View this page in English

Mae'n bleser gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol gyhoeddi enillwyr cystadleuaeth animeiddio Prosiect Croeso.
Aeth Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru, Kate Bennet, i weld disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Coryton i ddweud wrthynt am y newyddion cyffrous.
Imogen, Ben, Mathew, Sam a Cameron, i gyd yn 11 oed, oedd enillwyr y brif wobr. Daeth eu syniad i'r brig o blith 1,000 o ymgeiswyr o bob rhan o Gymru.
Pan gawson nhw'r newyddion eu bod wedi ennill dywedodd Cameron, 'Teimlais yn falch ond yn methu credu ein bod wedi ennill', ac yn ôl Ben 'Roeddwn wedi fy synnu ein bod wedi ennill oherwydd roedd y gystadleuaeth yn agored o grŵp oedran eang ac roeddwn i'n meddwl y byddai plant hŷn yn ennill'.
Lansiwyd y gystadleuaeth ym mis Ionawr eleni i ddod o hyd i syniad oedd yn herio gwahaniaethu a rhagfarn. Roedd yn agored i holl bobl ifanc Cymru sy'n 25 oed ac iau. Y wobr yw gweld y syniad dechreuol hwnnw yn dod yn fyw drwy waith Calon, cwmni animeiddio gwobrwyedig yng Nghymru a gweld y gwaith animeiddio ar y sgrîn mewn sinemâu ledled Cymru yr haf hwn.
Dywedodd Kate Bennett, 'Roedd safon y cynigion yn eithriadol o uchel, ac rydym mor falch ein bod wedi cael ymateb mor wych. Dewiswyd y syniad a enillodd am symlrwydd ei neges ac am ei fod yn cynnwys agweddau gwahanol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ac yn fwy na dim, mae'n cyfathrebu’n hollol glir bod bwlio a gwahaniaethu yn gwbl annerbyniol.'
Wrth son am y syniad sy’n sail i'r gwaith buddugol dywedodd Sam, 'Dewiswyd bwlio gennym oherwydd ei fod yn berthnasol i ysgolion a buom yn meddwl am y prif resymau pam y caiff plant eu bwlio'. Ychwanegodd Imogen, 'Weithiau rwy'n teimlo dros y rhai sy'n bwlio oherwydd mae ganddyn nhw eu rhesymau trist eu hun am ymddwyn fel hynny. Mae ein hanimeiddiad yn gwneud i mi deimlo'n eithaf trist oherwydd bod y math hwn o fwlio yn digwydd mewn ysgolion ac rydw i am ei atal'. Gofynna Mathew, 'Nid ydw i’n gweld unrhyw ddiben i ragfarn, pam na allwn ni gyd fyw mewn heddwch?'
Mae’r animeiddiad ar hyn o bryd yn cyrraedd diwedd y cyfnod ôl-gynhyrchu a bydd ar gael i'w weld ar safle ‘YouTube’ y Comisiwn, ar ôl cael ei sgriniad cyntaf yng Nghaerdydd ar 15 Gorffennaf.