View this page in English
Yn dilyn lansiad ei ymchwiliad i gyflwr hawliau dynol ym Mhrydain heddiw, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gofyn i awdurdodau cyhoeddus, fel ysbytai, llywodraeth ac ysgolion, a’r rheini sy’n defnyddio’u gwasanaethau, gyflwyno tystiolaeth i’w helpu i bennu a yw pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch.
Mae’r Comisiwn am greu darlun cywir o sut mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gweithio a pha welliannau y gellir eu gwneud, ac mae’n gofyn i bobl lenwi holiadur byr i roi gwybod am eu profiadau, boed yn dda neu’n ddrwg.
Mae’r Comisiwn am glywed gan unrhyw un sydd wedi defnyddio dadleuon hawliau dynol i herio’r ffordd y cafodd ei drin gan wasanaeth cyhoeddus. Hoffai hefyd glywed gan ddarparwyr gwasanaethau sy’n trin pobl yn deg trwy fabwysiadu dull gwaith sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol.
Mae’r holiadur yn rhan o ymchwiliad ehangach sy’n ceisio pennu sut y gellir datblygu a defnyddio’r fframwaith hawliau dynol presennol i wireddu’r weledigaeth o gymdeithas sydd wedi’i hadeiladu ar sail tegwch a pharch ac sy’n hyderus ym mhob agwedd ar ei hamrywiaeth. Penderfynwyd ar gwmpas yr holiadur yn sgil ymgynghoriad â thros 200 o sefydliadau, gan gynnwys undebau a grwpiau eiriolaeth.
Meddai Trevor Phillips, Cadeirydd y Comisiwn: “Mae deddfwriaeth hawliau dynol wedi’i defnyddio i helpu unigolion, fel pobl hŷn a phobl anabl, sy’n cael eu hamharchu gan y wladwriaeth. Dylai hefyd helpu’r rheini sy’n dioddef pan fo sefydliadau’n llawdrwm wrth arfer eu hawdurdod.
“Ond mae’r Comisiwn am adeiladu diwylliant hawliau dynol gweithredol ac, os byddwn yn llwyddiannus, daw egwyddorion hawliau dynol, fel egwyddorion sylfaenol tegwch ac urddas, yn rhan annatod o ddulliau darparu gwasanaethau awdurdodau cyhoeddus. Bydd casgliadau’r ymchwiliad hwn yn ein helpu ni i ddangos sut y gall hawliau dynol newid cymdeithas er gwell i ni ar y cyd ac fel unigolion.”
Am ragor o wybodaeth am yr Ymchwiliad ac i lawrlwytho ffurflen ymateb galw am dystiolaeth, ewch i wefan y Comisiwn yn www.equalityhumanrights.com/humanrightsinquiry Bydd y dystiolaeth yn hanfodol o ran helpu i sicrhau bod yr ymchwiliad hwn mor gynhwysfawr â phosibl. Dylid dychwelyd y ffurflenni erbyn 21 Mehefin 2008.
Am ffurflenni mewn fformatau amgen fel Braille a thâp sain, ffoniwch linell gymorth y Comisiwn.
Gallwch ddychwelyd y ffurflen:
- dros yr e-bost i: HRI@equalityhumanrights.com
- dros y ffacs i: 0207 407 7557 – at sylw tîm yr Ymchwiliad Hawliau Dynol
- neu drwy’r post: FREEPOST, RRUY-EJHS-CKGT, Equality and Human Rights Commission - Human Rights Inquiry, 3 More London, Riverside, Tooley Street, Llundain, SE1 2RG
- Os ydych chi angen rhoi’ch ateb dros y ffôn neu ffôn testun, cysylltwch â’n llinell gymorth:
- Ar gyfer Cymru
Ffôn - 0845 604 8810
Ffôn testun - 0845 604 8820
- Ar gyfer Lloegr
Ffôn - 0845 604 6610
Ffôn testun - 0845 604 6620
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Swyddfa Gyfryngau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar 02031170255 neu, y tu allan i oriau arferol, 07767272818.
Nodiadau i Olygyddion
- Daw’r Ymchwiliad, a gyhoeddwyd ar 6 Mawrth 2008, bron i 10 mlynedd ar ôl cyhoeddi’r Ddeddf Hawliau Dynol ym Mhrydain a 60 mlynedd ers cyhoeddi Datganiad Byd-eang y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol. Caiff yr Ymchwiliad ei gadeirio gan y Fonesig Nuala O'Loan, cyn-Ombwdsmon Heddlu Gogledd Iwerddon a arweiniodd yr ymchwiliad i’r bomio yn Omagh.
- O dan y Ddeddf Hawliau Dynol, mae “awdurdodau cyhoeddus” yn cynnwys y cyrff hynny y byddai pobl fel arfer yn eu hystyried yn awdurdodau cyhoeddus (fel awdurdodau lleol) a sefydliadau preifat neu wirfoddol pan fyddant yn cyflawni swyddogaethau cyhoeddus (er enghraifft, cwmni preifat yn rheoli carchar). Mae ein hymchwiliad yn berthnasol i’r holl awdurdodau cyhoeddus a gwmpesir gan y Ddeddf.
- Am ragor o wybodaeth am hawliau dynol cyn llenwi’r ffurflen, ewch i’r adran hawliau dynol ar ein gwefan.
- Cwmpas daearyddol: I gychwyn, cyfyngir yr ymchwiliad i Gymru a Lloegr. Pan fydd Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban yn weithredol, rydym yn gobeithio ymestyn yr ymchwiliad i’r Alban.
Corff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 ac a gymerodd gyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw eiriolwr annibynnol cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau cysylltiadau da rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar sail oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsrywiol ac yn annog sefydliadau i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus ac unigolion.