View this page in English
Dydd Mercher 18 Mehefin, Gwesty’r Metropole, Llandrindod
Yr wythnos diwethaf, bu’r Fonesig Gillian Morgan,Ysgrifennydd Parhaol y Cynulliad a Sallie Glickman, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Buddsoddi Gweithlu Philadelphia yn ysbrydoledig yn ein Cynhadledd Gyfnewidfa Cydraddoldeb.
Fe arweiniodd Gill a Sallie drafodaeth o gwmpas y materion canlynol:
- Derbyn cyfrifoldeb personol dros gyflawni newid
- Dangos arweiniaeth er nad ydych yn dal swydd o awdurdod
- Datblygu dulliau i ymroddi i’r gwaith o ateb yr heriau sy’n ymddangos yn anhydrin
- Adeiladu partneriaethau effeithiol er mwyn cyflawni newid
- Cryfhau’r rhwydwaith ymarferwyr i gynnig cefnogaeth cilyddol ac i ddysgu oddi ar ei gilydd
Yn ystod y prynhawn gwnaeth y darlledwr Sarah Dickins gyfweliadau byr gyda phobl sy wedi dangos blaengaredd yn hyrwyddo amcanion cydraddoldeb ac roedd digon o drafodaeth a rhwydweithio i’w gael trwy gydol y dydd.
Fe wnaeth y dirprwyon ddangos eu brwdfrydedd am y digwyddiad yn y ffurflenni gwerthuso positif iawn, er enghraifft:
'Ro’n i wrth fy modd gyda’r dechneg cyfweld a ddefnyddiwyd trwy gydol y dydd. Ro’dd y Cwestiwn ac Ateb yn wir ddiddorol ac yn cadw’r sylw. Diolch am gynhadledd bleserus iawn'
'Llawer o ddiolch am ddiwrnod mor ysbrydoledig, roedd yn wych'
'Roedd gwaith y Fonesig Gillian Morgan yn ysbrydoledig ac yn galonogol iawn'
'Wrth fy modd â threfniant y diwrnod – roedd y Cwestiwn ac Ateb yn y dull newyddiadurol wedi gweithio’n fendigedig a dylid ei ddefnyddio eto'
'Roedd y gweithdai yn rhagorol ac yn cynnig arolwg gwych o’n materion a dilemâu'