31/03/08
View this page in English
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cyhoeddi ei raglen grantiau gyntaf heddiw – a bydd yn dyfarnu mwy na £10 miliwn i sefydliadau o bob cwr o Gymru, Lloegr, a’r Alban i hyrwyddo tegwch a pherthynas dda rhwng pobl.
O ganolfannau cyfraith yn Glasgow, prosiectau gweithredu cymunedol yn Swydd Gaerhirfryn, cynghorau cydraddoldeb hiliol yn swydd Essex, a grwpiau anabledd yng Nghaerdydd mae’r Comisiwn yn rhoi cymorth i sefydliadau sy’n gweithio ar bob math o faterion cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae arian wedi ei ddyfarnu ar gyfer tri maes blaenoriaeth: hyrwyddo perthynas dda rhwng pobl, hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol a helpu i ddatblygu achosion cyfreithiol sy’n helpu pobl i gael tegwch. Dangosodd yr ymgeiswyr llwyddiannus fod y gallu ganddynt i gyflawni newid yn eu cymunedau lleol.
Meddai Nicola Brewer, Prif Weithredydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol:
"Rhoi cymorth i’r sefydliadau hynny sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol yw hyn. Mae ganddynt y wybodaeth a’r arbenigedd i ddod â manteision gwirioneddol i’w cymunedau lleol. Drwy ein rhaglen grantiau unigryw gallwn helpu i sicrhau bod y gwaith da hwn yn parhau. Mae rhoi cymorth i’r sefydliadau hyn yn hanfodol os ydym i lwyddo i ehangu cydraddoldeb a thegwch i bawb ym Mhrydain. "
Heddiw mae’r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi sefydlu Rhaglen Meithrin Gallu i helpu sefydliadau lleol i ddatblygu’r gwasanaethau y maen nhw’n eu darparu i’r cyhoedd. Bydd y rhaglen yn nodi bylchau mewn cyllid a darpariaeth gwasanaethau, yn arbennig mewn meysydd gwaith llai cyfarwydd yn ymwneud ag oedran, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd a hawliau dynol.
Canlyniad rhaglen grantiau dros dro'r Comisiwn yw’r cyhoeddiad heddiw ar gyfer 2008/2009 yn dilyn sefydlu’r Comisiwn ym mis Hydref 2007. Nawr bydd y Comisiwn yn dechrau gweithio ar ei strategaeth ariannu tymor hir ar gyfer 2008/9 a thu hwnt, yn siarad gyda sefydliadau ledled y wlad am sut i weithio mewn partneriaeth. Y bwriad yw gwahodd ceisiadau ar gyfer y rhaglen grantiau nesaf tua diwedd 2008.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Dylai sefydliadau sydd am ddatgan diddordeb yn yr ymgynghoriad ar y rhaglen grantiau anfon e-bost i:
grantsconsultation@equalityhumanrights.com
Mae Adran 17 Deddf Cydraddoldeb 2006 yn caniatáu i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol roi cymorth ariannol i sefydliadau sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, perthynas dda rhwng pobl a hawliau dynol.
Mae rhaglen grantiau dros dro ar gyfer 2008/09 ar gael a fydd yn galluogi sefydliadau cymwys i gael cymorth ariannol.
Mae rhestr o’r sefydliadau a gafodd grant dan raglen grantiau dros dro 2008/09 ar gael ar ein gwefan www.equalityhumanrights.com/grants
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff statudol a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a ysgwyddodd gyfrifoldebau’r Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yw’r eiriolwr annibynnol dros gydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain. Ei nod yw lleihau anghydraddoldeb, dileu gwahaniaethu, cryfhau perthynas dda rhwng pobl a hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
Bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorfodi deddfwriaeth cydraddoldeb ar oedran, anabledd rhyw, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu statws trawsryweddol, ac yn annog pobl i gydymffurfio â’r Ddeddf Hawliau Dynol. Mae hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i fusnesau, y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus, ac i unigolion.
Am ragor o wybodaeth am y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ffoniwch 029 2044 7710, neu 07980 597367 ar ôl oriau swyddfa arferol.