Cylch gorchwyl - Ymgynghoriad 

 

 

Rydym wedi ymgynghori â phobl ar y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad hawliau dynol. Mae ‘cylch gorchwyl’ yn golygu amcanion a chwmpas yr ymchwiliad.

Y cylch gorchwyl yw:

  • Asesu cynnydd tuag at effeithiolrwydd a mwynhad diwylliant o barch i hawliau dynol ym Mhrydain.
  • Ystyried y ffordd orau i’r fframwaith hawliau dynol gael ei ddatblygu a’i ddefnyddio er mwyn gwireddu’r weledigaeth o gymdeithas sy’n seiliedig ar degwch a pharch, gyda hyder ym mhob agwedd ar ei hamrywiaeth.

Dim ond yng Nghymru a Lloegr fydd yr ymchwiliad i ddechrau. Unwaith mae Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban yn weithredol, rydym yn gobeithio ymestyn yr ymchwiliad i’r Alban.

Bydd yr ymchwiliad yn edrych ar:

  • agweddau’r cyhoedd tuag at y Ddeddf Hawliau Dynol
  • sut mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn gweithio
  • sut mae’n cael ei defnyddio gan awdurdodau cyhoeddus a sefydliadau eraill lle bo’n briodol


Anfon eich sylwadau

Anfonwch yr atebion i’r cwestiynau hyn drwy e-bost, post neu ffacs:

  • E-bostiwch ni
  • Post: Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Tîm Ymchwilio Hawliau Dynol, 3 More London, Riverside, Tooley Street, Llundain SE1 2RG
  • Ffacs: 0207 407 7557 (i sylw: Human Rights Inquiry Team)