View this page in English
Heno mae Cerys Matthews yn serennu mewn digwyddiad cerddorol byw arbennig unigryw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Noddir y gig sy wedi’i werthu’n llwyr gan Gomisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Amnest Rhyngwladol a bydd yn hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru.
Mae rhes aruthrol o berfformiadau yn addo noson wych yn amrywio o ganu gwerin i roc yng nghwmni rhai o gerddorion mwyaf talentog Cymru.
Yn y gig heno bydd Cerys Matthews, Fflur Dafydd a'r Barf ac eraill yn siarad am ymhel â a gweithredu ar faterion hawliau dynol yng Nghymru fel:
- trais yn erbyn menywod a masnachu rhyw
- rhagfarn a throseddau casineb yn erbyn y sipsi a theithwyr ac eraill
- plant a phobl ifanc yn cael eu trin heb urddas a pharch mewn ysbytai, ysgolion a’r system cyfiawnder troseddol.
Dywedodd Kate Bennett, Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
'Eleni byddwn yn dathlu 60 mlynedd ers Datganiad y Cenedloedd Unedig ar Hawliau Dynol – eto bydd llawer ohonom yn dal yn cael ein trin heb urddas na pharch. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac Amnest yn benderfynol y bydd gweithredu i ddiogelu ac hyrwyddo hawliau dynol yn flaenllaw yn agenda wleidyddol Cymru.'
Dywedodd Cathy Owens, Cyfarwyddydd Raglen dros Amnest Rhyngwladol:
'Rydym ni wedi bod yn edrych ymlaen i’r gig yma ers tipyn ac mae’n gyfle i atgoffa pobl pa mor bwysig yw hi i ddiogelu’n hawliau dynol yma yng Nghymru fel y mae ym mannau anghysbell y byd.'
Dywedodd Fflur Dafydd a'r Barf: 'Bydd hon yn noson wych o gerddoriaeth ac rydym yn falch i berfformio yn y digwyddiad hwn sy’n cysylltu â materion hawliau dynol hollbwysig y mae’r grym gennym i newid- ac i wisgo’r crys t gorau ar y Maes.'
Ymholiadau’r cyfryngau i Sue Dye ar 07976325863
Cathy Owens ar 02920 786415 neu 07738 718638
Nodiadau i Olygyddion
1. Mae’r gig yn y Maes B, Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Park Place, Caerdydd am 8.00yh - 2.00yb. Yn perfformio mae Cerys Matthews, Fflur Dafydd a’r Barf, Gai Toms, ac Al Lewis.
2. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2006,a fabwysiadodd cyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal. Mae’n eiriolaeth annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol, a’i nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, meithrin cysylltiadau da rhwng pobl ac hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.
Mae gan y Comisiwn stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
3. Symudiad o bobl gyffredin led led y byd yw Amnest Rhyngwladol sy’n sefyll dros ddynoliaeth a hawliau dynol.