Bu’r Fonesig Nuala O’Loan yn Ombwdsmon yr Heddlu dros Ogledd Iwerddon, gyda’r cyfrifoldeb am ymchwilio i’r holl gwynion yn erbyn yr heddlu. (Gorffennodd ei chyfnod fel Ombwdsmon yr Heddlu ar 5 Tachwedd 2007.)
Mae’r Fonesig Nuala O’Loan yn gyfreithwraig gymwysedig a bu Cadair Jean Monnet mewn Cyfraith Ewropeaidd ganddi ym Mhrifysgol Ulster.
Mae hi wedi bod yn: Gadeirydd Pwyllgor Defnyddwyr Trydan Gogledd Iwerddon; Comisiynydd Arbennig dros Ymchwiliad Ffurfiol Cydraddoldeb Hiliol i Hiliaeth mewn Plismona yng Nghymru a Lloegr, Aelod o’r Awdurdod Heddlu; Is-gadeirydd Pwyllgor Cysylltiadau Cymunedol yr Awdurdod Heddlu; Aelod o Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Gogledd (Gogledd Iwerddon); Cynullydd System Gwyno'r GIG ar gyfer Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Gogledd; Aelod o’r Cyngor Defnyddwyr Cyffredinol, a Chynullydd y Grŵp Trafnidiaeth ac Ynni i’r Cyngor hwnnw; ac Arbenigwr Cyfreithiol i Gyngor Ymgynghorol Cwsmeriaid y Comisiwn Ewropeaidd. Am saith mlynedd, roedd y Fonesig Nuala O’Loan hefyd yn ymwelydd dalfa yng ngorsafoedd heddlu.
Mae hi wedi ysgrifennu mwy na 50 o erthyglau a chyhoeddiadau eraill am y gyfraith, plismona, ffydd a materion eraill. Yn ystod ei gyrfa mae hi wedi siarad mewn cynadleddau di-rif, ac wedi rhoi cyngor i asiantaethau’r llywodraeth sy’n gyfrifol am blismona ac atebolrwydd yr heddlu ym Mrasil, De Affrica, yr Unol Daleithiau, Canada, yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Iwerddon, Portiwgal a ledled y Deyrnas Unedig.
Y Fonesig Nuala O’Loan fydd yn cadeirio ein Hymchwiliad Hawliau Dynol.