Datganiad cyfrinachedd 

 

 

Os ydych chi’n ystyried rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad ond eich bod am i rywbeth gael ei gadw’n gyfrinachol, darllenwch y dudalen hon sy’n egluro polisi’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfrinachedd a datgelu gwybodaeth.

Ar ôl darllen y dudalen hon, os oes gennych chi unrhyw bryderon rydych chi am eu trafod yn gyfrinachol, gallwch anfon e-bost at dîm yr ymchwiliad yn HRI@equalityhumanrights.gov.uk

Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 (‘y Ddeddf’) yn cynnwys rheolau penodol sy’n ymwneud â gwybodaeth a dderbynnir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wrth gynnal ymchwiliad o dan adran 16 y Ddeddf:

  • mae adran 6 y Ddeddf yn nodi na ddylai gwybodaeth a dderbynnir gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ystod ymchwiliad gael ei datgelu ac eithrio lle bo unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol:

o   gyda chaniatâd pob unigolyn y mae’r wybodaeth yn berthnasol iddo

o   yn adroddiad yr ymchwiliad

o   at ddibenion cyflawni swyddogaethau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol mewn perthynas â’i bwerau gorfodi

o   wrth gydymffurfio â gorchymyn llys neu dribiwnlys

o   os yw’r wybodaeth yn ddienw fel na ellir adnabod unrhyw un y mae’r wybodaeth yn berthnasol iddo

o   at ddibenion achosion sifil neu droseddol y mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhan ohonynt

o   os cafodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y wybodaeth dros 70 mlynedd cyn y dyddiad datgelu.

  • mae adran 16 y Ddeddf yn amlinellu’r rheolau sy’n berthnasol pan fo’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am gofnodi tystiolaeth neu gasgliadau o natur ddifrifol ynglŷn â gweithgareddau unigolyn penodol mewn adroddiad ymchwiliad. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys rhoi hawl i’r unigolyn hwnnw gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar yr adroddiad drafft.

Ni fyddwn yn datgelu gwybodaeth a dderbynnir gennych chi neu’ch sefydliad yn ystod yr ymchwiliad oni bai ei bod yn perthyn i’r amgylchiadau cyfyngedig a amlinellir yn adran 6 (3) y Ddeddf. Fodd bynnag, gallwn gynnwys y wybodaeth dan sylw yn adroddiad yr ymchwiliad mewn ffordd a all olygu y bydd modd eich adnabod chi neu’ch sefydliad. Os nad ydych chi am i ni gynnwys gwybodaeth amdanoch chi neu’ch sefydliad yn adroddiad yr ymchwiliad, dylech gysylltu â ni i drafod y mater. Byddwn yn ystyriol o unrhyw bryderon sydd gennych chi ynglŷn â datgelu gwybodaeth, a gobeithio y byddwch chi’n teimlo’n hyderus wrth roi gwybod i ni am unrhyw faterion, gan gynnwys materion hawliau dynol sensitif yr ydych chi’n ymwybodol ohonynt.