Diogelu eiddo
English version: Protection of property
Mae gennych hawl i fwynhau eich eiddo yn heddychlon.
Gall eiddo gynnwys pethau fel tir, tai, cyfranddaliadau, trwyddedau, prydlesi, patentau, arian, pensiwn a mathau penodol o fudd-daliadau lles.
Ni all awdurdod cyhoeddus fynd ag eiddo oddi wrthych na gosod cyfyngiadau ar eich defnydd o’ch eiddo heb reswm da iawn.
Mae’r hawl hon yn gymwys i gwmnïau yn ogystal ag unigolion.
Enghraifft
Os bydd awdurdod cyhoeddus yn bwriadu adeiladu ffordd dros dir rhywun, rhaid bod ganddo gyfreithiau ar waith i’w ganiatáu i wneud hyn. Rhaid iddo hefyd gael gweithdrefn i wirio y cafwyd cydbwysedd teg rhwng budd y cyhoedd wrth adeiladu’r ffordd a hawl yr unigolyn i’w dir.
(Cymerwyd yr enghraifft hon o Human rights, human lives, Yr Adran Materion Cyfansoddiadol, 2006.)
On this page
Cyfyngiadau
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd awdurdodau cyhoeddus yn ymyrryd ar eich hawl i fwynhau’ch eiddo yn heddychlon, er enghraifft, trwy gyfyngu ar eich defnydd ohono neu drwy ei gymryd ymaith.
Dim ond lle gall awdurdod ddangos bod i’w gamau sail gyfreithiol briodol a’u bod yn angenrheidiol er lles y cyhoedd y bydd hyn yn bosibl.
Rhaid i’r llywodraeth daro cydbwysedd teg rhwng eich buddiannau chi fel perchennog yr eiddo a buddiannau cyffredinol cymdeithas yn ei chyfanrwydd.
Os cymerir eich eiddo oddi wrthoch, dylai fod gennych hawl i iawndal.
Ni fydd yr hawl hon yn effeithio ar allu awdurdodau cyhoeddus i orfodi trethi neu ddirwyon.
Back to top^
Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud
Protocol 1, Erthygl 1: Diogelu eiddo
Mae gan bob unigolyn naturiol neu gyfreithlon hawl i fwynhau ei eiddo mewn heddwch. Ni cheir amddifadu unrhyw un o’i eiddo ac eithrio er lles y cyhoedd ac yn unol â’r amodau y darperir ar eu cyfer yn unol â’r gyfraith a chan egwyddorion cyffredinol cyfraith ryngwladol.
Fodd bynnag, ni fydd y darpariaethau blaenorol yn amharu mewn unrhyw ffordd ar hawl y Wladwriaeth i orfodi’r cyfreithiau y mae’n eu hystyried yn ofynnol i reoli’r defnydd o eiddo yn unol â’r lles gyffredinol neu i sicrhau talu treth neu gyfraniadau eraill neu gosbau.
Back to top^
Achosion enghreifftiol
Howard v Y Deyrnas Unedig (1985)
Ceisiodd awdurdod brynu tŷ yn orfodol ar gyfer cynllun ailddatblygu tai. Barnodd y Comisiwn Ewropeaidd dros Hawliau Dynol mai’r cwestiwn mewn achosion fel hyn oedd a oedd yr awdurdod cyhoeddus wedi taro cydbwysedd teg rhwng hawliau’r perchnogion eiddo annibynnol a hawliau’r gymuned, mewn unrhyw achos o ddifeddiannu eiddo. Ffactor sylweddol mewn unrhyw gydbwysedd o’r fath fydd argaeledd iawndal sy’n adlewyrchu gwerth yr eiddo a ddifeddiannir.
(Darparwyd y crynodeb achos hwn gan Sefydliad Hawliau Dynol Prydain)
J.A. Pye (Rhydychen) Cyf. v Y Deyrnas Unedig (2005)
Yn ddiweddar, cadarnhaodd Llys Hawliau Dynol Ewrop y gall y byddai gan berchnogion eiddo sy’n colli eu hawl o ganlyniad i feddiant yng ngwrthgefn hawl i iawndal oddi wrth lywodraeth y DU.
Back to top^