Datganiad i't wasg: Rhagfarn yn ysgogi plant  

 

 

View this page in English

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn lansio ffilm ymgyrchu wedi'i animeiddio heddiw - 'Dy Dewis Di’. Mae'r ffilm wedi'i seilio ar syniadau buddugol disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Coryton yng Nghaerdydd, a gystadlodd yng nghystadleuaeth Prosiect Croeso'r Comisiwn. Mae'r lansiad yn cael ei gynnal yn Sinema'r Odeon, Bae Caerdydd, gyda'r enillwyr yn y gynulleidfa.

Lansiwyd y gystadleuaeth ym mis Ionawr eleni i ddod o hyd i syniad oedd yn herio gwahaniaethu a rhagfarn. Roedd yn agored i holl bobl ifanc Cymru sy'n 25 oed ac iau. Y wobr yw gweld y syniad dechreuol hwnnw yn dod yn fyw drwy waith Calon, cwmni animeiddio gwobrwyedig yng Nghymru a gweld y gwaith animeiddio ar y sgrîn mewn sinemâu ledled Cymru yr haf hwn.

winning children meet Kate BennettAeth Cyfarwyddydd Cenedlaethol Cymru, Kate Bennet, i gwrdd â'r plant i ddweud wrthynt am y newyddion cyffrous. Imogen Buckley, Ben Davies, Mathew Johnson, Sam Willson a Cameron Hunter, i gyd yn 10 ac 11 oed, oedd enillwyr y brif wobr. Daeth eu syniad i'r brig o blith 1,000 o ymgeiswyr o bob rhan o Gymru.

Pan gawson nhw'r newyddion eu bod wedi ennill dywedodd Cameron, “Teimlais yn falch ond yn methu credu ein bod wedi ennill”, ac yn ôl Ben  “Roeddwn wedi fy synnu ein bod wedi ennill oherwydd roedd y gystadleuaeth yn agored i grŵp oedran eang ac roeddwn i'n meddwl y byddai plant hŷn yn ennill”.

Dywedodd Kate Bennett, “Roedd safon y cynigion yn eithriadol o uchel, ac rydym mor falch ein bod wedi cael ymateb mor wych. Dewiswyd y syniad a enillodd am symlrwydd ei neges ac am ei fod yn cynnwys agweddau gwahanol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Ac yn fwy na dim, mae'n cyfathrebu’n hollol glir bod bwlio a gwahaniaethu yn gwbl annerbyniol.”

Wrth son am y syniad sy’n sail i'r gwaith buddugol dywedodd Sam, “Dewiswyd bwlio gennym oherwydd ei fod yn berthnasol i ysgolion a buom yn meddwl am y prif resymau pam y caiff plant eu bwlio. Ychwanegodd Imogen, “Weithiau rwy'n teimlo dros y rhai sy'n bwlio oherwydd mae ganddyn nhw eu rhesymau trist eu hun am ymddwyn fel hynny. Mae ein hanimeiddiad yn gwneud i mi deimlo'n eithaf trist oherwydd bod y math hwn o fwlio yn digwydd mewn ysgolion ac rydw i am ei atal”.  Gofynna Mathew, “Nid ydw i’n gweld unrhyw ddiben i ragfarn, pam na allwn ni gyd fyw mewn heddwch?”

Bydd yr animeiddiad yn cael ei lansio o flaen cynulleidfa wahoddedig yn cynnwys siaradwyr megis y Gweinidog Addysg, Plant a Phobl ifanc, Jane Hutt, a'r cyflwynydd teledu o BBC Cymru, Jason Mohammad ar ddydd Mawrth y 15ed o Orffennaf yn Sinema'r Odeon yng Nghaerdydd. Bydd ar gael i'w wylio a'i lwytho i lawr o'n safle YouTube www.youtube.com/equalityhumanrights 

Rhagfarn yn ysgogi plant fideo

~Diwedd~

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Sue Dye a 07816 681175.

 

Mae'r lansiad yn Sgrin 5 Sinema'r Odeon, Bae Caerdydd am ganol dydd ar ddydd Mawrth y 15ed o Orffennaf. Mae croeso i gynrychiolwyr y wasg fod yn bresennol.

 

NODIADAU I OLYGYDDION

·        Mae'r Prosiect Croeso yn fenter gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, wedi'i ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru.

·        Nod Prosiect Croeso yw hyrwyddo trafodaeth a dealltwriaeth rhwng gwahanol gymunedau i helpu pawb i elwa o Gymru amrywiol ac i’w mwynhau. Er y caiff hyn ei gyflwyno gan dîm cymharol fach, gall gael effaith sylweddol.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a ysgwyddodd gyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.

 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.

 

Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.