Hawl i ryddid i ymgynnull ac ymuno â mudiadau
English version: Right to freedom of assembly and association
Mae gennych hawl i brotestio trwy gynnal cyfarfodydd a phrotestiadau gyda phobl eraill. Ond rhaid i chi ymddwyn yn heddychlon a heb drosedd neu’r bygythiad o droseddu.
Mae gennych hawl hefyd i ffurfio a bod yn rhan o undeb llafur, plaid wleidyddol neu gymdeithas neu grŵp gwirfoddol arall.
Nid oes gan unrhyw un hawl i’ch gorfodi i ymuno â phrotest, undeb llafur, plaid wleidyddol neu gymdeithas arall.
On this page
Cyfyngiadau
Ar brydiau, gall fod yn dderbyniol i awdurdod cyhoeddus gyfyngu ar eich hawl i ryddid i ymgynnull ac ymuno â mudiadau.
Yr unig achosion lle gellir gwneud hyn yw lle gall yr awdurdod ddangos bod sail gyfreithiol briodol i’r camau hyn, a’u bod yn angenrheidiol ac yn ‘gymesurol’ er mwyn:
-
amddiffyn diogelwch gwladol neu ddiogelwch y cyhoedd;
-
atal anhrefn neu drosedd;
-
amddiffyn iechyd neu foesau; neu
-
amddiffyn hawliau a rhyddid pobl eraill.
Mae ymateb ‘cymesurol’ i broblem yn un nad yw’n fwy na’r hyn sy’n ofynnol, ac sy’n briodol a heb fod yn ormodol yn yr amgylchiadau.
Efallai y bydd mwy o gyfyngiadau os byddwch yn gweithio i’r lluoedd arfog neu’r heddlu, neu os ydych yn was sifil.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Erthygl 11: Rhyddid i ymgynnull ac ymuno â mudiadau
1. Mae gan bawb hawl i ryddid i ymgynnull yn heddychlon a rhyddid i ymuno â mudiadau, gan gynnwys yr hawl i sefydlu undebau llafur er mwyn amddiffyn buddiannau ac i ymuno â nhw.
2. Ni roddir unrhyw gyfyngiadau ar arfer yr hawliau hyn, ac eithrio rhai a ragnodir gan y gyfraith ac sy’n ofynnol mewn cymdeithas ddemocrataidd er lles diogelwch gwladol neu ddiogelwch cyhoeddus, er mwyn atal anhrefn neu droseddu, er mwyn diogelu iechyd neu foesau, neu i ddiogelu hawliau a rhyddid pobl eraill. Ni fydd yr erthygl hon yn atal gorfodi cyfyngiadau cyfreithlon ar arfer yr hawliau hyn gan aelodau’r lluoedd arfog, yr heddlu neu weinyddiaeth y wladwriaeth.
Back to top^
Achosion enghreifftiol
Defnyddiodd grŵp o ddynion ifanc ganolfan siopa yn Wellingborough fel man cyfarfod a chymdeithasu. O bryd i’w gilydd, arweiniodd y llu o gwynion gan siopwyr a pherchnogion siopau am y niwsans a achoswyd ganddynt at bresenoldeb yr heddlu. Ysgrifennodd y cyngor lleol at y dynion ifanc yn rhoi gwybod iddynt eu bod wedi cael eu gwahardd o’r ganolfan siopa. Aeth cyfreithiwr ar ran y dynion ifanc â’r achos gerbron llys, gan ddadlau bod ganddynt hawl i ymgynnull ble bynnag y mynnent. Anghytunodd y llys, gan ddweud petai’r dynion ifanc wedi bod yn trefnu protest, neu fath arall o gynulliad heddychlon, y gallent ddibynnu ar eu hawl dynol i ymgynnull am brotest. Am eu bod, yn syml, yn cymdeithasu yn y ganolfan siopa, nid oedd hyn yn gymwys.
(Cymerwyd yr enghraifft hon o Watson, J a Woolf, M, Human rights toolkit, Llundain, LAG, 2003.)
Back to top^