Hawl i briodi 

 

English version: Right to marry

Mae gan ddynion a menywod o oedran priodi yr hawl i briodi a dechrau teulu.

Mae’r llysoedd wedi penderfynu bod yr hawl hon yn estyn i bobl drawsrywiol sydd erbyn hyn yn gallu priodi yn eu rhyw newydd.

Mae Deddf Partneriaeth Sifil 2004 yn golygu y gall dynion hoyw a menywod lesbaidd yn y DU gofrestru partneriaethau sifil erbyn hyn. Bydd gan gyplau sy’n cofrestru partneriaeth sifil yr un hawliau â chyplau priod heterorywiol mewn meysydd fel treth, nawdd cymdeithasol, etifeddiaeth a buddion yn y gweithle.

Gweler hefyd Parch at fywyd preifat a theuluol a gwybodaeth am dueddfryd rhywiol yn Adran cydraddoldeb y safle hwn*.

On this page

 

Cyfyngiadau

Mae’r hawl i briodi yn amodol ar gyfreithiau cenedlaethol sy’n rheoleiddio priodi, gan gynnwys cyfreithiau sy’n gwahardd priodi rhwng mathau penodol o bobl (er enghraifft, perthnasau agos).

Er bod modd i’r llywodraeth gyfyngu ar yr hawl i briodi, rhaid iddo beidio â gorfodi cyfyngiadau sy’n amharu ar hanfod yr hawl.


Back to top^  

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 12: Hawl i briodi

Bydd gan ddynion a menywod o oedran priodi yr hawl i briodi ac i sefydlu teulu, yn unol â chyfreithiau cenedlaethol sy’n llywodraethu arfer yr hawl hon.


Back to top^  

Achos enghreifftiol

B & L v Y Deyrnas Unedig (2005)

Roedd cyfraith Lloegr yn gwahardd rhiant yng nghyfraith rhag priodi ei blentyn yng nghyfraith oni bai y bo’r ddau ohonynt yn 21 oed a bod partneriaid y ddau ohonynt wedi marw. Roedd B yn dad yng nghyfraith i L, ac roeddent yn dymuno priodi.  Roedd mab L yn galw ei dad-cu, B, yn ‘Dad’.

Derbyniodd y llys ddadl y llywodraeth fod i’r ddeddfwriaeth y nod cyfreithlon o ddiogelu’r teulu ac unrhyw blant i’r cwpl. Fodd bynnag, roedd yn ystyried y bu trosedd o ran yr hawl i briodi. Seiliwyd y gwaharddiad yn bennaf ar draddodiad.  Nid oedd unrhyw waharddiad cyfreithiol ar gwpl yn y sefyllfa hon a oedd yn cynnal perthynas y tu allan i briodas. Yn ogystal, ar sawl achlysur roedd cyplau wedi sicrhau eithriadau i’r gwaharddiad trwy Ddeddfau Seneddol personol. Roedd hyn yn dangos nad oedd y gwrthwynebiad i’r fath briodasau yn ddiamod.

(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)


Back to top^