Hawl i ryddid a diogelwch 

 

English version: Right to liberty and security

Mae gennych hawl i’ch rhyddid personol. Ni all y llywodraeth dynnu eich rhyddid oddi wrthych drwy eich carcharu heb reswm da – hyd yn oed am gyfnod byr.

Er enghraifft, os cewch eich dal mewn protest ac y bydd yr heddlu yn eich cadw am gyfnod afresymol, efallai y bydd hyn yn torri ar eich hawl i ryddid.

Yn bwysig, mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn nodi, os cewch eich arestio, bod gennych hawl i:

  • gael gwybod, mewn iaith rydych chi’n ei ddeall, pam y cawsoch eich restio a pha gyhuddiadau rydych chi’n eu hwynebu;
  • cael eich dwyn gerbron llys yn gyflym;
  • mechnïaeth (rhyddhau dros dro wrth i broses y llys barhau) yn destun amodau penodol 
  • cael prawf o fewn amser rhesymol;
  • mynd i lys i herio’ch carchariad os byddwch chi o’r farn ei fod yn anghyfreithlon; ac
  • iawndal, os cawsoch eich carcharu’n anghyfreithlon.

Enghraifft

Cadwodd adran seiciatrig mewn ysbyty nifer o gleifion iechyd meddwl nad oeddent yn siarad llawer o Saesneg neu ddim o gwbl. Roedd aelodau cynllun ymgyfeillio iechyd meddwl a arweinid gan ddefnyddwyr yn pryderu am y ffaith nad oedd gwasanaethau cyfieithydd ar gael wrth gadw’r cleifion hyn. Gwnaethant ddefnyddio dadleuon hawliau dynol ar sail yr hawl i ryddid a’r hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu ar sail iaith i ddadlau’n llwyddiannus dros newid yn arfer yr ysbyty o fethu â darparu cyfieithydd.

(Darparwyd yr enghraifft hon gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)

On this page

 

Cyfyngiadau

O dan amgylchiadau penodol, gall awdurdodau cyhoeddus eich cadw cyhyd ag y byddant yn gweithredu’n unol â’r gyfraith. Er enghraifft, bydd hyn yn gymwys os:

  • i chi gael eich canfod yn euog o drosedd ar ôl euogfarn, a chael eich anfon i’r carchar;
  • na fyddwch wedi gwneud rhywbeth i lys eich gorchymyn i’w wneud;
  • bydd rheswm da i feddwl eich bod wedi cyflawni trosedd, bod rhywun yn ceisio’ch atal rhag cyflawni trosedd, neu eu bod yn ceisio eich atal rhag dianc o drosedd 
  • ydych chi’n sâl yn feddyliol
  • byddwch yn gallu lledaenu clefyd heintus 
  • byddwch chi’n ceisio cael mynediad i’r wlad yn anghyfreithlon; neu
  • y byddwch ar fin cael eich alltudio neu’ch estraddodi (eich anfon i wlad lle rydych wedi eich cyhuddo o gyflawni trosedd).


Back to top^  

Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud

Erthygl 5: Yr hawl i ryddid

1. Mae gan bawb hawl i ryddid a diogelwch personol. Ni chaiff unrhyw un ei amddifadu o’i ryddid, ac eithrio yn yr achosion canlynol, ac yn unol â gweithdrefn a ragnodir gan y gyfraith:

a. carcharu unigolyn yn gyfreithlon ar ôl ei gael yn euog gan lys cymwys;

b. arestio neu garcharu unigolyn yn gyfreithlon am beidio â chydymffurfio â gorchymyn cyfreithlon llys neu orchymyn i sicrhau cyflawni unrhyw rwymedigaeth a ragnodir gan y gyfraith;

c. arestio neu garcharu unigolyn yn gyfreithlon er mwyn ei ddwyn gerbron yr awdurdod cyfreithiol cymwys yn unol â drwgdybiaeth resymol iddo gyflawni trosedd neu pan ystyrir ei fod yn rhesymol angenrheidiol ei atal rhag cyflawni trosedd neu ffoi ar ôl gwneud hynny;

d. carcharu plentyn dan oed trwy orchymyn cyfreithlon at ddibenion goruchwyliaeth addysgol neu ei garcharu’n gyfreithlon at ddibenion ei ddwyn gerbron yr awdurdod cyfreithiol cymwys;

e. carcharu unigolion yn gyfreithlon er mwyn ei atal rhag lledaenu clefydau heintus, neu unigolion â meddwl simsan, sy’n gaeth i alcohol, sy’n gaeth i gyffuriau neu grwydriaid;

f. arestio neu garcharu unigolyn yn gyfreithlon er mwyn ei atal rhag hwyluso mynediad anawdurdodedig i’r wlad gan unigolyn y mae camau yn cael eu cymryd yn ei erbyn gyda’r nod o’i alltudio neu estraddodi.

2. Bydd unrhyw un a gaiff ei arestio yn cael gwybod y rhesymau am hyn, ac am unrhyw gyhuddiad yn ei erbyn, mewn iaith y mae’n ei ddeall ac yn brydlon.

3. Caiff unrhyw un a gaiff ei arestio neu ei garcharu yn unol â darpariaethau paragraff 1(c) yr Erthygl hon ei ddwyn yn brydlon gerbron barnwr neu swyddog arall a awdurdodir gan y gyfraith i arfer grym barnwrol, a bydd ganddo hawl i brawf o fewn amser rhesymol neu i gael ei ryddhau wrth ddisgwyl am brawf. Efallai y bydd y rhyddhau hwn yn amodol ar warantau i ymddangos ar gyfer prawf.

4. Bydd gan unrhyw un a gaiff ei amddifadu o’i ryddid o ganlyniad i gael ei arestio neu garcharu hawl i gymryd camau er mwyn i lys benderfynu ar gyfreithlondeb ei garchariad yn gyflym a sicrhau gorchymyn i’w ryddhau os nad yw’r carchariad yn gyfreithlon.

5. Bydd gan unrhyw un a gafodd ei arestio neu garcharu yn groes i ddarpariaethau’r Erthygl hon hawl i iawndal y gellir ei orfodi’n gyfreithlon.


Back to top^  

Achos enghreifftiol

Austin v Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan (2005)

Ar ddydd Calan Mai 2001, cymerodd miloedd o bobl ran mewn protest wleidyddol yn Oxford Circus, Llundain, gan atal traffig a busnes cyffredin. Ni roddwyd unrhyw rybudd am y brotest i’r heddlu ymlaen llaw ac, yn gyffredinol, roedd y protestwyr yn anghydweithredol. Amgylchynodd yr heddlu ardal a oedd yn cynnwys rhai o’r protestwyr a rhai nad oeddent yn cymryd rhan yn y brotest. Parhawyd i amgylchynu’r ardal hon am fwy na saith awr, a daeth amodau corfforol oddi mewn i’r ardal hon yn annerbyniol. Daeth un protestiwr ac un gwyliedydd a gafodd ei ddal yn y weithred â’u hachosion gerbron y llysoedd. Barnodd yr Uchel Lys bod y weithred o amgylchynu a ddefnyddiwyd gan yr heddlu wedi arwain at amddifadu pawb a ddaliwyd o’u rhyddid, ond bod hyn yn gyfiawn am ei fod yn cael ei gynnwys yn un o’r eithriadau penodedig i’r hawl i ryddid am fod yr heddlu wedi cymryd y camau i atal achosion o drais.

(Crynodeb o achosion a gymerwyd o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)


Back to top^