English version here.
Gwersyll haf 'Our Space' yn dechrau yn Ardal y Llynoedd
Mae bron i gant o blant yn eu harddegau 14-15 mlwydd oed o bob cwr o Loegr, yr Alban a Chymru ac sydd yn cynrychioli ystôd amrywiaeth o ieuenctid Prydain wedi dod ynghyd yn Ardal y Llynoedd i fwynhau gwersyll haf cyntaf y Comisiwn 'Our Space'.
Bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn amryw o weithgareddau wedi’u hanelu ar ddatblygu eu sgiliau ar arwain ac ar wella eu hyder. Ar y diwrnod cyntaf, fe ddysgon nhw sut i ddarllen mapiau a chwmpawd a sgiliau cerdded a chyfeiriadu arall..
Yn ystod yr wythnos i ddod byddwn yn dilyn symudiadau’r gwersyll gyda blogiau arlein,storïau a lluniau felly dewch i’r dudalen hon yn ddyddiol i weld sut mae pethau’n dod ymlaen.
Y Lluniau diweddaraf o’r gwersyll



Edrychwch ar y lluniau arall yn ein horiel
Dyddiadur Our Space
Y Pumed Diwrnod
Daeth y pumed a’r diwrnod olaf o’n prosiect gwersyll haf Our Space â ddrama a naws tristwch bod gweithgareddau’r wythnos yn dirwyn i ben.
Dechreuodd y diwrnod wrth i dîm Croeso’r Comisiwn arwain drafodaeth lle annogwyd y grwpiau i ddatblygu syniadau ar gyfer eu gweithredu yn eu cymunedau er mwyn dileu gwahaniaethu. Roedd y trafodaethau’n fywiog iawn ac roedd rhai o’r syniadau â gytunwyd arnynt yn cynnwys:
- Gwirfoddoli â phobl hŷn,
- Cynnal gwasanaeth ysgol i nodi wythnos gwrth-fwlio, ac
- Annog fwy o bobl ifanc âg anabledd i wneud cais i fod yn bresennol yn y gwersyll haf y flwyddyn nesaf os fydd e’n digwydd.
Yn hwyrach, cyrhaeddodd , Nicola Brewer, Prif Weithredwr y Comisiwn yn Llyn Windermere mewn da amser i ddal diwedd ras dîm yn cynnwys canwyio a cherdded. Roedd hi’n amlwg bod y bobl ifanc wedi ffurfio gyfeillgarwch gryf â’u cyfoedion, er mai dieithriaid oeddynt dim ond diwrnodau yn gynt.
Arweiniodd Nicola seremoni gau, gan gyflwyno tystysgrifau a medalau i nodi campau’r gwersyllwyr drwy gydol yr wythnos. Yna daeth yr amser a oedd yn arswydus i bawb, roedd hi’n adeg ffarwelio. Gollyngwyd dagrau, cyfnewidiwyd cyfeiriadau ebost a rhifau ffonau symudol yn wyllt, a gwnaed apêl o ddifrif am i’r Comisiwm gynnal ddigwyddiad tebyg eto y flwyddyn nesaf!
Y Pedwerydd Diwrnod
Felly sut y bu hi ar ein gwersyllwyr awyr agored wrth dreulio noson ‘byw’n galed’ mewn pebyll? Ar ôl holl gyffro digwyddiadau’r diwrnod roedden nhw’n cysgu’n drwm cyn i’r haul fachlud.
Wrth i’r gwersyll ddeffro i awyr las lachar roedd yma ryfeddu ar sut mor gyflym roedd yr wythnos yn dod i’w phen. Ar y diwrnod a oedd yn addo bod y poetha o’r flwyddyn, roedd yn ymddangos fel y lleoliad perffaith i grŵp o wersyllwyr gychwyn allan yn eu canwyau i archwilio rhannau deheuol Llyn Windermere. Roedd eu brwdfrydedd yn heintus wrth iddynt gario eu gêr diddos ac wrth iddynt fwynhau eu cinio yn cael seibiant ar ynys gerllaw. Mae hyfforddwyr profiadol yn arwain yr alltaith fel iddynt symud i ffwrdd o’r lan.
Yn y cyfamser gwnaeth grŵp arall o wersyllwyr ddechrau ar sesiwn dysgu sgiliau cymorth cyntaf. Mae dymïau dynol yn cael eu defnyddio i ddysgu sgiliau adfywio Cardiopulmonary (CPR) a sgiliau cymorth mewn argyfwng, arall. Yn anad dim mae’r dymïau byw a’r chwarae rôl yn cadw’r siesiynau’n fywiog.
"Fe wnes i gysgu cyn i mi feddwl amdano," meddai un o’r bobl ifanc a dreuliodd y noson flaenorol mewn pabell. "Roeddwn i’n deffro pob awr," meddai ei gyd-wersyllwr yn y babell pan gofynwyd iddo am ei reswm am beidio ag ymuno âg eraill yn y gêm bêl fasged.
Fel i’r diwrnod ddirwyn i ben bu grŵp o bobl ifanc mewn grwpiau bychain yn trafod stereoteipiau a pham ei bod yn bwysig i’w herio. Roedd y drafodaeth yn fywiog a dangosodd llawer o bobl frwdfrydedd am ymhel â phrosiectau yn gysylltiedig â chydraddoldeb ar ôl i Our Space orffen yfory.
Y Trydydd Diwrnod
Nid allai’r cymylau tywyll na’r dŵr oer odditanynt atal gwersyllwyr Our Space rhag sglefrio i lawr gwifren sip dros Lyn Windermere. Mae’r gweithgaredd hynod o boblogaidd hwn yn un yn unig o gyfres o dasgiau heriol wedi’u cynllunio i ysgogi’r grwpiau i oresgyn anawsterau drwy waith tîm a hyfforddiant. Fe dderbyniwyd yr her yn ddiymdroi ac ar ôl tipyn o lyncu gwrol( ac ambell i gychwyn ffug sigledig) ymlwybrodd y gwersyllwyr dros y llinell i ddiogelwch tir sych ymhen arall y llun.
