Prif Swyddog Gweithredol, Bwrdd Buddsoddi Gweithlu Philadelphia
View this page in English
Mae Ms. Glickman yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol a chyfeiriad Bwrdd Buddsoddi Gweithlu Philadelphia, a sefydlwyd ym 1999. Corfforaeth nad yw’n gwneud elw yw BBGP gyda’r genhadaeth o adeiladu mantais gweithlu cystadleuol Philadelphia. Cyn hynny, roedd hi’n is lywydd Datblygu Sefydliadol yng Nghyngor Diwydiant Preifat Philadelphia, lle roedd yn gyfrifol am ddatblygu Deddf Buddsoddi Gweithlu’r ddinas a arwyddwyd yn gyfreithlon ym mis Awst 1998.
Mae Ms. Glickman yn ddiwyd mewn creu cyfleon er lles y ddinas a’i phreswylwyr. Mae hi’n is lywydd cyntaf yng Nghyngor Datblygu Gweithlu Cynhadledd Maer yr UD; aelod penodedig Tasglu Hapchwarae’r ddinas; wedi sefydlu a chadeirio Graduate! Philadelphia ar y cyd; wedi sefydlu Excel Philadelphia,menter i wella graddau llythrennedd oedolion; wedi sefydlu ac yn aelod bwrdd’ Life Science Career Alliance’; ac yn wirfoddolwraig gyda United Way of Southeastern Pennsylvania.