Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru 

 

 

View this page in English

Diben y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yw sicrhau bod y broses creu polisïau yng Nghymru yn adlewyrchu anghenion Cymru ac yn gweithredu rhaglen waith yng Nghymru.

I gyflawni ei diben bydd Cyfarwyddiaeth Cymru yn:

  • Gweithio gyda Phwyllgor Cymru i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu hystyried yng nghynllun busnes Prydain Fawr ac i weithredu rhaglen waith briodol i Gymru

  • Cydlynu'r holl agweddau ar waith y Comisiwn yng Nghymru i gael yr effaith fwyaf ar strategaeth Prydain Fawr, lleihau'r risg ac ychwanegu gwerth ati

  • Ffurfio sail tystiolaeth gadarn sy'n galluogi'r Comisiwn i siarad ag awdurdod ar faterion polisi a bod yn glir o ran beth sydd angen ei newid

  • Canfod y synergedd rhwng agendâu'r Comisiwn a'r Llywodraeth a datblygu strategaethau dylanwadol i gyflawni amcanion y Comisiwn yng Nghymru

  • Cyfleu amcanion y Comisiwn mewn modd darbwyllol i ymgysylltu â rhanddeiliaid a sicrhau gweithrediad

  • Defnyddio grymoedd cyfreithiol y Comisiwn i wella mynediad at gyfiawnder a hyrwyddo cymdeithas deg a chyfiawn