Mae arweiniaeth a gwaith tim yn rhannau pwysig o’n rhaglen Our Space felly cawsom i’r cyfranogwyr gymryd rhan mewn ymarferion grŵp a bu’n gymorth iddynt i ddeall sut mae gwaith tim yn gymorth i gyflawni tasgau anodd. Roedd rhai or rhain yn cynnwys defnyddio ystullod pren a rhaffau i symud o un pen y nant i’r llall heb gyffwrdd â’r dŵr.
"Roedd e’n anodd, ond llwyddon ni i’w wneud trwy weithio gyda’n gilydd”, meddai gwersyllwr o’r Alban. Cyfranwyd i’r ymarferion hyn gan y sesiynau damcaniaeth ar arwain yn un o nosweithiau’r wythnos.
Fel i heulwen yr hwyrddydd wanhau, gwnaeth grŵp arall o wersyllwyr baratoi i dreulio’r noson yn herio’r elfennau â pheth gwersylla awyr agored hen ffasiwn. Daear talpiog? Synau dychrynllyd o’r gelltydd? Cawn ni adroddiad ar sut yr aeth pethau yfory.
Yr Ail Ddiwrnod
Daeth yr ail ddiwrnod yn Our Space âg awyr llwydach i Ardal y Llynoedd, ond roedd yr hwyl yn y gwersyll gystal ag arfer.
Wrth weithio yn eu timoedd, mae’r grwpiau wedi cyfrannu mewn amryw o weithgareddau awyr agored anturus trwy gydol y dydd, ar adeiladu tîm ,ac ar arwain .
Ar brynhawn dydd Mawrth, cyrhaeddodd pobl o’r prosiect Croeso y Comisiwn yng Nghymru i gyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb a hawliau dynol rhyngweithiol. Roedd yr hyfforddiant yn heriol, ond fe’i dderbyniwyd yn dda , ac fe lwyddodd i ysgogi’r grŵp i ystyried addasrwydd y materion pwysig hyn yn eu byd hwy.
Ar ôl yr hyfforddiant, eglurodd y grŵp yr hyn yr oeddent wedi ei ddysgu:
‘Weithiau rydym yn tramgwyddo pobl yn fwy wrth geisio peidio â gwneud hynny.’
‘Rydym yn byw mewn gwlad amlddiwylliannol , mae am gymysgu â phobl sy’n wahanol a rhan ohonno yw cyfaddawdu.’
Yn ddiweddarach yn yr wythnos, caiff y gwersyll y gefnogaeth i ddefnyddio ‘u brwdfrydedd mewn gweithred fel iddyn nhw ddatblygu syniadau ar gyfer prosiectau i’w cychwyn yn eu hysgolion neu gymunedau.
Yn barod mae’r bobl ifanc yn lleisio brwdfrydedd gwirioneddol i ddod yn bencampwyr cydraddoldeb, ac i aros mewn cysylltiad â’r comisiwn a’i gilydd ar dudalen arbennig ar y safle rhwydweithio cymdeithasol Bebo,a fydd hefyd yn dangos ddyddiaduron fideo wedi ‘u cyflwyno gan y bobl ifanc trwy gydol yr wythnos.
Y Diwrnod Cyntaf
Ar ôl y cyffro cychwynnol o gyrraedd y gwersyll, dechreuom ar ein gwaith a rhannu’r bobl ifanc yn bresennol i mewn i grwpiau lle byddan nhw’n cwrdd a gwneud ffrindiau â phobl o rannau arall y wlad. Yna gwahanodd y grwpiau i drafod rôl cydraddoldeb a hawliau dynol yn eu bywydau a’u cymunedau,a sut fyddent yn gweithredu ar hynny ar ôl y gwersyll.
Yn y sesiwn gyntaf, codwyd hil, crefydd, cydraddoldeb, oedran pleidleisio ac argaeledd clybiau ieuenctid gan y grwpiau fel rhai o’r materion mwyaf pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw.
Roedd naws y gwersyll yn ysbrydoledig ac ar ôl yr oriau cynnar gallem yn barod gweld grwpiau o bobl yn cymysgu ac yn dod i ddealltwriaeth gyffredinol o ddiwylliant personol ei gilydd.
Oriel Our Space









Cefndir
Yma yn y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol rydym yn ymroddedig ar adeiladu gymdeithas tecach ac fwy cydradd, lle bo pawb yn cael eu trin âg urddas a pharch. Rydym eisiau gweithio â phobl ifanc yn arbennig er mwyn cyflawni ein gweledigaeth. Gyda’n gilydd gallwn ddatblygu cenhedlaeth heb rhagfarn.
Eleni byddwn yn lansio nifer o brosiectau ar gyfer pobl ifanc led led Prydain – i’w dwyn ynghyd ac i roi’r amser a’r lle iddynt ddod i adnabod ei gilydd ac i ddysgu oddi wrth eu cefndiroedd a’u profiadau. Un o’r prosiectau hynny yw Our Space.
Beth yw Our Space?
Cynhelir Our Space mewn partneriaeth â’r sefydliad ieuenctid Skill Force sy’n arbenigo mewn gweithgareddau awyr agored ac hyfforddiant ar arwain ar gyfer pobl ifanc. Gyda’n gilydd, ein hamcan yw darparu wythnos o antur, heriau a dysgu sgiliau byw i 100 o bobl ifanc o gefndiroedd gwahanol led led Lloegr, Yr Alban a Chymru.