Byw’r bywyd a ddewiswch 

shadow play

English version: Living the life you choose

Dylech fod yn rhydd i fyw eich bywyd yn y ffordd a ddymunwch a gwneud eich penderfyniadau chi, o fewn rheswm. 

Mae hyn yn cynnwys y cyfle i wneud yr hyn a ddymunwch yn eich bywyd preifat, cyfarfod a datblygu perthynas ag eraill, a chymryd rhan mewn gweithgareddau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a hamdden hanfodol y gymuned.

Dylech hefyd fod yn gallu mwynhau eich eiddo a’r pethau eraill rydych yn berchen arnynt heb ymyrraeth ddiangen.

Mae addysg yn chwarae rôl bwysig mewn helpu pobl i gyflawni eu potensial mewn bywyd.  Gall addysg agor drysau newydd i bobl a’u hatal rhag cael eu dal mewn bywyd o anfantais.  Felly, mae’n bwysig bod pawb ym Mhrydain yn cael cyfleoedd addysgol.

Mae cyfraith y DU yn cynnwys ystod o hawliau dynol sy’n helpu i roi cyfle i chi a chael rheolaeth dros eich bywyd.

Pa hawliau dynol sy'n berthnasol?