Ymchwiliad
Byddwn yn defnyddio amryw o ddulliau wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr Ymchwiliad Hawliau Dynol. Un o'r rhain yw comisiynu ymchwilio ym meysydd penodol yr ydym yn sicr bydd o gymorth yn yr ymchwiliad.
On this page
Adolygiad Llenyddol
Rydym wedi comisiynu Prifysgol Fetropolitan Llundain a 'Global Partners and Associates' i gynnal adolygiad llenyddol ar y dystiolaeth sydd ar gael ynglŷn â gweithredu'r Ddeddf Hawliau Dynol yn Lloegr, Yr Alban a Chymru ac i roi arweiniad i'r ymchwiliad ar y ffordd ymlaen.
Rydym yn awr am gomisiynu ymchwil mewn tri maes penodol o hawliau dynol.
Back to top^
Prosiect 1 - Gwerthuso effaith achosion hawliau dynol yn ol y DDeddf Hawliau Dynol ar ddarparu gwasanaeth gyhoeddus
Amcanion y prosiect hwn yw:
- Nodi achosion hawliau dynol allweddol o gyfraith achosion Llys Hawliau Dynol Ewrop a'r DU
- Ymchwilio effaith nifer o achosion cyfreithiol strategol a gyflwynwyd o dan y Ddeddf Hawliau Dynol ac yn erbyn y DU yn Llys Hawliau Dynol Ewrop ar ystod o gyrff cyhoeddus
- Ymchwilio ar y cyd â darparwyr gwasanaeth o sectorau gwahanol ar y ffordd y mae'r egwyddorion a sefydlwyd yn yr achosion hynny wedi eu hymgorffori ym mholisi, ymarfer ac ymwybyddiaeth ac ymagweddau staff
- Ymchwilio'r effaith gadarnhaol o fewn y sectorau hyn o weithredu egwyddorion hawliau dynol
- Canfod y terfynau sy'n atal neu'n rhwystro'r defnydd o egwyddorion hawliau dynol yn y sectorau hyn.
Back to top^
Prosiect 2 - Effaith y diwylliant hawliau dynol ar sefydliadau'r sector cyhoeddus: gwersi arfer da
Amcanion y prosiect hwn yw:
- Nodi arfer da mewn sectorau cyhoeddus a gwirfoddol ynglŷn â gosod diwylliant hawliau dynol
- Nodi'r camau a gymerwyd ar y ffordd i osod y diwylliant hawliau dynol hwnnw
- Asesu'r effaith bositif a'r lles o ddefnyddio ffyrdd hawliau dynol o fynd ati ar sefydliadau, cyflenwadau gwasanaeth, cwsmeriaid a staff
- Nodi gwersi allweddol wrth ddatblygu diwylliant hawliau dynol a'r ffordd y gall y gwersi hynny gael eu rhannu â sefydliadau arall
Back to top^
Prosiect 3 - Swyddogaeth a phrofiad y cyrff cwynion ac arolygu wrth hybu safonau hawliau dynol mewn gwasanaethau cyhoeddus
Amcanion y prosiect hwn yw i:
- Archwilio swyddogaeth a phrofiad y cyrff cwynion ac arolygu ynglŷn âg arferion hawliau dynol, a sut y bo ganddynt oblygiadau ar y sefydliadau sydd o dan eu gorchwyl
- Cadarnhau sut mae'r cyrff cwynion ac arolygu eu hunain yn gosod egwyddorion hawliau dynol i fewn i'w fframwaith arolygu, ac archwilio'r lles o ddefnyddio'r ffordd hawliau dynol o fynd ati yn eu gwaith
- Nodi arfer da mewn sectorau o fewn cwmpas yr amryw gwynion ac arolygiadau.
- Rhannu profiad rhwng cyrff cwynion ac arolygu yn Lloegr a Chymru, gan ddefnyddio egwyddorion hawliau dynol fel fframwaith.
- Deall sut y mae'r cyrff cwynion ac arolygu yn dal pen rheswm â defnyddwyr gwasanaeth er mwyn llunio egwyddorion a methodoleg arolygu.
Back to top^
Back to top^