristnogaeth
-
Hindŵaeth
-
Islam
-
Jainïaeth
-
Iddewiaeth
-
Rastaffariaeth
-
Sikhiaeth
-
Zoroastriniaeth
Bydd enwadau neu sectau o fewn crefydd yn cael eu cydnabod fel crefyddau, neu gredoau crefyddol hefyd, fel Catholigiaeth a Phrotestaniaeth, sef adrannau o Gristnogaeth.